Mae Elen wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyllid yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian er mis Awst 2002. Hi yw’r aelod sydd wedi gwasanaethu hwyaf yn y cwmni a ddechreuodd gyda’r sefydliad ym mis Tachwedd 1997. Ar ôl gadael yr ysgol, cofrestrodd fel Prentis Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Fusnes mewn rôl Cynorthwyydd Gweinyddol. Dros y blynyddoedd, symudodd ymlaen yn y cwmni i gyflawni rolau Swyddog/Rheolwr Hawliadau gan wneud Prentisiaeth Sylfaen bellach mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid, Prentisiaeth mewn Gweinyddiaeth Fusnes ac Uwch Brentisiaeth mewn Rheolaeth.

Mae Elen yn un o’r prif esiamplau o ran sut gall dysgu seiliedig ar waith eich helpu i ddysgu wrth ennill arian a gweithio’ch ffordd i fyny’r ysgol mewn cwmni.

Fel un sy’n medru’r Gymraeg, helpodd Elen y cwmni i gael ei Gynllun Iaith Gymraeg cyntaf ac mae’n parhau i sicrhau bod y Cwmni’n bodloni’r gofynion hyn. Dros y blynyddoedd, mae Elen wedi gweld y cwmni’n tyfu ac yn datblygu ar hyd a lled Cymru gan gyflwyno dysgu ansawdd uchel i bob oedran.

Mae Elen wedi bod yn aelod gweithgar o’r CFfI dros y blynyddoedd gan ddal sawl swydd ar lefel Clwb ac yn fwy diweddar bu ar Bwyllgor Bwrdd Rheoli CFfI Trefaldwyn am 3 blynedd. Yn ystod yr amser hwn, mae hi wedi cynghori a helpu ffederasiwn y Sir i redeg fel busnes wrth i lai o arian ddod ar gael gan yr awdurdod lleol.