Gwasanaeth Paru Prentisiaethau
Gallwn hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd prentisiaeth o safon ar-lein – Am ddim.
Holi
Fel un o ddarparwyr hyfforddiant pennaf Cymru, gallwn bellach gynnig y cyfle gwych hwn i’r holl gyflogwyr ar draws Cymru i hysbysebu a hyrwyddo’u cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon ar-lein yn rhad ac AM DDIM ar y Gwasanaeth Paru Prentisiaeth.
Mae’r gwasanaeth paru ar wefan Gyrfa Cymru ac ar gael i filoedd o bobl ifanc o Fôn i Fynwy er mwyn chwilio a gwneud cais am swyddi y mae cyflogwyr yn eu creu er mwyn magu eu prentisiaid eu hunain.
Gallwn hysbysebu cyfleoedd am brentisiaeth ar draws y sectorau diwydiant canlynol; Lletygarwch, Cynhyrchu Bwyd a Diod, Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy ac Ailgylchu, Arwain Tîm, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Rheolaeth, Sgiliau Adwerthu, Gweinyddiaeth Fusnes a Gwasanaethau Cynllunio Ariannol, Dysgu a Datblygu Gofal Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dibynnu ar argaeledd.
Cynigia hyn y dewis i gyflogwyr hidlo ac adolygu ceisiadau’n hawdd a llunio rhestr fer a gwahodd ymgeiswyr am gyfweliad, y cyfan o ardal bersonol o’r system.
Fel eich Darparwr Hyfforddiant Prentisiaeth, byddwn hefyd yn gweithio gyda chi i sicrhau y gallwn wneud y mwyaf o effaith a chyrhaeddiad eich hysbyseb trwy gynnig y gwasanaethau ychwanegol canlynol os gofynnir amdanynt;
Os ydych chi’n edrych i recriwtio prentis er mwyn gwella perfformiad eich busnes ac yr hoffech ddefnyddio’r Gwasanaeth Paru Prentisiaeth ar-lein AM DDIM, llenwch y ffurflen isod a’i dychwelyd i’n Cynorthwyydd Marchnata, Kim Williams trwy e-bost; kim.williams@cambriantraining.com
Gwasanaeth Paru Prentisiaeth – Ffurflen Swydd Ddisgrifiad >>
Gwasanaeth Paru Prentisiaeth – Ffurflen Manylion Cyflogwyr >>
Yn ogystal, os oes angen unrhyw arweiniad arnoch ar brentisiaethau yn y gweithle a sut gallwn helpu’ch busnes i gyflawni ei nodau, cysylltwch â’n tîm dros y ffôn; 01938 555893 neu drwy e-bost; info@cambriantraining.com