Mae un o bacwyr adwerthu mwyaf y DU, sy’n cyflogi 600 o bobl yng Ngorllewin Cymru, wedi’i gynnwys ar restr fer am wobr prentisiaeth genedlaethol fawreddog. Mae Dunbia, sydd â lleoliad yn Llanybydder yn Sir Gaerfyrddin, yn rownd derfynol categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014 a bydd yn mynychu seremoni wobrwyo… Read more »
Mae dau gigydd o fri o Ogledd-ddwyrain Cymru wedi profi eu bod nhw ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill trwy gael eu cynnwys ar restr fer am wobrau prentisiaeth cenedlaethol mawreddog. Mae Tom Jones, 24 oed, sy’n rhedeg Jones’ Butchers yn Llangollen, yn rownd derfynol Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn, ac mae Matthew Edwards, 22 oed, sy’n… Read more »
Mae Rhiannon Morris, 18 oed, wedi mynd o wneud cinio dydd Sul yn ei chartref yn blentyn ifanc i ddod yn gogydd prentis arobryn yn The Lion Hotel yn Llandinam. Dechreuodd Rhiannon, sy’n byw yn Llandinam, weithio yng nghegin y gwesty pan oedd hi’n 15 oed ac yn astudio am ei harholiadau TGAU. Parhaodd i… Read more »
Mae 36 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant o bob cwr o Gymru wedi’u dewis i rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau mawreddog Cymru eleni yn dilyn nifer uwch nag erioed o geisiadau. Daw’r gwobrau chwenychedig, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) i uchafbwynt gyda seremoni gyflwyno a chinio… Read more »
Mae unigolyn graddedig a oedd yn ddi-waith am flwyddyn cyn ennill swydd ei breuddwydion wedi’i hanrhydeddu mewn digwyddiad sy’n dathlu carreg filltir i Dwf Swyddi Cymru. Chloe Bignell o Lanelli yw’r 10,000fed person i sicrhau swydd gyda Thwf Swyddi Cymru, sef rhaglen Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sy’n cynnig cyfle am swydd… Read more »
Mae pedwar uwch gogydd dawnus ar ddeg o bob cwr o Gymru’n paratoi am her rownd derfynol pwysau uchel i gwblhau cymhwyster arloesol. Os byddant yn llwyddiannus, nhw fydd y cogyddion cyntaf yn y DU i gwblhau’r Uwch Brentisiaeth i Gogyddion, cymhwyster lefel uchel sy’n arddangos eu sgiliau crefft a gwybodaeth. Ar gyfer eu hasesiad… Read more »
Daeth y cigydd ifanc dawnus, Matthew Edwards, yn agos iawn at y brig yn seremoni wobrwyo Dysgwr VQ y Flwyddyn Cymru ar Ddiwrnod VQ ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd. Roedd Matthew, 22 oed, sy’n gweithio i S.A. Vaughan Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, o blith chwech yn y rownd derfynol o bob cwr o… Read more »
Mae’r cigydd dawnus o Gymru, Matthew Edwards eisoes wedi profi ei fod ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill trwy ennill cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru a chael ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd. Mae Matthew, 22 oed, sy’n gweithio i S. A. Vaughan Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, yn hyfforddi ar gyfer y… Read more »
Mae cydweithwyr, ffrindiau ac aelodau teulu rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian Katy Godsell a Banc Barclays wedi dod at ei gilydd i godi £2,526 i Gronfa Ganser Lingen Davies yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig. Cymerodd 76 o bobl, yn amrywio o 87 oed i blant bach mewn pram, ran yn Ras 5K Elusennol Cambrian llwyddiannus… Read more »