Mae dysgu a datblygu wrth wraidd gwaith prosesu cig a lladd-dy Kepak ym Merthyr, sef y mwyaf yng Nghymru gyda gweithlu dros 8000.

Mae’r cwmni’n defnyddio ei weithrediad yn St Merryn Merthyr, i ddatblygu ei lasbrint ar gyfer datblygu sgiliau, prentisiaethau, cynllun olyniaeth a datblygiad rheoli ar draws y busnes, sydd â 15 safle ledled y DU ac Iwerddon.

Mae safle Merthyr yn cynnwys dau ladd-dy, neuaddau bonio cig oen a chig eidion, a gwaith manwerthu a dosbarthu.

“Mae datblygu sgiliau yn hanfodol i lwyddiant ein busnes,”

“Mae datblygu ein talent ein hunain wrth wraidd strategaeth ddysgu a datblygu Kepak.”

“Mae sawl enghraifft wedi bod o dyfu a datblygiad personol o nifer o’n prentisiaid sydd wedi cael ei dyrchafu’n llwyddiannus i rolau goruchwylio cyfrifol neu i rolau newydd o fewn y busnes.”

Mae gweithwyr sydd wedi datblygu sgiliau newydd a gwella ansawdd a chyflymdra eu gwaith wedi cael ei gwobrwyo gyda chynnydd tal cynyddol.

“Rydym yn gweld ein perthynas gyda Hyfforddiant Cambrian fel perthynas hirdymor ac ein nod yw i uwchsgilio cymaint o’n staff p’un posib er mwyn roi ein hunain mewn sefyllfa gryfach o gymharu â’n cystadleuwyr,” ychwanegodd John.

Ychwanegodd Jeremy Jones, rheolwr gweithrediadau Adnoddau Dynol Kepak: “Mae ein tîm hyfforddi wedi creu rhaglen ddatblygu effeithiol ac wedi’i haddasu sy’n cyflawni cynllun olyniaeth y cwmni.”

“Mae Kepak wedi ymrwymo’n gryf i gefnogi staff i feithrin gwybodaeth, sgiliau a gyrfaoedd llewyrchus ac mae Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn bartneriaid go iawn i wireddu’r ymrwymiad hwn.”