Jimmy Doherty yn cefnogi cystadleuaeth WorldSkills UK i gigyddion

Mae’r cyflwynydd teledu a’r ffermwr o Suffolk, Jimmy Doherty o’r ‘Jimmy’s Farm’ enwog, wrth ei fodd y bydd cigyddion dawnus yn cael cyfle i gystadlu yn WorldSkills UK am y tro cyntaf eleni.

Mae Doherty yn annog cigyddion i beidio â cholli’r dyddiad cau ar 20 Mawrth i gofrestru ar-lein er mwyn arddangos eu sgiliau yng Nghystadleuaeth Genedlaethol WorldSkills UK. Gellir rhoi’ch enw’n gyflym ac yn hawdd ar-lein yn: http://worldskillsuk.org/competitions/national-competitions/professional-services/butchery

Penodwyd y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn y Trallwng i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth ar ran WorldSkills UK ac mae wedi dwyn prif chwaraewyr y diwydiant cig ynghyd i ffurfio gr?p llywio.

Bydd rhagbrofion neu rowndiau asesu rhanbarthol yn cael eu cynnal rhwng mis Ebrill a Gorffennaf a bydd y chwe chigydd uchaf eu sgôr ledled y DU yn cymhwyso am y rownd derfynol yn y Sioe Sgiliau, a gynhelir yn yr NEC Birmingham o 19 i 21 Tachwedd. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.

Mae Doherty’n gwybod ambell i beth am gigyddiaeth a gwerthu cynhyrchion cig o safon, ar ôl iddo sefydlu fferm brîd prin, maes 170 erw fel atyniad twristaidd ac fel fferm waith. Yn ogystal â pharc fferm, mae yno fwyty, cegin maes, adwerthwyr, siop fferm a chigyddfa, lle caiff ei selsig arobryn eu gwneud.

Gall cwsmeriaid archebu cig ffres ar-lein yn http://jimmysfarm.com/shop/ 24 awr y dydd gyda’r dewisiadau’n amrywio o becynnau selsig a darnau rhost clasurol i flychau o gig. Ymfalchïa Jimmy’n fawr yn safon ei gigyddfa ac mae’n ymroi i ddulliau ffermio naturiol a thraddodiadol.

Wrth gymeradwyo Cystadleuaeth Genedlaethol WorldSkills UK mewn cigyddiaeth, dywedodd: “Mae’n un o’r sgiliau gwych hynny sy’n gwbl annatod i systemau cynhyrchu bwyd y DU a chaiff ei esgeuluso’n aml iawn. Mae cigyddiaeth yn grefft wych i gymryd rhan ynddi ond mae’n sicr yn un o’r sgiliau hynny y mae angen eu hadfywio.

“Mae mor bwysig annog cigyddion ifanc heddiw fel nad ydym yn colli’r sgiliau hanfodol hyn. Heb os, mae angen mwy o gigyddion annibynnol ar y stryd fawr yn ein trefi a phentrefi!

“Mae mor bwysig bod cigyddion ifanc yn rhoi cynnig ar y gystadleuaeth er mwyn cael cyfle i ddangos y sgiliau arbennig sydd gennym yn y wlad hon. Rwy’n gobeithio y bydd hefyd yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i ddechrau yn y grefft hanfodol hon. Ar ôl dysgu a meistroli’r sgiliau hyn, maen nhw’n gwbl amhrisiadwy i’r diwydiant bwyd yn y DU.

“Yn ddiweddar, rydym wedi gweld ymchwydd yn nifer yr ‘uwch-gogyddion’ enwog, ond oni fyddai’n dda gweld cigyddion enwog yn dod i’r amlwg hefyd?

“Gall codi safon cigyddiaeth fodern gael effaith mewn sawl ffordd wahanol. I ddechrau ac yn bennaf oll, rwy’n gobeithio y bydd yn cyflwyno’r defnyddiwr i’r amrywiaeth gyfan o wahanol doriadau cig sydd ar gael ac yn rhoi gwedd newydd ar giniawau dydd Sul traddodiadol – o olwythion porc i selsig!

“Rwy’n rhedeg cigyddfa ar y fferm gyda phedwar cigydd amser llawn ac mae’n annatod i fusnes y fferm. Rydw i’n bersonol wedi dysgu ac wedi mwynhau halltu cig moch yn y dull traddodiadol sy’n flasus.

“Gwyddwn, serch hynny, na all pawb ddod i’r fferm, felly rydym wedi rhoi ein cigyddfa faes ar-lein. Mae modd danfon y nwyddau ymhen 24 awr ac mae’r holl gynnyrch yn cael eu danfon mewn blychau cig tymheredd wedi’i reoleiddio er mwyn eu cadw’n hollol ffres.”

Dyluniwyd Cystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol WorldSkills UK i wella’r rhaglenni prentisiaeth a hyfforddiant a gwella a chymell sgiliau yn y diwydiant. Mae cigyddiaeth yn un o fwy na 60 o sgiliau a gynhwyswyd yn y cystadlaethau eleni.

Ar ôl mynd â phrentisiaid cigyddiaeth i arddangos eu sgiliau yn y Sioe Sgiliau bob blwyddyn ers 2011, roedd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn awyddus i ychwanegu’r alwedigaeth at y gystadleuaeth sgiliau, er mwyn codi proffil cigyddion medrus ar draws y DU.

Yn ogystal, mae’r cwmni’n rhedeg Cystadleuaeth flynyddol Cigydd Ifanc Cymru ac mae’r cystadleuwyr wedi mynegi’u dymuniad i gystadlu yn erbyn eu cymheiriaid ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.

“Dewiswyd dau o’n cigyddion prentis yn ddiweddar i gynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth ryngwladol, sydd wedi tynnu sylw at gyn lleied o gyfleoedd sy’n bodoli iddynt arddangos eu sgiliau yn y DU”, esboniodd Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

“Mae’n bwysig fod cigyddiaeth yn cael ei chynrychioli fel sgil yn WorldSkills UK oherwydd mae’n grefft wirioneddol y mae angen ei meincnodi a’i hyrwyddo. Bydd ei chynnwys am y tro cyntaf yn arf gwych er mwyn codi safonau a phroffil y diwydiant oherwydd mae WorldSkills fel Gemau Olympaidd y byd sgiliau.”