Mae Oliver Addis-Fuller wedi gweithio ym maes lletygarwch ers yn 14 oed, gan ennill profiad amhrisiadwy cyn symud ymlaen i reoli yng Ngwesty’r Glyn Clydach. Bellach yn Rheolwr Bar a Digwyddiadau, mae Oliver yn defnyddio ei brentisiaeth gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian i droi flynyddoedd o brofiad ymarferol yn sgiliau arwain, masnachol a gweithredol cryf a chymwysterau cydnabyddedig.
Adeiladu Gyrfa mewn Lletygarwch
Mae lletygarwch wedi bod yn rhan o fywyd gwaith Oliver o oedran ifanc. Trwy brofi gwahanol feysydd o’r diwydiant, datblygodd dealltwriaeth gref o sut mae timau lletygarwch yn gweithredu a phwysigrwydd perfformio’n dda o dan bwysau.
Wrth ystyried ei gamau nesaf, roedd y brifysgol yn opsiwn, ond roedd Oliver yn teimlo bod dysgu seiliedig ar waith yn fwy addas i natur ymarferol lletygarwch.
“Roedd yn well gen i ddatblygu profiad rheoli ymarferol yn hytrach na dysgu theori ar wahân i’r diwydiant.”
I ddechrau, dewisodd Oliver gwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch i ffurfioli ei brofiad presennol a chryfhau ei ddealltwriaeth o berfformiad ariannol, rheoli stoc, arwain tîm a chynllunio gweithredol. Mae bellach wedi symud ymlaen i Oruchwylio ac Arwain Lletygarwch Lefel 4.
Dysgu Trwy Gyfrifoldeb
Fel Rheolwr Bar a Digwyddiadau yng Ngwesty’r Glyn Clydach, mae gan Oliver cyfrifoldeb sylweddol wrth gefnogi gweithrediadau dyddiol y busnes.
Mae ei rôl yn gynnwys rheoli gweithrediadau a phroffidioldeb y bar, rheoli stoc a chostau, trefnu digwyddiadau, arwain tîm a chynllunio’r rota, cynnal safonau gwasanaeth a chefnogi mentrau twf busnes.
Mae hyn yn rhoi cyfle i Oliver cymhwyso’i ddysgu prentisiaeth yn uniongyrchol i sefyllfaoedd go iawn yn y gweithle.
Mae’n treulio pum awr yr wythnos yn cwblhau hyfforddiant oddi ar y swydd, gan gynnwys gwaith cwrs, ysgrifennu myfyriol, trafodaethau proffesiynol a thasgau datblygu strwythuredig. Mae sesiynau cynnydd a chyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda’i Swyddog Hyfforddiant yn darparu cymorth ychwanegol.
Effaith yn y Gweithle
Un o gyflawniadau mwyaf Oliver yw cyflwyno system rheoli stoc newydd yn y gwesty.
Mae’r system wedi lleihau’r amser a dreulir ar gofnodi a gwirio stoc gan 50%, wrth wella effeithlonrwydd a chywirdeb hefyd.
Mae’n enghraifft ymarferol o sut mae Oliver wedi gallu cymryd y wybodaeth a’r sgiliau a datblygwyd trwy ei brentisiaeth a’u defnyddio yn y gweithle.
I Oliver, mae paratoi a threfnu yn ganolog i reoli lletygarwch effeithiol.
“I mi, paratoi yw popeth. Pan fydd systemau’n drefnus a disgwyliadau’n glir, mae timau’n perfformio’n well ac mae busnesau’n cryfhau.”
Datblygu Sgiliau trwy Ddigwyddiadau Blaenllaw
Trefnodd Oliver weithrediadau blaen y tŷ ar gyfer digwyddiad gwerthu mawreddog ar gyfer Cygnet Gin, sy’n eiddo i Katherine Jenkins OBE.
Cynhaliwyd y digwyddiad mewn lleoliad unigryw yn Penderyn Distillery, a bu’n rhaid i Oliver dod o hyd i, a threfnu, cludiant ar gyfer holl fyrddau, cadeiriau a llestri bwrdd, yn ogystal â’r gwasanaeth blaen y tŷ. Roedd ei gyfrifoldebau yn gynnwys cynllunio a dilyniannu gwasanaethau, briffio a chydlynu staff, rheoli profiad y gwesteion a chynnal safonau cyflwyno proffesiynol trwy gydol y digwyddiad.
Cynrychioli Prentisiaethau yn y Senedd
Carreg filltir arall yn nhaith prentisiaeth Oliver oedd cynrychioli Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar stondin y cwmni yn Ffair Prentisiaethau’r Senedd yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru.
Roedd Oliver yn arddangos ei sgiliau proffesiynol i wneud moctels wrth ymgysylltu ag Aelodau’r Senedd, gan gynnwys y Prif Weinidog Cymru, yn ogystal ag ymwelwyr, gan rannu ei daith prentisiaeth a’i brofiad personol o fanteision dysgu seiliedig ar waith.

Oliver (chwith) yn siarad â Rhun ap Iorwerth, sydd bellach yn Brif Weinidog Cymru ar stondin Hyfforddiant Cambrian yn Ffair Prentisiaethau y Senedd 2026

Oliver gyda Jack Sargeant, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn Ffair Prentisiaethau’r Senedd 2026
“Roedd cynrychioli Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn Ffair Prentisiaethau yn y Senedd yn garreg filltir bwysig, gan ei fod yn gydnabod fy nghynnydd ac yn rhoi cyfle i mi gynrychioli prentisiaid lletygarwch ar lefel genedlaethol,” meddai Oliver.
Disgyblaeth y Tu Allan i’r Gwaith
Nid yw ymdrech Oliver i wella ei hun yn dod i ben y tu allan i’r gwaith. Mae’n gystadleuydd brwd Hyrox, ar ôl cymryd rhan yn y ras ffitrwydd yn Norwy y llynedd, ac eleni mae’n paratoi i gystadlu yn Sweden.

Oliver yn cystadlu yn Hyrox y llynedd, yn Norwy.
Mae Oliver hefyd yn chwarae rygbi i dîm cyntaf Clwb Rygbi Glyn-nedd, gan ddod â’r un gwaith tîm, gwydnwch, a natur gystadleuol ar y cae ag y mae’n ei gymhwyso y tu ôl i’r bar.

Oliver yn chwarae i Glwb Rygbi Glyn-nedd.
I Oliver, mae’r un ddisgyblaeth sy’n gyrru ei gyflawniadau chwaraeon yn sail i’w ymagwedd at weithio, gan ddarparu tystiolaeth bellach bod y paratoi a’r cysondeb y mae’n ei ddangos yn y gwesty’r un mor bwysig wrth gyflawni ei nodau personol.
Edrych i’r Dyfodol
Uchelgais hir dymor Oliver yw arwain gweithrediadau lletygarwch sy’n perfformio’n dda ac sy’n fasnachol gryf, sy’n drefnus ac yn gefnogol o’u timau.
Byddai’n annog eraill sy’n ystyried prentisiaeth i gymryd perchnogaeth o’u datblygiad, cymhwyso’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn y gweithle a gofyn am adborth yn rheolaidd.
“Mae prentisiaethau yn cyflymu datblygiad oherwydd eich bod chi’n datrys heriau gweithredol go iawn wrth dderbyn arweiniad proffesiynol. Maen nhw’n adeiladu hyder a hygrededd.”
I Oliver, mae cyfuno cyfrifoldeb ymarferol â dysgu strwythuredig yn ei helpu i baratoi ar gyfer cam nesaf yn ei yrfa lletygarwch.
Breuddwydio. Dysgu. Byw.
— Oliver Addis-Fuller