Mae Radnor Hills ar berwyl i sicrhau bod pob aelod o staff newydd yn y cwmni’n cael eu cofrestru ar gyfer rhaglen Brentisiaeth ar ôl elwa mewn cyfnod byr o amser.

Cafodd y cwmni o Drefyclo ei enwi yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn 2019 yng Ngwobrau Hyfforddiant Cambrian ar ôl dangos yr effaith gadarnhaol y mae ei raglenni amrywiol wedi’i chael ers iddynt gyflwyno hyfforddiant Brentisiaeth ym mis Hydref 2017.

Yn gweithio mewn diwydiant heb unrhyw lwfans gwallau, mae Radnor Hills yn credu’n gryf bod buddsoddi yn ei staff i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl yn y gweithle yn hanfodol i gynhyrchu bron 4 miliwn o boteli o ddiodydd bob blwyddyn.

“Gwnaethom benderfynu defnyddio’r rhaglen Brentisiaeth i greu gweithlu sefydlog, hyfforddedig a brwdfrydig,” meddai David Pope, y Rheolwr Cyffredinol.
“Rydym yn defnyddio ein rhaglen Brentisiaeth i greu cysondeb yn y ffordd y mae ein staff yn gweithio. Mae’n galluogi iddynt gael yr un lefel o hyfforddiant wrth ymdrin â materion gwaith, ac mae hefyd yn rhoi iddynt y wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnynt i fod yn fwy effeithiol yn eu rôl.”

I gychwyn, dechreuodd ei raglen â 10 gweithiwr wedi cofrestru, a dim ond 18 mis yn ddiweddarach roedd dros 50 o brentisiaid yn cael budd o gyfleuster hyfforddiant amser llawn y cwmni.

“Rydym yn buddsoddi llawer o amser, ymdrech ac adnoddau yn ein rhaglenni Prentisiaeth, ond mae’n talu ar ei ganfed,” eglurodd David. “Doedd hi ddim yn hawdd i ddechrau, ond mae cael ein cyfleuster dysgu pwrpasol ar y safle wedi gwneud gwahaniaeth mawr.”

Mae Radnor Hills yn cyflogi 180 o bobl o sawl cenedl ac yn gweithio’n agos â chwmni Hyfforddiant Cambrian i ddatblygu gwybodaeth ysgrifenedig a sgiliau hanfodol yr unigolyn wrth ymgymryd â’i hyfforddiant Prentisiaeth penodol.

Mae hyn wedi arwain at gynnydd sydyn yn lefelau cymhwysedd a hyder staff, â mwy o weithwyr bellach yn meddu ar y wybodaeth i ymdrin yn effeithiol â phroblemau a materion yn y gweithle.

Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n rhedeg pum rhaglen Brentisiaeth o Sgiliau’r Diwydiant Bwyd Lefel 2 hyd at Reoli Lefel 5 â chymhellion dyrchafiad ar waith ar gyfer cwblhau’n llwyddiannus.

“Rydym yn teimlo bod meddu ar weithlu medrus, hyfforddedig yn cryfhau’r cwmni,” ychwanegodd David. “Rydym eisiau cysylltu ein rhaglen Brentisiaeth yn uniongyrchol â dyrchafiadau sy’n gallu cael effaith bositif yn unig ar y cwmni. Rhaid dweud, os yw’r staff yn ymgymryd â datblygiad a hyfforddiant, yna bydd y cwmni’n elwa ohono.”

Mae’r prif ddangosyddion i fonitro llwyddiant yn cynnwys cadw mwy o staff, cynhyrchiant ar y llinell yn ogystal â’r rheiny sy’n rhedeg y llinell, a lefelau uwch o rifedd a llythrennedd ymhlith ei staff gan arwain at lai o gamgymeriadau mewn dogfennaeth.

Ond mae David yn cyfeirio at un budd hanfodol y mae hyfforddiant Prentisiaeth wedi’i ddarparu i Radnor Hills.

“Un o’r prif fanteision rydym wedi’i gweld yw boddhad staff,” meddai. “Pan mae gennych chi staff hapus, byddan nhw bob amser yn fwy cynhyrchiol.

“Rydym wedi dangos ein hymrwymiad iddynt trwy roi’r cyfle iddynt ymgymryd â’r hyfforddiant ac rydym yn gweld eu hymrwymiad parhaus i ni fel cwmni.”

Mae ehangiad trawiadol Radnor Hills o’i raglen Brentisiaeth wedi digwydd mewn cysylltiad agos â Chwmni Hyfforddiant Cambrian.

“Mae Radnor Hills wedi dangos ymrwymiad aruthrol i’w rhaglen Brentisiaeth trwy agor ei gyfleuster hyfforddi ar y safle yn ddiweddar, a fydd yn sicr o gefnogi ei weithlu amlwladol wrth ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn y cwmni,” meddai Chris Jones, Pennaeth Busnes Hyfforddiant Cambrian ar gyfer Gweithgynhyrchu Bwyd.

Mae manteision prentisiaethau ar gyfer y busnes wedi gwneud cymaint o argraff ar Radnor Hills y maent bellach yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno rhaglenni prentisiaeth mewn Peirianneg.

#YmgysylltuYsbrydoliLlwyddo