Mae’r categori hwn yn dathlu prentisiaid sy’n dangos ymroddiad, gwaith caled, ac angerdd eithriadol. Mae’n cydnabod unigolion sydd wedi cael effaith ystyrlon ar raglen prentisiaeth eu sefydliad ac sydd wedi defnyddio’u dysgu yn weithredol i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

Dylai ceisiadau dangos un neu fwy o’r canlynol:

  • Ymroddiad, ymrwymiad ac angerdd eithriadol a ddangosir yn gyson trwy gydol eu taith brentisiaeth.
  • Cymhwyso dysgu i wella perfformiad yn y gweithle a chyflawni nodau dilyniant gyrfa.
  • Dylanwad cadarnhaol ar gyfoedion a chyfraniad at lwyddiant cyffredinol y rhaglen brentisiaeth.
  • Syniadau neu fentrau arloesol sydd wedi gwella eu sefydliad neu brofiad prentisiaeth.
  • Gweithredu fel esiampl dda, ysbrydoli eraill trwy broffesiynoldeb a brwdfrydedd.
  • Gwydnwch wrth oresgyn heriau a rhwystrau personol neu broffesiynol i lwyddo.
  • Tystiolaeth glir o dwf, cyflawniad ac effaith y tu hwnt i’r disgwyliadau.

Mae’r wobr hon trwy enwebiadau yn unig. Mae’n rhaid i’r enwebwr derbyn caniatâd yr enwebai cyn cyflwyno’r cais.

Mae angen i bob cais cynnwys o leiaf tri llun ansawdd uchel o’r enwebai yn eu man gwaith.

Bydd pob unigolyn sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i

Wobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr, a Sgiliau Hyfforddiant Cambrian.

Gynhelir y gwobrau yn y Metropole Hotel & Spa, Llandrindod ar nos Mawrth, 2il Mehefin 2026.

Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Llun 6ed Ebrill 2026.

Meini Prawf i ymgeisio:

Rhaid i’r enwebai fod yn brentis sydd wedi cwblhau yn ystod y 12 mis diwethaf neu sydd ar raglen gyda Hyfforddiant Cambrian neu un o isgontractwyr Hyfforddiant Cambrian.

Bydd y prentis yn cael ei farcio ar eu stori ragorol trwy gydol eu taith prentisiaeth a gyrfa.

Sut i gyflwyno’ch cais

Cam 1: Lawrlwythwch y ffurflen cais uchod.
(Bydd PDF yn cael ei arbed i’ch ffolder lawrlwythiadau.)

Cam 2: Agorwch y ffurflen, cwblhewch yr holl adrannau gofynnol, ac arbedwch y fersiwn newydd ar eich dyfais.

Cam 3: Dewch yn ôl i’r tudalen hon ac lanlwythwch eich PDF gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
(Sicrhewch eich bod yn atodi eich cais cyn cyflwyno.)

Cyflwyno’r Cais

    Manylion yr Enwebwr





    Manylion yr Enwebai