🎄 Nadolig Llawen gan Hyfforddiant Cambrian! Bydd ein swyddfa ar gau dros y Nadolig o 25ain Rhagfyr hyd at 1af Ionawr 2026. 🎄

Bydd y categori hwn yn arddangos cyflogwyr sydd wedi sefydlu a datblygu rhaglenni prentisiaeth yn eu sefydliad sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant a thwf y busnes.

Dylai ceisiadau dangos un neu fwy o’r canlynol:

  • Dull y sefydliad o ddysgu a datblygu, a chyflwyno’u rhaglen prentisiaeth.
  • Sut mae’r rhaglen brentisiaeth wedi’i chysylltu â nodau ac amcanion sefydliadol eraill a’r budd uniongyrchol neu anuniongyrchol y mae wedi cael ar ganlyniadau’r busnes
  • Unrhyw arferion arloesol (gan gynnwys defnyddio technolegau newydd) sydd wedi’u mewnblannu o fewn neu ochr yn ochr â’r rhaglen prentisiaeth.
  • Sut mae dysgwyr wedi cael eu cefnogi i gyfleoedd cyflogaeth gynaliadwy a sut mae’r rhaglen prentisiaeth yn bodloni eu dyheadau gyrfa hirdymor
  • Cynlluniau sydd gan y busnes i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y rhaglen prentisiaeth.

Mae angen i bob cais cynnwys o leiaf tri llun ansawdd uchel o’r busnes a’u prentisiaid.

Bydd pob unigolyn sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i

Wobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr, a Sgiliau Hyfforddiant Cambrian.

Gynhelir y gwobrau yn y Metropole Hotel & Spa, Llandrindod ar nos Mawrth, 2il Mehefin 2026.

Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Llun 6ed Ebrill 2026.

Meini Prawf i ymgeisio:

Rhaid bod ag o leiaf un unigolyn ar y rhaglen prentisiaeth yn ystod y 12 mis diwethaf neu fod o leiaf un prentis wedi cwblhau yn y 12 mis diwethaf gyda Hyfforddiant Cambrian neu un o’i isgontractwyr.

Rhaid bod yn gyflogwr yng Nghymru neu fod ag o leiaf un swyddfa / lleoliad yng Nghymru.

Categorïau Cyflogwyr:

Busnes Bach (1 – 40 o weithwyr)

Busnes Canolig (50 – 249 o weithwyr)

Busnes Mawr (250+ o weithwyr)

Sut i gyflwyno’ch cais

Cam 1: Lawrlwythwch y ffurflen cais uchod.
(Bydd PDF yn cael ei arbed i’ch ffolder lawrlwythiadau.)

Cam 2: Agorwch y ffurflen, cwblhewch yr holl adrannau gofynnol, ac arbedwch y fersiwn newydd ar eich dyfais.

Cam 3: Dewch yn ôl i’r tudalen hon ac lanlwythwch eich PDF gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
(Sicrhewch eich bod yn atodi eich cais cyn cyflwyno.)

Cyflwyno’r Cais

    Manylion yr Enwebwr