O TGAU i Yrfa mewn Cigyddiaeth – Stori Llwyddiant Prentisiaeth Dyfan

Cefndir: Yr Her 

Pan gwblhaodd Dyfan James ei TGAU yn Ysgol Bro Preseli, roedd yn wynebu’r un penderfyniad â llawer o bobl ifanc: dewis y cam nesaf yn ei daith addysg a gyrfa.  

Yn hytrach na dilyn llwybr academaidd traddodiadol, roedd Dyfan eisiau llwybr a fyddai’n caniatáu iddo adeiladu sgiliau ymarferol, ennill profiad go iawn yn y gweithle a gweithio tuag at yrfa hirdymor mewn diwydiant yr oedd yn angerddol amdano. Ar ôl sicrhau swydd dydd Sadwrn yn Ken Davies Butchers yng Nghrymych yn 15 oed, roedd wedi datblygu diddordeb gwirioneddol yn y grefft cigyddiaeth ac wedi cydnabod y cyfleoedd sydd ar gael yn y sector.  

Yr her oedd dod o hyd i lwybr a fyddai’n ei alluogi i ddatblygu’n broffesiynol ac ennill cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant.   

Yr Ateb 

 Dewisodd Dyfan gofrestru ar Brentisiaeth Sylfaen mewn Cigyddiaeth a Phrosesu cig gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian wrth barhau â’i gyflogaeth yn Ken Davies Butchers yng Nghrymych, Sir Benfro. 

Mae’r brentisiaeth yn darparu cymysgedd o ddysgu yn y gweithle a chymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant, gan alluogi Dyfan i ennill cyflog wrth iddo ddysgu a datblygu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen yn y sector prosesu cig.  

Trwy ei raglen prentisiaeth, mae Dyfan yn ennill profiad ymarferol ym mhob agwedd ar y grefft. Wrth weithio ochr yn ochr â chigyddion proffesiynol mae’n meithrin ei wybodaeth a’i hyder ac yn adeiladu sgiliau arbenigol y mae cyflogwyr yn ei gwerthfawrogi.   

Ochr yn ochr â’i ddatblygiad technegol, mae Dyfan hefyd wedi cofleidio cyfleoedd i gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg. Fel Llysgennad Prentisiaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’n annog y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, mewn digwyddiadau a thrwy ymgyrchoedd digidol. Mae hyn yn helpu i ysbrydoli prentisiaid eraill i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau gwaith pob dydd. 

Canlyniadau  

Ers dechrau ei daith prentisiaeth, mae Dyfan wedi cyflawni llwyddiant personol a phroffesiynol sylweddol.  

Datblygu Sgiliau Diwydiant 

  • Ennill Sgiliau a gwybodaeth ymarferol mewn cigyddiaeth a phrosesu cig.  
  • Datblygu profiad yn y gweithle gwerthfawr o fewn busnes lleol uchel ei barch.  
  • Gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. 

Dilyniant Gyrfa 

  • Sefydlu llwybr gyrfa glir yn y sector bwyd a diod. 
  • Troi swydd ran-amser dydd Sadwrn yn broffesiwn hirdymor. 
  • Gweithio tuag at ei uchelgais o fod yn berchen ar siop gigydd ei hun yn y dyfodol.  

Hyrwyddo’r Gymraeg 

  • Penodwyd yn Llysgennad Prentisiaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 
  • Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a’r gymuned ehangach.  
  • Cefnogi ymgyrchoedd a digwyddiadau sy’n annog amgylchedd gwaith dwyieithog.  

Cydnabyddiaeth a Chyflawniad  

Mae ymrwymiad Dyfan i’w brentisiaeth a’r Gymraeg wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol. Cafodd canmoliaeth uchel yng nghategori Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr a Sgiliau Cwmni Hyfforddiant Cambrian.  

Neges Dyfan  

I Dyfan, mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o’i hunaniaeth ac yn rhywbeth y mae’n angerddol am ei warchod a’i hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  

“Heb ddefnyddio’r iaith, bydd y Gymraeg yn diflannu a dydyn ni ddim eisiau gweld hynny. Dyma’r iaith bwysicaf i mi ac ni allaf ddychmygu Cymru heb bobl sy’n siarad Cymraeg.” 

Mae ei neges yn tynnu sylw at y rôl bwysig y gall prentisiaid ei chwarae wrth gynnal a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg ar draws gweithleoedd a chymunedau ym mhob cwr o Gymru. 

Edrych Ymlaen  

Mae Dyfan yn parhau i ddatblygu ei sgiliau trwy ei brentisiaeth wrth adeiladu profiad yn y gweithle. Gydag uchelgais amlwg i fod yn berchen ar ei siop gigydd ei hun un diwrnod, mae’n gosod sylfeini cryf ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant. 

Mae ei brentisiaeth yn rhoi’r sgiliau ymarferol, gwybodaeth am y diwydiant a’r hyder sydd eu hangen arno i gyflawni ei nodau hirdymor wrth wneud cyfraniad cadarnhaol i’w gymuned leol a’r Gymraeg.  

Casgliad 

Mae stori Dyfan yn dangos bod lawer o wahanol lwybrau at lwyddiant ar ôl TGAU. Trwy ddewis prentisiaeth, mae wedi gallu ennill cymwysterau, ennill cyflog a datblygu gyrfa werth chweil o’r cychwyn cyntaf.  

I bobl ifanc sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU neu Safon Uwch, mae ei daith yn enghraifft bwerus o sut y gall cymwysterau prentisiaeth agor drysau i gyfleoedd gyrfa gyffrous, gan ganiatáu unigolion i ddysgu mewn amgylchedd gwaith go iawn wrth adeiladu’r sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. 

Trwy ei waith caled, ei benderfyniad a’i angerdd am ei grefft a’r Gymraeg, mae Dyfan yn profi y gall prentisiaethau darparu llwybr uniongyrchol o addysg i yrfa lwyddiannus a boddhaus. 

“Heb ddefnyddio’r iaith, bydd y Gymraeg yn diflannu a dydyn ni ddim eisiau gweld hynny. Dyma’r iaith bwysicaf i mi ac ni allaf ddychmygu Cymru heb bobl sy’n siarad Cymraeg.”