Wedi’i gynllunio ar gyfer busnesau sydd am ddechrau neu ehangu eu hadran marchnata digidol, mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant i gymhwyso dysgwyr ag ystod amrywiol ac ymarferol o sgiliau hanfodol.

Marchnata Digidol yw’r defnydd o gyfryngau digidol i echdynnu ac ymgysylltu â chwsmeriaid cyfredol a gwsmeriaid potensial, er enghraifft hysbysebu ar-lein, marchnata e-bost, ac optimeiddio peiriannau chwilio. Mae’r data a gynhyrchir yn galluogi dadansoddiad gronynnog o’r hyn sydd wedi gweithio, gan fynnu sgiliau dadansoddol a chreadigol yn anad dim ond y rhai rydym yn gofyn amdanynt mewn hysbysebu a marchnata traddodiadol.

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Mae’r rhaglen wedi’i darparu yn ystod oriau gwaith arferol a gall hyfforddiant bod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag eich anghenion ac anghenion eich sefydliad. Rydym yn defnyddio cymysg o sesiynau ar-lein, ymarferol a weminar, a bydd y prentis yn derbyn sesiynau un-i-un cyson a chefnogaeth o’u tiwtor.

Cymwysterau prentisiaeth ar Gael

Marchnata Digidol Diploma Lefel 4

Gall ein Swyddogion Hyfforddi profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs cywir ar lefel priodol i ddatblygu eu sgiliau a gwybodaeth.

Recriwtio prentis gydag ein Gwasanaeth Paru Prentisiaethau

Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM I chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cyllid ar gael

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid,  gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig.

Cysylltwch â ni

E-bostio ni ar info@cambriantraining.com neu ffoniwch ni: 01938555983