Bydd y categori hwn yn arddangos cyflogwyr sydd wedi sefydlu a datblygu rhaglenni prentisiaeth yn eu sefydliad sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant a thwf y busnes.
 Dylai ceisiadau dangos un neu fwy o’r canlynol:
- Dull y sefydliad o ddysgu a datblygu, a chyflwyno’u rhaglen prentisiaeth.
- Sut mae’r rhaglen brentisiaeth wedi’i chysylltu â nodau ac amcanion sefydliadol eraill a’r budd uniongyrchol neu anuniongyrchol y mae wedi cael ar ganlyniadau’r busnes.
- Unrhyw arferion arloesol (gan gynnwys defnyddio technolegau newydd) sydd wedi’u mewnblannu o fewn neu ochr yn ochr â’r rhaglen prentisiaeth.
- Sut mae dysgwyr wedi cael eu cefnogi i gyfleoedd cyflogaeth gynaliadwy a sut mae’r rhaglen prentisiaeth yn bodloni eu dyheadau gyrfa hirdymor.
- Cynlluniau sydd gan y busnes i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y rhaglen prentisiaeth.
Mae angen i bob cais cynnwys o leiaf tri llun ansawdd uchel o’r busnes a’u prentisiaid.
Bydd pob unigolyn sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i
Wobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr, a Sgiliau Hyfforddiant Cambrian.
Gynhelir y gwobrau yn y Metropole Hotel & Spa, Llandrindod ar nos Mawrth, 2il Mehefin 2026.
Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Llun 6ed Ebrill 2026.
Meini Prawf i ymgeisio:
Rhaid bod ag o leiaf un unigolyn ar y rhaglen prentisiaeth yn ystod y 12 mis diwethaf neu fod o leiaf un prentis wedi cwblhau yn y 12 mis diwethaf gyda Hyfforddiant Cambrian neu un o’i isgontractwyr.
Rhaid bod yn gyflogwr yng Nghymru neu fod ag o leiaf un swyddfa / lleoliad yng Nghymru.
Categorïau Cyflogwyr:
Busnes Bach (1 – 40 o weithwyr)
Busnes Canolig (50 – 249 o weithwyr)
Busnes Mawr (250+ o weithwyr)
Sut i gyflwyno’ch cais
Cam 1: Lawrlwythwch y ffurflen cais uchod.
(Bydd PDF yn cael ei arbed i’ch ffolder lawrlwythiadau.)
Cam 2: Agorwch y ffurflen, cwblhewch yr holl adrannau gofynnol, ac arbedwch y fersiwn newydd ar eich dyfais.
Cam 3: Dewch yn ôl i’r tudalen hon ac lanlwythwch eich PDF gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
(Sicrhewch eich bod yn atodi eich cais cyn cyflwyno.)