Yn ôl North Wales Media, mae prentisiaethau wrth wraidd twf y busnes technoleg, sydd wedi ymrwymo i hyfforddi a datblygu staff.

Mae’r cwmni, sydd â dau brentis ar ei weithlu o 11, yn ymdrechu i ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer marchnata a gwasanaethau TGCh yng Ngogledd Cymru.

“Mae’r Rhaglen Brentisiaethau wedi datblygu personél sy’n asedau mawr yn nhwf y cwmni,”

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau mewn Rheolaeth ar lefelau 3 a 4 i’r cwmni, sydd wedi buddsoddi mewn canolfan fusnes o’r radd flaenaf sydd wedi’i chynllunio o amgylch ei staff.

Yn ystod y pandemig, derbynodd prentisiaid cefnogaeth o bell ac yn ôl rheolwr gyfarwyddwr Cyfryngau Gogledd Cymru, Phill John, mae eu sgiliau cyfathrebu wedi gwella’n sylweddol, sydd wedi denu clod gan gwsmeriaid.

Trwy roi amser i staff ymchwilio a phrofi gwahanol lwyfannau meddalwedd i reoli eu heffeithlonrwydd gwaith a’u proffidioldeb, mae’r cwmni wedi llwyddo i gadw 99% o’i gwsmeriaid presennol a chynyddu gwasanaethau iddynt. Mae tua 30% o’r amser staff yn ymroddedig i ddysgu sgiliau ac arloesi.

“Dim ond o ganlyniad i hyfforddiant parhaus staff y mae NWM yn llwyddiannus ac rydym yn disgwyl cyflogi mwy o brentisiaid yn y dyfodol agos o ganlyniad i lwyddiant ein partneriaeth gyda Hyfforddiant Cambrian. Rydym yn cydnabod eu bod wedi bod yn gaffaeliad i ddatblygu ein hyfforddiant a chymorth staff.”

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

“Mae pob aelod o staff yn cael eu hannog i ddatblygu arddull ddysgu eu hunain a derbyn yr amser a’r adnoddau i wneud hynny.”