{"id":436,"date":"2014-03-02T11:07:16","date_gmt":"2014-03-02T11:07:16","guid":{"rendered":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/?p=436"},"modified":"2014-03-02T11:07:16","modified_gmt":"2014-03-02T11:07:16","slug":"buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/","title":{"rendered":"Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae t\u00eem o gogyddion o Ganolbarth Cymru wedi rhoi\u2019r ardal ar y map trwy ennill cystadleuaeth fawreddog Brwydr y Ddraig ym mhrif ddigwyddiad coginio\u2019r wlad.<\/p>\n<p>Dan arweiniad yr aelod profiadol o D\u00eem Coginio Cenedlaethol Cymru, Nick Davies,  Cogydd-Perchennog y Lion Hotel, Llandinam, brwydrodd y t\u00eem yn erbyn her gref o ardaloedd Gogledd a De Cymru i godi Tlws y Ddraig.<\/p>\n<p>Datgelodd llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru, Colin Gray mai dim ond ambell i bwynt oedd wedi gwahanu\u2019r timau ar \u00f4l tridiau o gystadlu yn 20fed Pencampwriaeth Coginio Ryngwladol Cymru yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos. Noddir y bencampwriaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Unilever Food Solutions a Hybu Cig Cymru.<\/p>\n<p>Yn ymuno \u00e2 Davies, y capten yn nh\u00eem Canolbarth Cymru oedd cyn bencampwr Cogydd Cenedlaethol Cymru, Neil Roberts, sef cogydd-perchennog y Waggon and Horses, Y Drenewydd, Kelly Thomas o Lanbedr Pont Steffan a Stephen Griffiths o\u2019r Trallwng, ill dau\u2019n gweithio i Gwmni Hyfforddiant Cambrian a\u2019r prentis o gogyddion Rhiannon Morris, 17 oed o\u2019r Lion Hotel, Llandinam a Jacob Sampson, 18 oed o\u2019r Raven Inn, y Trallwng. Gareth Johns oedd Rheolwr y T\u00eem, sef cydberchennog Gwesty Wynnstay, Machynlleth.<\/p>\n<p>Gweinodd pob t\u00eem fwydlen tri chwrs i 90 o giniawyr. Dechreuodd Canolbarth Cymru gyda ther\u00een sewin (brithyll m\u00f4r) a chennin wedi\u2019i gywasgu, tarten cregynbysgod Bae Ceredigion hufennog, hollandaise sitrws, salad ffenigl a chucumer wedi\u2019u piclo a saws tomato paprica.<\/p>\n<p>Ar gyfer y prif gwrs, cafwyd crwmp oen rhost Cymru, risol cig oen sinsir sbeislyd, bresych Savoy hufennog, pwmpen cnau menyn rhost, tatws stwnsh mwg Halen M\u00f4n, ffriter offal a sudd sial\u00f3ts ac eirin ysgaw. I bwdin cafwyd tarten siocled a Chwisgi Penderyn, sorbed granadila, pwdin rhew llugaeron, toesen sinamon ceuled oren a salsa mango.<\/p>\n<p>Canmolodd Mr Davies gyd aelodau ei d\u00eem i\u2019r entrychion, yn enwedig y ddau brentis. \u201cAllwn i ddim credu pa mor dda ymdopon nhw gyda\u2019r pwysau, heb wegian o gwbl, aeth popeth fel cloc yn y gegin\u201d, meddai. \u201cGweithio fel t\u00eem oedd ein cryfder mawr. Gweithiodd pob un ohonom ar y tri phryd ac rwy\u2019n credu i hynny dalu ar ei ganfed.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r fuddugoliaeth hon yn cydnabod nad dim ond pwdin coginio yw Canolbarth Cymru. Efallai bod y gwestai mawr i gyd yn Ne a Gogledd Cymru, ond mae yna gogyddion da iawn yma yng Nghanolbarth Cymru ac mae\u2019r rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn ddisglair gyda\u2019r doniau sy\u2019n dod i\u2019r amlwg.<br \/>\n\u201cRoedd hi\u2019n wych cael 18 cogydd yng Nghymru\u2019n cystadlu, sy\u2019n argoeli\u2019n dda ar gyfer y dyfodol. Gobeithiwn drefnu cyfres o giniawau chwaethus yng Nghanolbarth Cymru i ennyn diddordeb rhagor o gogyddion, er mwyn rhwydweithio a chodi lefel y sgiliau yn yr ardal.\u201d<\/p>\n<p>Cymerodd y beirniad ddwy awr i benderfynu  ar yr enillydd. \u201cRoedd y rhan fwyaf o\u2019r pwyntiau ar gyfer blas a chafodd pob t\u00eem sgorau tebyg iawn\u201d, meddai Mr Gray, perchennog Capital Cuisine yng Nghaerdydd.<\/p>\n<p>Eleni, roedd elfen gyhoeddus i\u2019r beirniadu. Estynnwyd gwahoddiad i bawb a eisteddodd i giniawa dros y tridiau i lenwi cerdyn sgorio ac roedd eu pleidleisiau\u2019n cael eu cyfuno gyda rhai\u2019r panel beirniadu i benderfynu ar yr enillydd.<\/p>\n<p>\u201cRoedd pleidlais y cyhoedd yn eithaf agos i sgorau\u2019r beirniaid a\u2019r farn gyfunol oedd mai Canolbarth Cymru oedd piau hi o drwch blewyn,\u201d ychwanegodd Mr Gray. \u201cBu ansawdd y bwyd dros y tridiau\u2019n wych, a chydnabuwyd hyn trwy ddyfarnu medalau aur i\u2019r tri th\u00eem.<\/p>\n<p>\u201cDyma ganlyniad rhyfeddol i Ganolbarth Cymru, a gafodd ei adfer yn ardal Cymdeithas Goginiol Cymru haf diwethaf.\u201d<br \/>\nNewidiodd Cymdeithas Goginiol Cymru ei thraddodiad eleni trwy wahodd y tri th\u00eem rhanbarthol i gystadlu am Dlws y Ddraig i arddangos coginio gorau Cymru. Yn y blynyddoedd diwethaf, gwahoddwyd dau d\u00eem rhyngwladol i gystadlu yn erbyn Cymru yn y gystadleuaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gystadleuaeth wedi creu cymaint o ddiddordeb cyhoeddus yn y rhanbarthau a bu cyfeillgarwch penigamp rhwng y timau\u201d ychwanegodd Mr Gray. Bwriadwn nawr i gyfalafu ar y teimlad cadarnhaol hwn er mwyn symud y gymdeithas yn ei blaen.\u201d<\/p>\n<p>Roedd wrth ei fodd o gyflwyno\u2019r cogyddion oedd yn dod i\u2019r amlwg i arena\u2019r gystadleuaeth, gan fod rhaid i bob t\u00eem gynnwys o leiaf ddau aelod dan 23 oed. \u201cAr \u00f4l cael blas am gystadlu, rwy\u2019n gobeithio y bydd y cogyddion ifanc hyn am barhau,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Dechreuodd Gogledd Cymru\u2019r gystadleuaeth ar ddydd Mawrth, gan goginio bwydlen yn defnyddio Cig Eidion Cymru fel prif gwrs. Yn gapten ar y t\u00eem roedd Toby Beevers, cydberchennog Kokonoir, Brychdyn. Roedd cyd-aelodau ei d\u00eem yn cynnwys Danny Burke, perechennog Shared Olive, Penarl\u00e2g, Hefin Roberts, prif gogydd ac Ioan Evans o Ye Olde Bull\u2019s Head Inn, Biwmaris, Sally Owens, darlithydd yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos a Chris Tull, Signatures Restaurant, Aberconwy.<\/p>\n<p>Cwblhaodd De Cymru\u2019r arlwy ar ddydd Iau, gan goginio porc Cymru fel prif gwrs. Roedd y t\u00eem yn cynnwys y capten Trevor Jones, cogydd gweithredol yn Custom House, Penarth, a phum aelod o\u2019r Celtic Manor Resort, Casnewydd, oedd yn cynnwys y prif gogydd gweithredol Michael Bates, sydd hefyd yn gogydd-perchennog ar y White Hart Village Inn, Llangybi, y cogydd crwst gweithredol Karl Jones-Hughes, y cogydd Simon Crockford a\u2019r dirprwy gogyddion Jonathan Pring a Ffion Lewis.<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2 Colin Gray, llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru ar 02920 851997 neu 07957 422546 neu Duncan Foulkes, swyddog y wasg, ar 01686 650818.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae t\u00eem o gogyddion o Ganolbarth Cymru wedi rhoi\u2019r ardal ar y map trwy ennill cystadleuaeth fawreddog Brwydr y Ddraig ym mhrif ddigwyddiad coginio\u2019r wlad. Dan arweiniad yr aelod profiadol o D\u00eem Coginio Cenedlaethol Cymru, Nick Davies, Cogydd-Perchennog y Lion Hotel, Llandinam, brwydrodd y t\u00eem yn erbyn her gref o ardaloedd Gogledd a De Cymru<a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/\" title=\"ReadBuddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru\">&#8230; Read more &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":437,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"class_list":["post-436","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-archif-2014"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru | Cambrian Training<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru | Cambrian Training\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae t\u00eem o gogyddion o Ganolbarth Cymru wedi rhoi\u2019r ardal ar y map trwy ennill cystadleuaeth fawreddog Brwydr y Ddraig ym mhrif ddigwyddiad coginio\u2019r wlad. Dan arweiniad yr aelod profiadol o D\u00eem Coginio Cenedlaethol Cymru, Nick Davies, Cogydd-Perchennog y Lion Hotel, Llandinam, brwydrodd y t\u00eem yn erbyn her gref o ardaloedd Gogledd a De Cymru... Read more &raquo;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cambrian Training\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2014-03-02T11:07:16+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alison Gill\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alison Gill\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alison Gill\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39\"},\"headline\":\"Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru\",\"datePublished\":\"2014-03-02T11:07:16+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/\"},\"wordCount\":915,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"\",\"articleSection\":[\"Archif 2014\"],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/\",\"name\":\"Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru | Cambrian Training\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"\",\"datePublished\":\"2014-03-02T11:07:16+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/#primaryimage\",\"url\":\"\",\"contentUrl\":\"\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Cambrian Training\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39\",\"name\":\"Alison Gill\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alison Gill\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/author\\\/alison\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru | Cambrian Training","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru | Cambrian Training","og_description":"Mae t\u00eem o gogyddion o Ganolbarth Cymru wedi rhoi\u2019r ardal ar y map trwy ennill cystadleuaeth fawreddog Brwydr y Ddraig ym mhrif ddigwyddiad coginio\u2019r wlad. Dan arweiniad yr aelod profiadol o D\u00eem Coginio Cenedlaethol Cymru, Nick Davies, Cogydd-Perchennog y Lion Hotel, Llandinam, brwydrodd y t\u00eem yn erbyn her gref o ardaloedd Gogledd a De Cymru... Read more &raquo;","og_url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/","og_site_name":"Cambrian Training","article_published_time":"2014-03-02T11:07:16+00:00","author":"Alison Gill","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Alison Gill","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/"},"author":{"name":"Alison Gill","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#\/schema\/person\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39"},"headline":"Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru","datePublished":"2014-03-02T11:07:16+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/"},"wordCount":915,"image":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"","articleSection":["Archif 2014"],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/","url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/","name":"Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru | Cambrian Training","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"","datePublished":"2014-03-02T11:07:16+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#\/schema\/person\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/#primaryimage","url":"","contentUrl":""},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/buddugoliaeth-brwydr-y-ddraig-i-gogyddion-canolbarth-cymru\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/","name":"Cambrian Training","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#\/schema\/person\/9e67bf79b1b1d499a70c6145d296be39","name":"Alison Gill","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ee938bb20006181fd4853db197225eea14693d303c8bf3e61a95f035178dcbd8?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alison Gill"},"url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/author\/alison\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/436","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=436"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/436\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=436"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=436"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=436"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}