Mae’r Diwydiant Lletygarwch yn enfawr dros y byd ac yn arbennig fan hyn yng Nghymru. Cynigia ystod eang o yrfaoedd o brif gogydd, barman, i weithio mewn caffi. Mae’r diwydiant yn cynnwys gwestai, tai bwyta, caffis, canolfannau bwyd cyflym, tafarndai a chlybiau i enwi dim ond rhai ohonynt.
Yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, gallwn gynnig prentisiaethau lletygarwch ac arlwyo i weddu i bob maes o’r diwydiant; o lefel sylfaen i lefel brentisiaeth ar draws Cymru. Gall dysgu trwy brentisiaethau helpu staff i ddatblygu sgiliau ymarferol sy’n hanfodol i greu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.
Bydd ein rhaglenni dysgu lletygarwch yn rhoi i chi’r holl sgiliau y mae arnoch eu hangen i lwyddo yn y diwydiant.
Mae cyfleoedd i brentisiaid yn gyfyngedig oherwydd effaith COVID-19, ond maent ar gael i weithwyr nad ydynt yn rhai ffwr.
Hyfforddiant a Phrentisiaethau
Cyflwynir hyfforddiant yn y diwydiant Lletygarwch mewn ystod eang o ffurfiau. Mae’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau’n cynnig fframwaith syml a rhesymol sy’n cyflwyno cyflawniad a chymwysterau’r dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu.
Ei nod yw rhoi cyfle i unigolion ddysgu’n fwy hyblyg a galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr i gael cydnabyddiaeth am eu hyfforddiant.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ganolfan gymeradwy gydag Edexcel a’r BIIAB am gyflwyno hyfforddiant mewn Lletygarwch.
Mae’r cymwysterau canlynol ar gael yn y fframwaith hwn;
- Gwasanaethau Cegin Lefel 2
- Gwasanaethau Lletygarwch Lefel 2
- Gwasanaethau Lletygarwch Trwyddedig Lefel 2 a 3
- Coginio a Chynhyrchu Bwyd Lefel 2
- Gwasanaeth Diodydd Lefel 2
- Gwasanaeth Bwyd a Diodydd Lefel 2
- Proffesiynol Coginio Lefel 2 a 3
- Arweinyddiaeth a Goruchwyliaeth Lletygarwch Lefel 3
- Rheolaeth Lletygarwch Lefel 4
- Cadw tŷ Lefel 2
- Gwasanaethau cymorth a glanhau Lefel 2 a 3
Gall ein Swyddogion Hyfforddiant profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.
Cyflogwyr y gweithiwn gyda nhw;
Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gweithio gwych gyda chyflogwyr ledled Cymru yn y Diwydiant Lletygarwch ac rydym yn parhau i rwydweithio gyda chyflogwyr sy’n ystyried cymryd rhan mewn prentisiaethau fel rhan o’u rhaglen datblygu hyfforddiant. Peidiwch â chymryd ein gair amdano yn unig, gweld beth mae ein cyflogwyr yn ei ddweud amdanom ni >>
Recriwtio prentis gyda’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau (AMS)
Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM i chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth >>
Cyllid Ar Gael
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid, gyda’r gefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig. Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cliciwch yma »