Mae menter gymdeithasol flaenllaw o’r gogledd sy’n cynnig swyddi a hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymunedau yn cael clod am hybu gweithle dwyieithog.

Mae Antur Waunfawr, sydd â safleoedd yn y Waunfawr a Chaernarfon, yn cyflogi 120 o staff ac yn cefnogi 64 o oedolion ag anawsterau dysgu, gan ddarparu gwasanaethau gwerthfawr ym meysydd ailddefnyddio, ailgylchu ac iechyd a lles.

Nod y fenter gymdeithasol yw creu cymdeithas arloesol, gyfartal, gynhyrchiol, garbon-isel trwy feithrin teulu o fusnesau lleol cynaliadwy i gefnogi cymunedau cadarn a llesiant i bawb.

Mae busnesau Antur Waunfawr yn ailgylchu gwastraff, yn darparu gwasanaeth llarpio papur cyfrinachol, yn atgyweirio ac yn ailgylchu dodrefn, yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu tecstilau ac yn llogi ac yn atgyweirio beiciau fel rhan o ganolfan iechyd a lles.  Mae gan y cwmni gwsmeriaid ledled y gogledd

“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan o hunaniaeth y cwmni ac rydan ni’n falch o gael bod yn weithle lle gallwn ni ddefnyddio’r iaith yn naturiol,” meddai uwch-reolwr Antur Waunfawr, Haydn Jones. “Mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr ein gwasanaethau yn Gymry Cymraeg.

Mae’r holl staff yn siarad Cymraeg ac mae saith wrthi’n gweithio tuag at brentisiaethau a gyflenwir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian sy’n darparu hyfforddiant ledled Cymru, a Progression Training.

Mae un gweithiwr wrthi’n cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, a gyflenwir yn uniaith Gymraeg.  Mae dau weithiwr yn anelu at Brentisiaeth Sylfaen mewn Ailgylchu Cynaliadwy Lefelau 2 a 3 trwy WAMITAB ac mae pedwar yn gweithio tuag at Brentisiaethau City & Guilds mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a 3 yn ddwyieithog.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cymeradwyo Antur Waunfawr am hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle.

Dywedodd Amy Edwards, pennaeth rheoli adnoddau cynaliadwy ac ynni gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, fod Antur Waunfawr yn “gwmni gwych a gaiff ei arwain gan ei ddatganiad cenhadaeth”.

“Mae’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu ar gyfer y gymuned a’r ffordd maen nhw’n gwneud hynny yn wych. Maen nhw’n awyddus iawn i hyfforddi a chynyddu sgiliau eu gweithwyr ac mae 18 ohonyn nhw wedi gwneud prentisiaethau gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian dros yr wyth mlynedd ddiwethaf.

“Un rheswm dros ein dewis ni i ddarparu hyfforddiant y cwmni ym maes rheoli gwastraff yw bod gennym ni swyddogion hyfforddi ac aseswyr sy’n siarad Cymraeg ac yn gallu cyflenwi’r prentisiaethau’n ddwyieithog gan gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.”

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. 

“Ein nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn dal i gael defnyddio’r iaith Gymraeg yn y gwaith o ddydd i ddydd ar ôl gorffen eu haddysg. Does dim rhaid iddyn nhw fod yn rhugl yn yr iaith. Gallan nhw ddefnyddio Cymraeg syml. Mae angen i ni groesawu ac annog rhai sy’n dysgu Cymraeg. Byddai’n wych pe bai modd defnyddio’r Gymraeg mewn rhagor o weithleoedd.”