mid and south wales, Welshpool
Posted 4 months ago

(Llawn Amser 37 awr yr wythnos)

Cyflog – Hyd a £27,000.00 y flwyddyn

Os ydych yn angerddol am helpu unigolion i ddatblygu eu sgiliau mewn rheoli a gweinyddu busnes er mwyn wella eu gyrfaoedd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych

EIN STORI:

Ein nod yw ymgysylltu a holl bobl ifanc, dysgwyr a chyflogwr, tra’n cefnogi unigolion i ffynnu trwy hyfforddiant a datblygiad. Rydym wedi ennill enw da ledled Cymru am ddarparu rhaglenni hyfforddi a datblygu o ansawdd uchel sydd, yn eu tro, yn cefnogi’r sector twristiaeth sy’n tyfu.

BETH RYDYM YN CHWILIO AMDANO: 

Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Hyfforddi medrus i weithio fel rhan o’n tîm darparu dysgu Rheoli / Gweinyddu Busnes sy’n tyfu.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol profiad rheolaeth uwch / canol a’r gallu i addysgu a datblygu prentisiaid a gyflogir yn y sector. Mae hunan gymhelliant, brwdfrydedd, gweithio annibynnol a gwaith tîm yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ochr yn ochr â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da.

Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr a phrentisiaid o bob oed, felly mae’n rhaid i’r gallu i ysgogi unigolion a’u cefnogi i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt fod yn un o’ch priodoleddau, gan feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu gwych yn ogystal â gyrru i lwyddo.

Yn y pen draw, byddwch yn cael llawer iawn o foddhad swydd drwy ddysgu’ch prentisiaid i gyflawni eu Cymwysterau NVQ Lefelau 2 i 5.

Gallwch ddisgwyl cyflwyno addysgu a dysgu yn y gweithle o ddydd i ddydd, gan drosglwyddo eich gwybodaeth a’ch profiad yn ogystal â chynnal asesiadau, cynorthwyo prentisiaid wrth iddynt baratoi eu portffolio o dystiolaeth, a chynnal cofnodion cynnydd.

Yn yr un modd, bydd disgwyl i chi gefnogi dysgwyr i wella eu llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg lle bynnag y bo modd.

Mae’n ofyniad i feddu ar drwydded yrru ddilys gyfredol, a mynediad i’ch cludiant eich hun gan fod teithio yn hanfodol i’r swydd.

DYLECH:

  • Bod ag o leiaf 3 blynedd o brofiad o weithio yn y sector Rheoli / Gweinyddu Busnes ar lefel rheolwr uwch / canol.
  • Bod â chymwysterau Rheoli / Gweinyddu Busnes ar Lefel 4 neu bod yn gyfarwydd â nhw.
  • Bod â phrofiad o arwain tîm, neu oruchwylio eraill (delfrydol, ond nid yn hanfodol).
  • Meddu ar sgiliau rheoli amser a threfnu gwych.
  • Bod â lefel dda o sgiliau TG a’r gallu i ddysgu meddalwedd newydd.
  • Meddu ar wobr aseswr D32/D33, TAQA neu A1, neu byddwch yn barod i’w wneud.
  • Meddu ar TGAU A* – C / 9 – 4 mewn Saesneg a Mathemateg neu lefel 2 gyfatebol (delfrydol, ond nid yn hanfodol).
  • Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol.

 

CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL:

  • Darparu addysgu a dysgu allweddol i lwyth achos o ddysgwyr yn y gweithle.
  • Datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwr.
  • Cynllunio a chynnal asesiadau i ddiwallu anghenion cymwysterau, gan gynnwys wyneb yn wyneb ac ar-lein.
  • Cynnal cofnodion dysgwyr o asesiadau a chynnydd.
  • Ymgysylltu â chyflogwyr a dysgwyr posibl i nodi cyfleoedd newydd.
  • Gweithio gydag adrannau eraill o fewn Hyfforddiant Cambrian i sicrhau bod dysgwyr yn gallu cwblhau eu rhaglenni prentisiaeth ar amser.

 

MANTEISION ALLWEDDOL:

  • Ystod gyflog £25,000.00 – £27,000.00 y flwyddyn.
  • Hawliau gwyliau’r Banc a gwyliau blynyddol hael.
  • Cynllun Tâl Salwch Cwmni ar ddiwedd y cyfnod prawf.
  • Cefnogaeth iechyd meddwl a lles.
  • Cyfleoedd DPP parhaus.
  • Cynllun pensiwn cwmni.
  • Darperir gwisg staff, gliniadur a ffôn symudol.
  • Defnydd o Geir y Cwmni.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, yn y lle cyntaf, anfonwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol yn amlinellu pam rydych eisiau’r swydd a pham rydych yn teimlo eich bod yn ymgeisydd addas i:

Stephen Bound (Rheolwr Cyffredinol) i’r e-bost canlynol:

Bydd angen i chi gofrestru fel Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Bydd angen datgeliad DBS ehangach ar draul y cyflogwr.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gyflogwr cyfle cyfartal a hyderus o ran anabledd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Gwener 25ain o Hydref 2025.

Mae’r cwmni’n cadw’r hawl i gau’r swydd ar unrhyw adeg os ydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau eich ystyriaeth ar gyfer y swydd.

 

Job CategoryHyfforddiant Cambrian -ymunwch â'n tîm!