Eisiau ennill arian, dod o hyd i annibyniaeth a mynd ar yr ysgol gyrfa?
Efallai eich bod chi’n chwilio am y swydd iawn neu’r camau nesaf mewn addysg a dim ond angen rhywfaint o gefnogaeth i gyraedd yno.
Dyna le gall Twf Swyddi Cymru+ helpu. Mae’n ffordd wych o roi hwb i’ch hyder a chael blas ar waith y gallai fod gennych ddiddordeb ynddo. Byddwch hefyd yn cael mynediad i hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi cyflogedig gyda chyflogwyr yn eich ardal.
Beth yw Twf Swyddi Cymru+?
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
Mae’n rhaglen hyblyg iawn sydd wedi’i dylunio o’ch cwmpas. Felly, mae Twf Swyddi Cymru+ yn opsiwn da p’un a ydych eisiau ychydig o help neu fwy o gymorth.
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i chynnwys yn y Warant Pobl Ifanc. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Pwy all wneud cais Twf Swyddi Cymru+?
Gallwch wneud cais Twf Swyddi Cymru+ os ydych yn:
- Rhwng 16-18 oed; a
- Byw yng Nghymru; a
- Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant llawn amser
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu’r hyfforddiant ym Mhowys a Cheredigion trwy Goleg Sir Benfro.
Sut i wneud cais am Twf Swyddi Cymru+
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais Twf Swyddi Cymru+, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â Cymru’n Gweithio.
Bydd un o’u cynghorwyr cyfeillgar yn siarad â chi am y cymorth sydd ei angen arnoch a pha gymorth sydd ar gael.
Am ragor o fanylion ewch i wefan Cymru’n Gweithio. . . https://cymrungweithio.llyw.cymru/twf-swyddi-cymru-plws