Mae prentisiaethau yn rhan hanfodol o gynlluniau olyniaeth yng nghwmni prosesu cig arobryn Gorllewin Cymru, Celtica Foods, sydd â gweithlu o 58.

Mae’r busnes sy’n seiliedig yn Cross Hands, adran cigyddiaeth arlwyo o gyfanwerthwr annibynnol Cymreig Castell Howell Foods, yn cyflenwi cwsmeriaid yn y sector gwasanaethau bwyd a lletygarwch.

Mae’r cwmni yn gweithio’n agos gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian er mwyn cynnig Prentisiaethau mewn Sgiliau’r Diwydiant Bwyd, Cig a Dofednod, Rheolaeth Bwyd a Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd o lefelau 2 i 4 i roi cyflogwyr gwybodaeth ddyfnach o’r sector cig.

“Yn 2018, yr oedran cyfartalog o’r gweithlu yn Celtica Foods oedd 48, gyda nifer o’r arweinwyr tîm uwch dros 50 mlwydd oed,” meddai Edward Morgan, rheolwr hyfforddiant a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol y cwmni. “O ran olyniaeth, roedd yn amlwg bod angen cyflwyno unigolion ifanc i’r busnes.”

Celtica foods body image

Mae Celtica Foods wedi hyfforddi 48 prentis dros nifer o flynyddoedd. Gan gydnabod bod pobl yn dyngedfennol i lwyddiant a thwf y busnes, mae’r cwmni wedi mabwysiadu newid a chynlluniau olyniaeth sy’n ffocysu ar recriwtio gweithwyr ifanc i leihau’r oedran cyfartalog o’r gweithlu.

Ychwanegodd rheolwr cyffredinol, Matthew Evans: “Byddwn yn ffocysu llawer mwy ar brentisiaethau yn y blynyddoedd nesaf wrth i ni weithio tuag at leihau’r oed cyfartalog o’r gweithlu. Mae derbyn cefnogaeth ar gyfer prentisiaethau cigyddiaeth gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian yn hynod o bwysig.”

 

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Arwyn Watkins, OBE, cyfarwyddwr rheoli Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn dweud: “Mae Celtica Foods wedi dangos ymrwymiad hir dymor i’r rhaglen prentisiaeth a’i chymuned leol ac yn adfocad cryf o brentisiaethau fel rhan o’i olyniaeth a’i gynllunio cynaliadwyedd.”