Mae’r Rheolwr Marchnata Sara-Mai Reyes Escoto yn gobeithio y bydd ei stori lwyddiant yn ysbrydoli dysgwyr dyslecsig eraill i ystyried prentisiaethau.

Dywed Sara-Mai, sy’n gweithio i North Wales Media yn y Fflint, bod diagnosis o ddyslecsia Irlen tra yn yr ysgol gynradd wedi rhwystro ei haddysg o ddifrif. Er ei bod yn y setiau gorau yn yr ysgol, dywedodd athrawes yrfa wrthi na fyddai’n gymwys ar gyfer y coleg.

“Roedd yn amser gwirioneddol ryddhaol yn gallu llywio llong gan wybod bod gen i gefnogaeth pe bai angen fy arwain ar hyd y ffordd,”

sara-mai reyes escoto body image

Gan ofni am ei dyfodol, dioddefodd o iselder cyn i’w thad symud ei fusnes i’r Fflint brofi trobwynt. Bu’n gweithio yn y siop ar benwythnosau ac ar ôl ysgol ac fe gafodd hi gymryd drosodd yr adran ffôn symudol a dechrau Phone Asylum pan oedd ond yn 16 oed.

Fodd bynnag, ar ôl ychydig flynyddoedd fel unig fasnachwr, roedd hi eisiau profi iddi ei hun ei bod yn gallu cyflawni’r un cymwysterau â’i chyfoedion. Aeth ymlaen i gyflawni prentisiaethau lefelau 2 i 4 mewn Gweinyddu Busnes, Gwasanaeth Cwsmeriaid a Rheolaeth gyda chefnogaeth Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae Sara-Mai bellach yn rhedeg yr adran farchnata a rheoli cyfrifon ar gyfer North Wales Media ac mae’n aelod o’r Sefydliad Marchnata Siartredig.

“Roeddwn i eisiau llwyddo yn fy ngyrfa ond hefyd meddu’r un cymwysterau â fy nghyfoedion,” meddai. “Mae wedi dod yn bwysig iawn i mi.

“Mae’r prentisiaethau wedi caniatáu i bopeth glicio. Gallaf gymhwyso pethau newydd i’m swydd tra hefyd yn deall pam mae rhai pethau’n cael eu gwneud mewn ffordd benodol. Mae’n cadarnhau popeth i fi, sy’n bwysig pan mae gen ti ddyslecsia, achos mae’n rhaid iddyn nhw glicio i lynu.”

“Pan oeddwn i’n iau, hoffwn pe bawn i wedi gallu edrych i fyny at daith debyg i mi i weld ei bod yn bosibl. Rwy’n gobeithio y gallaf nawr fod y stori honno i rywun sydd â dyslecsia sy’n edrych ar brentisiaeth.”

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.