O Brentis Lletygarwch i Weithiwr Arobryn: Taith Dysgu Aaron

Mae Aaron Jones wedi dod yn enghraifft ysbrydoledig o sut y gall prentisiaethau a dysgu gydol oes fagu hyder, datblygu sgiliau yn y gweithle a chreu cyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

Gan weithio fel uwch weinydd rhan-amser yn Penycae Inn, ger Abertawe, mae Aaron wedi symud ymlaen o weithio yn y gegin i fod yn aelod dibynadwy o’r tîm blaen y tŷ. Gyda chefnogaeth ei gyflogwr a Chwmni Hyfforddiant Cambrian, cwblhaodd Brentisiaeth Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch.

Ers hynny mae ei gyflawniadau wedi ennill cydnabyddiaeth ehangach. Enwyd Aaron yn Brentis y Flwyddyn Cwmni Hyfforddiant Cambrian 2026 ac mae wedi ennill y Wobr Skills for work yng Ngwobrau Inspire! Adult Learning 2026.

Mae ei daith hefyd wedi rhoi’r hyder iddo siarad yn gyhoeddus am ei brofiadau, gan weithredu fel llysgennad ar gyfer dysgu seiliedig ar waith ac eiriolwr dros niwroamrywiaeth.

Darganfod Dawn am Letygarwch

Dechreuodd taith ddysgu Aaron yn Ysgol Penmaes, ysgol anghenion addysgol arbennig yn Aberhonddu, cyn ymuno â’r diwydiant lletygarwch fel gweithiwr cegin yn Penycae Inn.

Roedd ei gyflogwr, Anthony a Claire Christopher, yn cydnabod ei ddawn naturiol am wasanaeth cwsmeriaid a’i annog i symud o’r gegin i rôl sy’n wynebu cwsmeriaid. Profodd hyn i fod yn gam pwysig yn ei ddatblygiad a’i daith gyrfa.

Mae Aaron bellach yn gofalu am gwsmeriaid fel uwch weinydd, yn mentora aelodau newydd o staff ac yn parhau i gefnogi’r gegin pan fod angen.

Er mwyn adeiladu ar ei brofiad yn y gweithle, ymgymerodd Aaron â Phrentisiaeth Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae’r brentisiaeth wedi ei helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb wrth fagu hyder mewn meysydd yr oedd wedi ei gael yn heriol o’r blaen.

Magu Hyder a Goresgyn Rhwystrau

Mae Aaron yn awtistig ac mae wedi siarad yn agored am sut roedd hyn yn effeithio ar ei hyder, a’i sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu.

Yn hytrach na chaniatáu i’r heriau hyn ei atal rhag symud ymlaen, mae Aaron wedi defnyddio ei brentisiaeth fel cyfle i feistroli’r sgiliau hyn a gwthio’i hun y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfarwydd iddo.

Wrth fyfyrio ar ei gyflawniadau, dywedodd Aaron:

“Rwy’n falch iawn o’m prentisiaeth, yn enwedig gan fod rhai yn amau fy ngallu i lwyddo.

“Rwy’n awtistig sydd wedi effeithio ar fy hyder a sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu. Fodd bynnag, yn hytrach na chaniatáu i hyn fy rhwystro, rydw i wedi cofleidio fy niwroamrywiaeth ac rydw i wedi gwthio fy hun i oresgyn y rhwystrau hyn.”

Mae Aaron yn diolch i gefnogaeth ei gyflogwyr a swyddogion hyfforddi lletygarwch Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Andy Addis-Fuller a Leah Wiliams, am ei helpu i gydnabod ei botensial a datblygu’r sgiliau i gyflawni ei botensial.

Mae Aaron yn arbennig o angerddol am ysbrydoli unigolion niwroamrywiol eraill trwy eirioli nad oes rhaid i anghenion dysgu ychwanegol eu hatal rhag dilyn eu huchelgeisiau.

“Gall unrhyw un sy’n niwroamrywiol cyflawni’r un peth â fi gyda’r gefnogaeth, gwaith caled a’r penderfyniad cywir,” meddai. “Rydw i wedi darganfod fy angerdd a ni fyddaf byth yn rhoi’r gorau i ddysgu.”

Edrych Ymlaen

Mae Aaron yn gobeithio parhau i symud ymlaen ym maes lletygarwch, gydag uchelgais i ddod yn oruchwyliwr neu reolwr bar.

Mae ei daith o’r gegin i uwch weinydd, graddedig prentisiaeth ac enillydd wobr yn dangos sut y gall dysgu seiliedig ar waith helpu pobl i ddarganfod eu cryfderau, magu hyder a bod yn barod i symud ymlaen ac ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau.

Gyda chefnogaeth ei gyflogwr a Chwmni Hyfforddiant Cambrian, mae Aaron wedi trawsnewid ei ddysgu yn gyfle i ddatblygu ei yrfa ond hefyd i annog eraill i gydnabod eu potensial a pheidio byth rhoi’r gorau i ddysgu.

“Rwy’n falch iawn o’m prentisiaeth, yn enwedig gan fod rhai yn amau fy ngallu i lwyddo.

“Gall unrhyw un sy’n niwroamrywiol cyflawni’r un peth â fi gyda’r gefnogaeth, gwaith caled a’r penderfyniad cywir,” meddai. “Rydw i wedi darganfod fy angerdd a ni fyddaf byth yn rhoi’r gorau i ddysgu.”