Mae’r sector ceffylau wedi’i gysegru i ofal ceffylau. Mae gan y sector ystod o gampau i geffylau gan gynnwys Neidio Ceffylau, Dressage, Amrywiol, Rasio, Polo, Dycnwch, Gyrru Cerbydau. Darpar y sector hwn waith cyflog i dros 41,000 o bobl yn y DU; gall y swyddi hyn amrywio o fod yn farchog proffesiynol i ddarparu gofal i geffylau sy’n hyfforddi.

Mae gweithio gyda cheffylau’n rhoi boddhad mawr a dengys hyn gan y miloedd o bobl sy’n cysegru’u gyrfaoedd iddynt.

Mae cyfleoedd i brentisiaid ar gael i fynedfeydd newydd a gweithwyr nad ydynt yn rhai ffwr yn y sector.

 

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Cyflwynir hyfforddiant yn y sector ceffylau mewn ystod eang o ffurfiau. Mae’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau’n cynnig fframwaith syml a rhesymol sy’n cyflwyno cyflawniadau a chymwysterau’r dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu

Ei nod yw rhoi’r cyfle i unigolion ddysgu’n fwy hyblyg ac mae’n galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr i gael eu hyfforddiant wedi’i gydnabod.

 

Mae’r cymwysterau canlynol ar gael yn y fframwaith hwn;

  • Gofal Ceffylau Lefel 2 a 3
  • Gofal a Rheolaeth Ceffylau Lefel 2 a 3
  • Gofal Ceffylau Rasio Lefel 2
  • Gofal a Rheoli Ceffylau Rasio Lefel 3
  • Gofal Anifeiliaid Lefel 2 a 3

Gall ein Swyddogion Hyfforddiant profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.

Recriwtio prentis gyda’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau (AMS)
Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM i chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth >>

Cyllid Ar Gael
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid, gyda’r gefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig. Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cliciwch yma »

Cysylltwch â Ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant a gyflwynwn neu os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’n cymwysterau, mae croeso i chi gysylltu â’n partneriaid, Haddon Training, i gael y wybodaeth berthnasol.