Cynhyrchu bwyd yw bwydydd wedi’u pecynnu a gynhyrchir y tu allan i’r cartref i’w prynu. Mae’r cynhyrchion a brynwch yn ein siopau a’n harchfarchnadoedd yno oherwydd ymdrechion miloedd o bobl sy’n gweithio mewn gwahanol ddiwydiannau bwyd a diod yng nghadwyn fwyd Cymru. Gall hyn amrywio o gigydd yn paratoi cig i ddiwydiannau bwyd rhyngwladol.

Yn Hyfforddiant Cambrian, rydym yn cynnig prentisiaethau cynhyrchu bwyd ar draws Cymru i weddu holl ardaloedd y diwydiant o lefel sylfaen i brentisiaethau uwch. Gall dysgu trwy brentisiaethau helpu staff i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i greu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant. 

Bydd ein rhaglenni prentisiaeth gweithgynhyrchu bwyd yn rhoi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant, p’un a ydych yn weithiwr newydd neu’n dymuno i ennill gwybodaeth newydd a chymwysterau achrededig o fewn eich rôl bresennol.

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Darparir hyfforddiant yn y diwydiant Lletygarwch mewn ystod eang o ffurf. Mae’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau’n cynnig fframwaith syml a rhesymol sy’n cyflwyno cyflawniad a chymwysterau’r dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu.

Ei nod yw rhoi cyfle i unigolion ddysgu’n fwy hyblyg a galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr i gael cydnabyddiaeth am eu hyfforddiant.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ganolfan gymeradwy gydag FDQ ar gyfer cyflwyno hyfforddiant mewn Cynhyrchu Bwyd.

Cyflogwyr y gweithiwn gyda nhw:
Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gweithio gwych gyda chyflogwyr ledled Cymru yn y Diwydiant Cynhyrchu Bwyd ac rydym yn parhau i rwydweithio gyda chyflogwyr sy’n ystyried cymryd rhan mewn prentisiaethau fel rhan o’u rhaglen datblygu hyfforddiant. Peidiwch â chymryd ein gair amdano yn unig, gweld beth mae ein cyflogwyr yn ei ddweud amdanom ni.

Recriwtio prentis gyda’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau (AMS)
Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM i chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.

 

Cymwysterau prentisiaeth ar gael ar draws Cymru gyfan:

*Mae rhai o’r cymwysterau yma yn y brosses o gael eu diweddaru – Plis cysylltu a ni ar gyfer y gwybodaeth mwyaf diweddar.

  • Sgiliau’r Diwydiant Bwyd Lefel 2 
  • Sgiliau’r Diwydiant Bwyd Lefel 3
  • Sgiliau’r Diwydiant Bragu Lefel 3 
  • Sgiliau’r Diwydiant Pysgod a Physgod Cregyn Lefel 2 
  • Sgiliau’r Diwydiant Pysgod a Physgod Cregyn Lefel 3 
  • Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod Lefel 2 
  • Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod Lefel 3 
  • Sgiliau’r Diwydiant Pobi Lefel 2 
  • Sgiliau’r Diwydiant Pobi lefel 3 
  • Arweinyddiaeth Tîm Bwyd Lefel 2 
  • Rheolaeth Bwyd Lefel 3 
  • Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd Lefel 4 

Gall ein Swyddogion Hyfforddiant profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.

Eisiau dysgu yn Gymraeg? Gallwn ddarparu pob rhaglen brentisiaeth yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.

Cyllid Ar Gael

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid,  gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig.

 

Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod