Cyflwynir y cymhwyster hwn trwy lefelau 2 a 3 ac mae’n addas i ddysgwyr sy’n hyfforddi i gymryd rhan yn y diwydiant cynnal a chadw cerbydau.

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Mae’r rhaglen brentisiaeth yn cael ei chyflwyno yn ystod oriau gwaith arferol a gall hyfforddiant fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion ac anghenion eich sefydliad. Bydd y prentis yn derbyn sesiynau un-i-un rheolaidd a chefnogaeth lawn ei swyddog hyfforddi.

Cymwysterau Prentisiaeth sydd ar Gael

Corff a Phaent Cerbydau Lefel 2

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Lefel 2

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Lefel 3

Rhannau Cerbydau Lefel 2

Rhannau Cerbydau Lefel 3

Gall Swyddogion Hyfforddi profiadol eich helpu chi a’ch gweithwyr i ddewis y cwrs cywir ar lefel briodol er mwyn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth berthnasol.

Recriwtio prentis gyda’n Gwasanaeth Paru Prentisiaethau

Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi llwyfan ar-lein AM DDIM i chi hysbysebu a hyrwyddo eich cyfleoedd gwaith prentisiaeth o ansawdd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cyllid ar gael

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid,  gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig.

Cysylltwch â ni

E-bostio ni ar info@cambriantraining.com neu ffoniwch ni: 01938555983