Cyflwynir y cymhwyster hwn trwy lefelau 2 a 3 ac mae’n addas i ddysgwyr sy’n hyfforddi ddod yn rhan o’r diwydiant hamdden gweithredol. Maent yn addas ar gyfer ystod eang o rolau, o hyfforddwr personol i gynorthwyydd hamdden, hyfforddwr gweithgareddau i reolwyr canolfannau hamdden.

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Mae’r rhaglen brentisiaeth yn cael ei chyflwyno yn ystod oriau gwaith arferol a gall fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion ac anghenion eich sefydliad. Mae’r prentis yn derbyn sesiynau un-i-un rheolaidd a chefnogaeth lawn gan eu swyddog hyfforddi.

Cymwysterau Prentisiaeth Sydd ar Gael

Arweinyddiaeth Gweithgareddau Lefel 2

Hyfforddwr Ymarfer a ffitrwydd Lefel 2

Hyfforddwr Ymarfer a ffitrwydd Lefel 3

Rheoli Hamdden Lefel 2

Rheoli Hamdden Lefel 3

Gall ein Swyddogion Hyfforddi profiadol helpu chi a’ch gweithwyr i ddewis y cwrs cywir ar lefel priodol i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth berthnasol.

Recriwtio prentis gydag ein Gwasanaeth Paru Prentisiaethau

Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM I chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cyllid ar gael

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid,  gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig.

Cysylltwch â ni

E-bostio ni ar info@cambriantraining.com neu ffoniwch ni: 01938555983