Beth yw Twf Swyddi Cymru?
- Cyfle i gael swydd chwe mis am dâl yw Twf Swyddi Cymru
- Mae’n talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- Bydd gennych gontract ysgrifenedig gan eich cyflogwyr
- Cewch gyfle i gael y profiad gwaith sydd ei angen arnoch
- Gallwch gael help a mentora ychwanegol tra byddwch yn y swydd os oes gennych anabledd neu os ydych yn wynebu rhwystrau eraill
Ariennir Twf Swyddi Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Ydw i’n gymwys i wneud cais am swydd wag Twf Swyddi Cymru?
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am swydd wag Twf Swyddi Cymru mae’n rhaid eich bod:
- Rhwng 16 a 24 oed
- Yn byw yng Nghymru
- Ddim eisoes mewn cyflogaeth llawn amser (mae cyflogaeth llawn amser yn 16 awr yr wythnos a throsodd)
- Heb gwblhau 6 mis llawn mewn swydd wag Twf Swyddi Cymru o’r blaen
- Heb gael eich atgyfeirio na chymryd rhan yn y Rhaglen Waith neu’r Rhaglen Dewis Gwaith (Holwch eich cynghorydd yn y Ganolfan Byd Gwaith i gadarnhau eich bod wedi cofrestru)
- Ddim mewn addysg amser llawn (16 awr a throsodd yw addysg amser llawn. Sicrhewch eich bod wedi gorffen yr ysgol yn swyddogol ar ôl 30 Mehefin i fod yn gymwys i wneud cais.)
- Ddim yn dilyn rhaglen dysgu seiliedig ar waith Llywodraeth Cymru
Peidiwch â gwneud cais os na allwch fodloni’r holl ofynion cymhwysedd.
Sut gallaf brofi fy mod i’n gymwys ar gyfer Twf Swyddi Cymru?
Mae’n rhaid i chi allu darparu’r dogfennau canlynol:
Sut mae gwneud cais am swydd wag?
Mae llawer o swyddi y gallech eu gwneud ar gael drwy Twf Swyddi Cymru. Mae swyddi a chyflogwyr newydd yn hysbysebu bob dydd felly cofiwch gadw golwg ar y wefan.
Rydym yn rheoli swyddi yn y meysydd canlynol; Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Chastell-nedd Port Talbot, Caerdydd, Sir Fynwy.
- Ewch i’n tudalen swyddi Twf Swyddi Cymru i chwilio am swyddi gwag sydd o ddiddordeb i chi
- Cliciwch ar y ddolen ar frig y dudalen os ydych chi am wneud cais am y swydd hon (bydd hyn yn mynd â chi i Gyrfaoedd Cymru)
- Sicrhewch eich bod wedi’ch cofrestru ar safle Gyrfaoedd Cymru
- Mae’n rhaid i chi gadarnhau eich bod yn gymwys i wneud cais am gyfleoedd swyddi cyn gwneud cais
- Dylech logio i mewn a chwblhau’r cais am swydd. (Gweler ein Canllawiau i Gwblhau eich Cais am Swydd i gael cymorth)
- Dylech gyflwyno eich cais. (Dylech ddarllen drwy’r cais eto a sicrhau eich bod yn fodlon arno)
- Bydd y cyflogwr yn anfon e-bost atoch a fydd yn rhoi gwybod beth fydd yn digwydd nesaf
- Dylech gadw golwg ar eich ceisiadau yn Fy Swyddi