Yr Uwch Brentis Lee yn ffynnu mewn sector a reolir gan ddynion

Mae Lee Price wedi creu gyrfa lwyddiannus mewn sector a reolir gan wrywod, ar ôl defnyddio cyfres o gymwysterau, gan gynnwys Uwch Brentisiaeth, i ehangu ei gwybodaeth, sgiliau a hyder.

Mae’r fam i ddau 60 mlwydd oed o Raeadr Gwy yn uwch swyddog safonau ansawdd ac amgylcheddol yng Nghyngor Sir Powys ond, mae’n rhannu ei harbenigedd hefyd gyda chynghorau yng Ngheredigion, Sir Benfro a Wrecsam a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Hi yw’r person i ‘fynd ati’ i greu systemau rheoli ac archwilio i sicrhau bod cynghorau’n cydymffurfio â set lem o safonau a rheoliadau sy’n sicrhau bod yr holl wasanaethau’n rhedeg yn llyfn ac yn gweithredu’n gyfreithlon ac yn ddiogel. Mae ei swydd eang ei hystod yn cwmpasu rheoli adeiladu, gwasanaethau oedolion, priffyrdd, cludiant, ailgylchu, trosglwyddo gwastraff ac arwyddion.

“Mae cyflawni Uwch Brentisiaeth fel myfyrwraig aeddfed wedi gwella fy ngwybodaeth, gallu, hyder a hunan-gred”

Mae gan Lee restr drawiadol o gymwysterau yn ei henw ac mae wrthi’n gweithio tuag at Dystysgrif Gyffredinol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol. Cyflawnwyd llawer o’r cymwysterau hyn cyn iddi ddechrau Uwch Brentisiaeth (Lefel 4) mewn Systemau a Rheoli Gweithrediadau trwy’r darparwr dysgu Hyfforddiant Cambrian.

Mae hi wedi gweithio i Gyngor Sir Powys ers 22 o flynyddoedd, ar ôl cymhwyso fel triniwr gwallt a thiwtor trin gwallt. Gan ymuno â’r cyngor yn wreiddiol ar gontract deufis fel rheolwr credyd yn yr adran gyllid, aeth Lee ymlaen i sicrhau swydd barhaol mewn gweinyddu cyn i swydd swyddog ansawdd cynorthwyol ddod i’r golwg.

Nid yw wedi edrych yn ôl, gan ei bod hi wedi datblygu ei chymwysterau a’i gwybodaeth yn y gweithle, gan ennill parch gan bawb ar draws sector a reolir gan wrywod.

“Caiff y rhan fwyaf o’r adrannau rwy’n gweithio gyda nhw, ar wahân i wasanaethau oedolion, eu rheoli gan wrywod, ac rydw i bob amser yn ceisio datblygu perthynas gyda’r dynion, yn enwedig cyn imi archwilio, esbonia Lee.

“Mae cyflawni Uwch Brentisiaeth fel myfyrwraig aeddfed wedi gwella fy ngwybodaeth, gallu, hyder a hunan-gred, sydd wedi cryfhau ymhellach y perthnasoedd gydag adrannau ac wedi gwella lefel uchel o barch ar y cyd at ei gilydd.

“Gwnaeth dysgu mwy am y diwydiant gwastraff ac ailgylchu wneud imi sylweddoli faint mae fy nghydweithwyr wir yn ei wybod. Gan fy mod i bellach yn deall eu swyddi a’r diwydiant yn well, mae pob un ohonom yn gweithio’n well fel tîm ac mae wedi gwella effeithiolrwydd a pherfformiad ein gwaith gyda’n gilydd er mwyn cyflawni’n nodau.

“Mae fy nysgu wedi fy ngalluogi i wella’n enfawr ar y ffordd rwy’n rheoli ac yn creu systemau rheoli, archwilio, cyfathrebu a chynghori ar arfer gorau i sicrhau y gallwn gydweithio’n effeithiol i gydymffurfio â’r holl safonau a’u cadw trwy weithredu’n gyfreithlon ac yn ddiogel bob amser.”

Cyngor Lee i fenywod sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa mewn sectorau a reolir gan wrywod yw: “Os oes gennych y wybodaeth a’r hyder, ewch amdani. Ni ddylai fod unrhyw rwystrau i stopio uchelgais.”

Yr hyn sy’n gwneud taith ddysgu Lee hyd yn oed yn fwy rhyfeddol yw iddi gyflawni’r Uwch Brentisiaeth naw mis cyn y dyddiad cwblhau, er gwaethaf colli ei gŵr o 36 o flynyddoedd, Rob, fis yn unig ar ôl dechrau’r cymhwyster.

Cydnabuwyd ei stori ysbrydoledig llynedd pan gafodd ei henwi am Wobr Uwch Brentis y Flwyddyn yng ngwobrau mawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gwobrau blynyddol Hyfforddiant Cambrian.

“Roedd colli fy ngŵr yn dorcalonnus, ond rwy’n gwybod y byddai Rob yn wirioneddol falch fy mod i wedi parhau i gwblhau’r Uwch Brentisiaeth oherwydd roedd yn hynod gefnogol o’m dysgu,”

 

“Roedd Hyfforddiant Cambrian yn gefnogol iawn trwy gydol y Brentisiaeth ac roedd y cyfathrebu’n wych”

“Nid oeddwn i byth yn dda iawn mewn mathemateg yn yr ysgol ond mae gwneud Sgiliau Hanfodol fel rhan o’m Huwch Brentisiaeth wir wedi fy helpu ac wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi.

“Rwy’n llysgennad enfawr ar gyfer Prentisiaethau ac rwy’n credu y gallant drawsnewid eich gwybodaeth, gallu, sgiliau a barn ar fywyd. Rwy’n credu mai Prentisiaethau yw’r ffordd ymlaen, yn enwedig yn yr hinsawdd ansicr sydd ohoni.

“Mae llawer o bobl allan yn y byd sydd o’r farn o bosibl na allant gyflawni eu nodau, ond gall Prentisiaeth eu helpu nhw. Rydych chi’n dysgu’r gwaith wrth i chi ei wneud, yn eich amser eich hun a heb y pwysau gan gyfoedion y gallech ei gael weithiau yn y coleg neu’r brifysgol. Mae’n rhoi’r hyder i chi wthio’ch hun i gadw cyflawni.”

Dywed Jo Weale, rheolwr busnes Cyngor Sir Powys ar gyfer priffyrdd, cludiant ac ailgylchu, ei bod hi’n falch o fod yn rheolwr llinell ar Lee.

“Mae Lee yn hyrwyddwr gwirioneddol o’r hyn y gallwch ei gyflawni o Brentisiaethau. Mae hi hefyd wedi grymuso ein staff ein hunain ac yn rhoi cefnogaeth er mwyn i ni allu cyflwyno gwasanaeth o safon i briffyrdd, cludiant ac ailgylchu, yn ogystal â chyrff mewnol ac allanol.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Hyfforddiant Cambrian – 01938 555893 / info@cambriantraining.com

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar y Ffôn: 01686 650818 neu 07779 785451 neu drwy e-bost: duncan@duncanfoulkespr.co.uk.