{"id":1931,"date":"2018-03-12T09:49:02","date_gmt":"2018-03-12T09:49:02","guid":{"rendered":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/?p=1931"},"modified":"2018-07-12T11:15:57","modified_gmt":"2018-07-12T11:15:57","slug":"cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/","title":{"rendered":"Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian"},"content":{"rendered":"<p>Cydnabuwyd cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn prentisiaethau, rhaglenni hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth gan un o gwmn\u00efau hyfforddiant gorau Cymru mewn seremoni wobrwyo flynyddol nos Fercher.<\/p>\n<p>Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd \u00e2 swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, ei ail seremoni Wobrwyo Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau flynyddol yn y Pafiliwn Rhyngwladol ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd i gyd-daro ag Wythnos Genedlaethol y Prentisiaethau. Cyrhaeddodd 18 y rowndiau terfynol ledled Cymru.<\/p>\n<p>Ymhlith yr enillwyr oedd: Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Thomas Martin, chef de partie yng Ngwesty Holm House, Penarth. Prentis y Flwyddyn, Mitchell Penberthy, chef de partie yn Charlton House, CH &amp; Co, Bae Caerdydd. Uwch Brentis y Flwyddyn, Karen Jones, rheolwr Euro Garages, Dolgellau.<\/p>\n<p>Cyflogwr Bach y Flwyddyn, Lelo Skip Hire Ltd, Brynsaithmarchog. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, Mainetti, Wrecsam. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, CDT Sidoli, Y Trallwng.<\/p>\n<p>Bydd cyfle i enillwyr y gwobrau nawr i gael eu rhoi gerbron ar gyfer Gwobrau mawreddog Prentisiaethau Cymru, a gyd-drefnir gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Hydref.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn dathlu cyflawniadau unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori ar y disgwyliadau yn ystod eu hymwneud a\u2019u hymrwymiad \u00e2 rhaglenni hyfforddiant a sgiliau,\u201d meddai Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>\u201cMae pawb yn y rownd derfynol wedi dangos dull unigryw o droi at hyfforddiant a datblygiad ac wedi dangos blaengaredd a menter, arloesedd a chreadigedd. Rydym yn ffodus o weithio gydag ambell i gyflogwr a dysgwr eithriadol ar hyd a lled Cymru wrth i ni gyflwyno ystod o raglenni hyfforddiant prentisiaeth, sgiliau a chyflogaeth ar ran Llywodraeth Cymru.\u201d<\/p>\n<p>Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.<\/p>\n<p><strong>Enillwyr<\/strong><\/p>\n<p>Aeth y wobr am Brentis Sylfaen y Flwyddyn i Thomas Martin, y chef de partie 22 oed o Westy Holm House, Penarth. Mae wedi gweithio yn rhai o fwytai gorau Llundain a chyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Cogydd Iau Cymru yn ddiweddar.<\/p>\n<p>Mae\u2019n dweud bod y cyfleoedd sydd wedi deillio o Brentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol wedi rhoi hwb i\u2019w hyder. \u201cRydw i\u2019n hapus iawn i ennill y wobr hon ac mae\u2019n dangos bod llawer o waith caled wedi talu ffordd,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cRydw i am agor fy mwyty fy hun o fewn y pump i chwe blynedd nesaf i hyrwyddo\u2019r cynnyrch gorau o Gymru.\u201d<\/p>\n<p>Yn rownd derfynol y categori oedd Kelly Venables-Jones, Mainetti, Wrecsam a Codi Louise Wiltshire, Jewson Ltd, Llanfair-ym-muallt.<\/p>\n<p>Prentis y flwyddyn oedd y cogydd Mitchell Penberthy, 26 oed, sy\u2019n gweithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Charlton House, CH &amp; Co, Bae Caerdydd. Yn sgil ei ddymuniad brwd i lwyddo, fe\u2019i dyrchafwyd i chef de partie ar \u00f4l cwblhau\u2019r cymhwyster AAA Lefel 3 mewn Coginio Celfydd.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae wedi gwirfoddoli ym mwyty seren Michelin James Sommerin ac wedi rhoi ei enw gerbron am waith arlwyo i bobl bwysig iawn yn Stadiwm y Principality. \u201cMae\u2019n wirioneddol wych ennill y wobr hon a oedd yn annisgwyl,\u201d meddai Mitchell, sy\u2019n bwriadu hogi ei sgiliau cigyddiaeth a symud ymlaen i gymhwyster AAA Lefel 4 mewn Coginio Celfydd.<\/p>\n<p>\u201cRydw i\u2019n dringo\u2019r ysgol yn y gwaith a\u2019r cam nesaf fyddai bod yn sous chef iau.\u201d<\/p>\n<p>Yn rownd derfynol y categori oedd Daniel Raftery, Randall Parker Foods, Llanidloes; Daniel Roberts, Lelo Skip Hire Ltd, Brynsaithmarchog; Rhiannon Lee Wilson, Links Electrical Supplies Ltd, Y Drenewydd a Paul McCarley, T\u00eem Rheoli Adnoddau\u2019n Gynaliadwy Cyngor Sir Powys, Rhaeadr Gwy.<\/p>\n<p>Enillwyd gwobr Uwch Brentis y Flwyddyn gan Karen Jones, rheolwr Euro Garages, Dolgellau. Mae hi newydd gwblhau Uwch Brentisiaeth mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.<\/p>\n<p>Fe\u2019i disgrifiwyd gan ei chyflogwr fel \u201crheolwr gwych\u201d ac mae hi ar daith dysgu gydol oes barhaus er mwyn gwella\u2019i gwybodaeth a\u2019i sgiliau. Cafodd ei henwebu am wobr Rheolwr y Flwyddyn Cymru gan ei chyflogwr yn 2017.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Rhoddodd Karen, sy\u2019n byw yn Nhanygrisiau, ganmoliaeth i\u2019r gefnogaeth mae hi wedi\u2019i chael gan ei thiwtor, Dawn Thomas. \u201cMae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gwmni cwbl ryfeddol, oherwydd cymeron nhw dros fy nghymhwyster Lefel 5 pan nad oeddwn yn llwyddo i fynd ymhellach gyda chwmni hyfforddiant arall,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cByddwn yn argymell prentisiaethau, yn enwedig i bobl ifanc a phobl h\u0177n fel finnau. Mae dysgu\u2019n rhywbeth parhaus oherwydd rydych chi\u2019n dysgu rhywbeth newydd bob dydd.\u201d<\/p>\n<p>Roedd George Carwyn Gilberthorpe, Gower Holiday Parks Ltd, Abertawe yn y rownd derfynol hefyd.<\/p>\n<p>Enwyd Lelo Skip Hire Ltd, Brynsaithmarchog yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn. Recriwtiodd y busnes teuluol ei aelod cyntaf o staff ar raglen Twf Swyddi Cymru bedair blynedd yn \u00f4l ac mae wedi symud ymlaen i Uwch Brentisiaeth mewn rheoli systemau a gweithrediadau. Oherwydd y sgiliau a\u2019r wybodaeth a enillodd, bydd yn rheoli safle newydd i ehangu\u2019r busnes.<\/p>\n<p>Dywedodd Oswyn Jones, cyfarwyddwr Lelo Skip Hire Ltd, ei fod wrth ei fodd o ennill y wobr a datgelodd fod y busnes yn edrych i ehangu a chymryd rhagor o staff. Roedd gweithiwr yn elwa ar y rhaglen brentisiaeth i yrru\u2019r busnes yn ei flaen.<\/p>\n<p>Roedd Wickedly Welsh, Hwlffordd yn rownd derfynol y categori hwn hefyd.<\/p>\n<p>Mainetti, Wrecsam oedd piau gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn. Mae gan yr ailgylchwr cambrenni arloesol, Mainetti, weithlu amlwladol o 160, sy\u2019n cynnwys 56 prentis, rhai ohonynt wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen mewn rheoli adnoddau\u2019n gynaliadwy i Uwch Brentisiaeth mewn rheoli.<\/p>\n<p>Dywed y cwmni fod prentisiaethau wedi helpu cynyddu cynhyrchiant a chynnydd gan 7% a lleihau\u2019r gwastraff sy\u2019n cael ei dirlenwi gan 25%.<\/p>\n<p>Dywedodd Rebecca Burrows, rheolwr Adnoddau Dynol Mainetti UK: \u201cRydw i\u2019n falch iawn o bawb sydd wedi ein helpu ni i gyflawni\u2019r wobr hon. Fel cwmni, ymfalch\u00efwn ar gefnogi\u2019n gweithwyr a\u2019u hyrwyddo a\u2019u datblygu cymaint ag y gallwn.<\/p>\n<p>\u201cCyflogwn weithwyr o ryw 15 cenedl a chaiff pob un ohonynt yr un cyfleoedd i gymryd rhan mewn prentisiaethau. Trwy helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau, mae gennym weithlu hapus a mwy ymgysylltiol.\u201d<\/p>\n<p>Yn rownd derfynol y categori oedd T\u00eem Rheoli Adnoddau\u2019n Gynaliadwy Antur Waunfawr, Caernarfon a Th\u00eem Rheoli Adnoddau\u2019n Gynaliadwy Potters, Y Trallwng.<\/p>\n<p>Cyflogwr Mawr y Flwyddyn oedd CDT Sidoli, Y Trallwng. Mae\u2019r gwneuthurwr pwdinau crefftus wedi sefydlu Academi Brentisiaeth i godi lefelau sgiliau a gwella ansawdd a chynhyrchiant ar draws y busnes.<\/p>\n<p>Mae cysylltiadau gydag ysgolion a chanolfannau gwaith yn cael eu meithrin gan y cwmni, sydd \u00e2 73 aelod o staff o weithlu o 400 sy\u2019n gweithio tuag at gymwysterau sy\u2019n amrywio o Brentisiaethau Sylfaen i Uwch Brentisiaethau.<\/p>\n<p>Yn rownd derfynol y categori oedd T\u00eem Rheoli Adnoddau\u2019n Gynaliadwy Cyngor Sir Powys, Aberhonddu a th\u00eem lletygarwch Stena Line, Wdig.<\/p>\n<p>Picture caption:<\/p>\n<p>Enillwyr y gwobrau gyda\u2019u tlysau (o\u2019r chwith) Karen Jones, Oswyn Jones o Lelo Skip Hire Limited, Mitchell Penberthy, Thomas Martin, Rebecca Burrows o Mainetti a Chris Jones, yn cynrychioli CDT Sidoli.<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2 Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar y Ff\u00f4n: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar y Ff\u00f4n: 01686 650818.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cydnabuwyd cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn prentisiaethau, rhaglenni hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth gan un o gwmn\u00efau hyfforddiant gorau Cymru mewn seremoni wobrwyo flynyddol nos Fercher. Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd \u00e2 swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, ei ail seremoni Wobrwyo Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau flynyddol yn y Pafiliwn Rhyngwladol<a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/\" title=\"ReadCydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian\">&#8230; Read more &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":2096,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[2],"tags":[],"class_list":["post-1931","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-archif-2018"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian | Cambrian Training<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian | Cambrian Training\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cydnabuwyd cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn prentisiaethau, rhaglenni hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth gan un o gwmn\u00efau hyfforddiant gorau Cymru mewn seremoni wobrwyo flynyddol nos Fercher. Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd \u00e2 swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, ei ail seremoni Wobrwyo Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau flynyddol yn y Pafiliwn Rhyngwladol... Read more &raquo;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cambrian Training\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2018-03-12T09:49:02+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2018-07-12T11:15:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/AWARDS-18-2.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"637\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"320\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alison Gill\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alison Gill\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alison Gill\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39\"},\"headline\":\"Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian\",\"datePublished\":\"2018-03-12T09:49:02+00:00\",\"dateModified\":\"2018-07-12T11:15:57+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/\"},\"wordCount\":1164,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2018\\\/03\\\/AWARDS-18-2.jpg\",\"articleSection\":[\"Archif 2018\"],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/\",\"name\":\"Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian | Cambrian Training\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2018\\\/03\\\/AWARDS-18-2.jpg\",\"datePublished\":\"2018-03-12T09:49:02+00:00\",\"dateModified\":\"2018-07-12T11:15:57+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2018\\\/03\\\/AWARDS-18-2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2018\\\/03\\\/AWARDS-18-2.jpg\",\"width\":637,\"height\":320},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Cambrian Training\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39\",\"name\":\"Alison Gill\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alison Gill\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/author\\\/alison\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian | Cambrian Training","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian | Cambrian Training","og_description":"Cydnabuwyd cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn prentisiaethau, rhaglenni hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth gan un o gwmn\u00efau hyfforddiant gorau Cymru mewn seremoni wobrwyo flynyddol nos Fercher. Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd \u00e2 swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, ei ail seremoni Wobrwyo Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau flynyddol yn y Pafiliwn Rhyngwladol... Read more &raquo;","og_url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/","og_site_name":"Cambrian Training","article_published_time":"2018-03-12T09:49:02+00:00","article_modified_time":"2018-07-12T11:15:57+00:00","og_image":[{"width":637,"height":320,"url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/AWARDS-18-2.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Alison Gill","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Alison Gill","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/"},"author":{"name":"Alison Gill","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#\/schema\/person\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39"},"headline":"Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian","datePublished":"2018-03-12T09:49:02+00:00","dateModified":"2018-07-12T11:15:57+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/"},"wordCount":1164,"image":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/AWARDS-18-2.jpg","articleSection":["Archif 2018"],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/","url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/","name":"Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian | Cambrian Training","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/AWARDS-18-2.jpg","datePublished":"2018-03-12T09:49:02+00:00","dateModified":"2018-07-12T11:15:57+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#\/schema\/person\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/AWARDS-18-2.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/AWARDS-18-2.jpg","width":637,"height":320},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/cydnabod-rhagoriaeth-yng-ngwobrau-cwmni-hyfforddiant-cambrian\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/","name":"Cambrian Training","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#\/schema\/person\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39","name":"Alison Gill","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alison Gill"},"url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/author\/alison\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1931","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1931"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1931\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2097,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1931\/revisions\/2097"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2096"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1931"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1931"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1931"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}