{"id":6623,"date":"2024-06-21T10:06:53","date_gmt":"2024-06-21T10:06:53","guid":{"rendered":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/?p=6623"},"modified":"2024-06-21T10:11:02","modified_gmt":"2024-06-21T10:11:02","slug":"siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/","title":{"rendered":"Siopau Cigydd &#8211; Cefnogi neu Golli"},"content":{"rendered":"<p>Mae siopau cigydd wedi mwynhau adfywiad yn ddiweddar diolch i ymgyrchoedd i annog pobl i brynu\u2019n lleol a\u2019r ffaith fod cigyddion yn rhoi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid ac yn barod i addasu eu cynnyrch wrth i ofynion pobl newid. \u201cEr mwyn sicrhau bod siopau cigydd yn para i\u2019r dyfodol mae angen gwneud mwy o ymdrech i hyrwyddo cigyddiaeth fel gyrfa a buddsoddi mewn prentisiaethau cigyddiaeth. Dyma pam mae <a href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Cwmni Hyfforddiant Cambrian<\/a> yn noddi gornest Cigydd Crefft y Flwyddyn Cymru,\u201d meddai Faith O\u2019Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni.<\/p>\n<h3><strong>Busnesau Cigyddion yn Tyfu er bod yr Economi\u2019n Crebachu<\/strong><\/h3>\n<p>Rhwng 1995 a 2019, roedd y lleihad yn nifer siopau cig annibynnol y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu\u2019r dirywiad yn y stryd fawr gan ostwng\u00a0<a href=\"https:\/\/ahdb.org.uk\/news\/consumer-insight-butcher-trends\">60% i tua 6,000<\/a>\u00a0o safleoedd (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Fodd bynnag, yn ddiweddar mae llawer o gwsmeriaid yn dewis dychwelyd i\u2019r stryd fawr a phrynu cig ffres wedi\u2019i fagu\u2019n lleol a\u2019i gynhyrchu mewn ffordd foesegol \u2013 cig y gellir olrhain ei darddiad ac sydd ag \u00f4l troed carbon bychan. Yn ogystal, mae cigyddion sydd wedi\u2019u hyfforddi\u2019n broffesiynol yn rhoi cyngor arbenigol i gwsmeriaid ar baratoi a choginio cig a sut i\u2019w storio\u2019n ddiogel a byddant yn torri\u2019r cig i ofynion penodol cwsmer. Mae mwy o ddewis o gig ffres hefyd, o iau oen i sgwariau bol porc rhost \u00e2 chraclin i wahanol fathau o selsig cartref, prydau parod hwylus i\u2019w coginio a chigoedd barbeciw. Diolch i ymgyrchoedd marchnata Hybu Cig Cymru (HCC), mae cwsmeriaid yn deall bod gan gigyddion ran hanfodol yn y gwaith o gefnogi datblygiad economaidd lleol, hyrwyddo cynnyrch lleol, a phrynu o ffermydd lleol sydd yn eu tro yn defnyddio lladd-dai lleol, gan gefnogi\u2019r gadwyn gyflenwi ar gyfer cig ffres. Y llynedd gwerthwyd mwy o gig eidion a chig oen rhydd na chig felly wedi\u2019i becynnu\u2019n barod. Yn y pedair blynedd diwethaf, arafodd y gostyngiad mewn siopau cig gryn dipyn. Felly yn 2023 roedd 5,637 o siopau cig yn y DU. Mae canlyniadau\u2019r Big British Butchers Survey 2023 gan y National Craft Butchers yn cadarnhau\u2019r adfywiad gyda\u2019r rhan fwyaf o\u2019r cigyddion a holwyd yn nodi bod eu busnesau wedi tyfu yn 2022 \u2013 \u201cgan ddangos adfywiad graddol yn un o gonglfeini\u2019r\u00a0<a href=\"https:\/\/www.thegrocer.co.uk\/high-street\/674.subject\">stryd fawr<\/a>\u00a0yn y DU mewn cyfnod anodd\u201d.<\/p>\n<h3><strong>Cynllunio ar gyfer Olyniaeth \u2013 Hyrwyddo Prentisiaethau Cigyddiaeth<\/strong><\/h3>\n<p>Un o\u2019r prif fygythiadau sy\u2019n wynebu\u2019r sector cigyddiaeth yn y DU, yn cynnwys Cymru, yw oedran cigyddion, gyda hanner y perchnogion busnesau a ymatebodd i\u2019r Big British Butchers Survey 2023, yn 56 oed neu\u2019n h\u0177n a 26% yn bwriadu ymddeol yn y pum mlynedd nesaf. O\u2019r cigyddion a ymatebodd, dim ond 33% sy\u2019n cyflogi prentis ar hyn o bryd er i 82% ddweud y byddent yn croesawu un. \u201cMae\u2019n hanfodol bwysig hyfforddi\u2019r genhedlaeth nesaf o gigyddion a hyrwyddo gyrfaoedd a phrentisiaethau cigyddiaeth er mwyn sicrhau nad ydym yn colli\u2019r sgiliau hyn,\u201d meddai Faith O\u2019Brien.<\/p>\n<p>Cwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC) yw\u2019r darparwr dysgu seiliedig ar waith sy\u2019n darparu\u2019r nifer fwyaf o brentisiaethau cigyddiaeth yng Nghymru ac mae\u2019n cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo\u2019r sector. Dyna pam mai\u2019r cwmni yw noddwr swyddogol cystadleuaeth Cigydd Crefft y Flwyddyn Cymru, a drefnir gan Gymdeithas Goginio Cymru (CAW). Mae hefyd yn cefnogi T\u00eem Cigyddiaeth Crefft Cymru, sy\u2019n cynnwys prentisiaid cigyddiaeth gorau\u2019r wlad.\u00a0<strong>Mae Swyddog Hyfforddiant Cigyddiaeth CHC, Craig Holly, wedi cystadlu yn Nh\u00eem Cigyddiaeth Crefft Cymru yn America<\/strong>. Meddai \u201cRoedd yn anrhydedd fawr i mi gael cynrychioli fy ngwlad ac arddangos fy sgiliau proffesiynol ar lwyfan y byd. Mae\u2019r cyfleoedd hyn i gystadlu yn bwysig gan eu bod yn chwistrellu ffyrdd newydd o feddwl y gallwn eu defnyddio yn y siop. Heb y cystadlaethau hyn, byddai llawer llai o arloesi a datblygu ym maes cigyddiaeth. Mae cystadlu\u2019n rhoi hwb i\u2019r hyder hefyd, gan helpu i hyrwyddo busnes y cystadleuwyr a denu rhagor o gwsmeriaid. Gyda rhagor o bobl yn dewis yn ofalus ble maen nhw\u2019n siopa, gall cystadlaethau fel hyn fod yn fanteisiol i gigyddion.\u201d<\/p>\n<p><strong>Mae Ben Roberts, 32, wedi cwblhau cyfres o brentisiaethau cigyddiaeth gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian<\/strong>, o Brentisiaeth Sylfaen mewn Cynhyrchu Bwyd hyd at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) ac yna Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli Busnes. Ym mis Ionawr eleni, llwyddodd i agor ei siop gigydd ei hun,\u00a0<a href=\"https:\/\/www.astleyandstratton.co.uk\/\">Astely &amp; Stratton Ltd.<\/a>\u00a0yn Farndon, ger Caer, gan gymryd lle siop gigydd Griffiths a fu ar y Stryd Fawr ers 200 mlynedd. Roedd y perchennog diweddaraf yn ymddeol.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019i alluogi i ddysgu crefft a sefydlu ei fusnes ei hun, mae taith Ben trwy ei brentisiaethau wedi rhoi cyfle iddo arddangos ei grefft a rhagori yn ei faes. Mae wedi cystadlu dros ei wlad yn Nh\u00eem Cigyddiaeth Crefft Cymru gan orffen yn drydydd yng nghystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills UK 2021 ac yn ail yng ngornest Cigydd y Flwyddyn Cymru yn yr un wythnos ag yr agorodd ei fusnes newydd. Enillodd Ben wobrau Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru ac yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian 2022 ac mae hefyd wedi\u2019i benodi\u2019n Llysgennad Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru. Mae\u2019n awyddus iawn i gefnogi\u2019r genhedlaeth nesaf o gigyddion.<\/p>\n<p>\u201cFy nod yn y tymor hir yw sefydlu rhaglen brentisiaethau yn y siop, er mwyn i gigyddion ifanc gael yr un profiadau ag y ces i\u2019r fraint o\u2019u cael yn fy ngyrfa hyd yma,\u201d\u00a0<strong>meddai Ben<\/strong>.<\/p>\n<h3><strong>Llywodraeth y DU yn Buddsoddi yn y Stryd Fawr a\u2019r Sector Cigyddiaeth<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Llywodraeth y DU yn cymryd camau i wrthdroi\u2019r dirywiad ac adfywio\u2019r stryd fawr mewn trefi ledled y DU. Mae\u2019r llywodraeth wedi sefydlu Tasglu\u2019r Stryd Fawr ac wedi creu Cronfa Stryd Fawr y Dyfodol gwerth \u00a31 biliwn a Chronfa Trefi gwerth \u00a32.6 biliwn i gefnogi gwaith adnewyddu ac ail-lunio\u2019r stryd fawr a mannau eraill yng nghanol trefi. Mae Menter a Busnes, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynhyrchu adnoddau addysg dwyieithog i ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd mewn Cigyddiaeth yn ysgolion Cymru ar gyfer Camau Cynnydd 3 a 4, gan dargedu myfyrwyr TGAU Technoleg Bwyd.<\/p>\n<h3><strong>Sylw i gigyddion gorau Cymru ar Lwyfan y DU a\u2019r Byd<\/strong><\/h3>\n<p>Mae gan Gymru dreftadaeth gyfoethog o ffermio cig ac mae timau Cigyddiaeth Crefft blaenorol Cymru wedi cael llawer o lwyddiant. Maent wedi ennill cystadlaethau Cigyddiaeth yn WorldSkills UK a Premier Butcher ac mae cigyddion o Gymru wedi\u2019u dewis i gynrychioli t\u00eem y DU mewn cystadlaethau Cigyddiaeth rhyngwladol. Mae hyn i gyd wedi helpu i hyrwyddo prentisiaethau a gyrfaoedd mewn cigyddiaeth.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn falch iawn bod Craig a Ben a phrentisiaid eraill wedi cael llwyddiant yn eu gyrfa. Bydd Hyfforddiant Cambrian yn gwneud eu gorau i sicrhau bod prentisiaid cigyddiaeth Cymru\u2019n cael cyfle yn y dyfodol hefyd i gystadlu yn erbyn y goreuon ac arddangos eu crefft. Bydd hyn yn hwb i lwyddiant a bywiogrwydd y sector cigyddiaeth,\u201d meddai\u00a0<strong>Faith O\u2019Brien<\/strong>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae siopau cigydd wedi mwynhau adfywiad yn ddiweddar diolch i ymgyrchoedd i annog pobl i brynu\u2019n lleol a\u2019r ffaith fod cigyddion yn rhoi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid ac yn barod i addasu eu cynnyrch wrth i ofynion pobl newid. \u201cEr mwyn sicrhau bod siopau cigydd yn para i\u2019r dyfodol mae angen gwneud mwy o ymdrech<a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/\" title=\"ReadSiopau Cigydd &#8211; Cefnogi neu Golli\">&#8230; Read more &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":6624,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[130],"tags":[],"class_list":["post-6623","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-archive-2024"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli | Cambrian Training<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli: Mae siopau cigydd wedi mwynhau adfywiad yn ddiweddar diolch i ymgyrchoedd i annog pobl i brynu\u2019n lleol.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli | Cambrian Training\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli: Mae siopau cigydd wedi mwynhau adfywiad yn ddiweddar diolch i ymgyrchoedd i annog pobl i brynu\u2019n lleol.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cambrian Training\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-06-21T10:06:53+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-06-21T10:11:02+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Philip-Tucker-Welsh-Butcher-of-the-YEar.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"503\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Manon Rosser\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Manon Rosser\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Manon Rosser\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b26ef8d516a1b7faf86df7dd00475c87\"},\"headline\":\"Siopau Cigydd &#8211; Cefnogi neu Golli\",\"datePublished\":\"2024-06-21T10:06:53+00:00\",\"dateModified\":\"2024-06-21T10:11:02+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/\"},\"wordCount\":1152,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Philip-Tucker-Welsh-Butcher-of-the-YEar.png\",\"articleSection\":[\"Archive 2024\"],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/\",\"name\":\"Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli | Cambrian Training\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Philip-Tucker-Welsh-Butcher-of-the-YEar.png\",\"datePublished\":\"2024-06-21T10:06:53+00:00\",\"dateModified\":\"2024-06-21T10:11:02+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b26ef8d516a1b7faf86df7dd00475c87\"},\"description\":\"Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli: Mae siopau cigydd wedi mwynhau adfywiad yn ddiweddar diolch i ymgyrchoedd i annog pobl i brynu\u2019n lleol.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Philip-Tucker-Welsh-Butcher-of-the-YEar.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/06\\\/Philip-Tucker-Welsh-Butcher-of-the-YEar.png\",\"width\":1000,\"height\":503,\"caption\":\"Philip Tucker o Tuckers Butchers, Mwmbwls - Cigydd Crefft y Flwyddyn Cymru\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Siopau Cigydd &#8211; Cefnogi neu Golli\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Cambrian Training\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b26ef8d516a1b7faf86df7dd00475c87\",\"name\":\"Manon Rosser\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/441a559dc8f273a54d5714cf16c20c89ab9359fe5eb9af1c6383ec016f7f0e2e?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/441a559dc8f273a54d5714cf16c20c89ab9359fe5eb9af1c6383ec016f7f0e2e?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/441a559dc8f273a54d5714cf16c20c89ab9359fe5eb9af1c6383ec016f7f0e2e?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Manon Rosser\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cambriantraining.com\\\/wp\\\/cy\\\/author\\\/manon\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli | Cambrian Training","description":"Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli: Mae siopau cigydd wedi mwynhau adfywiad yn ddiweddar diolch i ymgyrchoedd i annog pobl i brynu\u2019n lleol.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli | Cambrian Training","og_description":"Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli: Mae siopau cigydd wedi mwynhau adfywiad yn ddiweddar diolch i ymgyrchoedd i annog pobl i brynu\u2019n lleol.","og_url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/","og_site_name":"Cambrian Training","article_published_time":"2024-06-21T10:06:53+00:00","article_modified_time":"2024-06-21T10:11:02+00:00","og_image":[{"width":1000,"height":503,"url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Philip-Tucker-Welsh-Butcher-of-the-YEar.png","type":"image\/png"}],"author":"Manon Rosser","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Manon Rosser","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/"},"author":{"name":"Manon Rosser","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#\/schema\/person\/b26ef8d516a1b7faf86df7dd00475c87"},"headline":"Siopau Cigydd &#8211; Cefnogi neu Golli","datePublished":"2024-06-21T10:06:53+00:00","dateModified":"2024-06-21T10:11:02+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/"},"wordCount":1152,"image":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Philip-Tucker-Welsh-Butcher-of-the-YEar.png","articleSection":["Archive 2024"],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/","url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/","name":"Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli | Cambrian Training","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Philip-Tucker-Welsh-Butcher-of-the-YEar.png","datePublished":"2024-06-21T10:06:53+00:00","dateModified":"2024-06-21T10:11:02+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#\/schema\/person\/b26ef8d516a1b7faf86df7dd00475c87"},"description":"Siopau Cigydd - Cefnogi neu Golli: Mae siopau cigydd wedi mwynhau adfywiad yn ddiweddar diolch i ymgyrchoedd i annog pobl i brynu\u2019n lleol.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Philip-Tucker-Welsh-Butcher-of-the-YEar.png","contentUrl":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Philip-Tucker-Welsh-Butcher-of-the-YEar.png","width":1000,"height":503,"caption":"Philip Tucker o Tuckers Butchers, Mwmbwls - Cigydd Crefft y Flwyddyn Cymru"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/siopau-cigydd-cefnogi-neu-golli\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Siopau Cigydd &#8211; Cefnogi neu Golli"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/","name":"Cambrian Training","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/#\/schema\/person\/b26ef8d516a1b7faf86df7dd00475c87","name":"Manon Rosser","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/441a559dc8f273a54d5714cf16c20c89ab9359fe5eb9af1c6383ec016f7f0e2e?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/441a559dc8f273a54d5714cf16c20c89ab9359fe5eb9af1c6383ec016f7f0e2e?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/441a559dc8f273a54d5714cf16c20c89ab9359fe5eb9af1c6383ec016f7f0e2e?s=96&d=mm&r=g","caption":"Manon Rosser"},"url":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/author\/manon\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6623","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6623"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6623\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6625,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6623\/revisions\/6625"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6624"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6623"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6623"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6623"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}