Coctel Dydd Gŵyl Dewi: Coctel Brwydr y Dreigiau

Coctel Brwydr y Dreigiau

Crëwyd coctel Brwydr y Dreigiau gan un o’n harbenigwyr yn Hyfforddiant Cambrian i nodi dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Fel y gwyddoch efallai, weithiau mae coctels yn ffynnu ar lwyddiant o stori dda ac yn union fel y clasuron, mae’r coctels hyn yn dod â chynnyrch Cymreig a lliwiau coch, gwyrdd a gwyn at ei gilydd i ddangos hanes baner Cymru. Mae’r dull wedi’i osod allan fel petaech chi’n hoffi dangos eich dawn artistig i’ch anwyliaid gartref, ond mae croeso i chi creu’r coctel hwn mewn unrhyw ffordd rydych chi’n ei blesio!

Cynhwysion

25ml Midori
25ml Trulo Peach Melba
150ml Heartease Farm Apple & Rhubarb

Lletem leim fel garnais

Cyfarpar

Cwpan gwydr tal
Bag rhewgell
Rholbren
Llwy cymysgu
Cyllyll a Bwrdd Torri i dorri’r garnais
Cwpan gwydr bach (os ydych chi’n cyflwyno)
Corsen melyn

Paratoad

  • Arllwyswch eich diodydd i mewn i gwpan gwydr bach yn barod i’w arllwys i’r ddiod
  • Rhowch yr iâ y tu mewn i’r bag rhewgell
  • Torrwch eich garnais leim yn lletem

Dull

Mae’r stori’n dechrau gyda Brenin Cymreig ag oedd yn chwilio am le i adeiladu ei gastell. Chwiliodd yn eang ac yn y diwedd setlodd ar fryn mawr wedi’i orchuddio â glaswellt.

  1. Ychwanegu’r Midori i’r cwpan gwydr.

Bu’n rhaid iddo weithio i adeiladu ei gastell ac er gwaethaf ei waith caled, roedd y sylfeini’n dal i dadfeilio ac nad oedd yn rhy falch ohonynt.

  1. Torrwch yr iâ yn y bag rhewgell gyda’r rholbren a’i ychwanegu i’r cwpan gwydr tal. (Y peth gorau yw defnyddio’r bwrdd torri fel nad ydych chi’n niweidio unrhyw arwynebau!)

Parhaodd i geisio nes i fachgen o’r enw Merlin ddod at y Brenin a dweud wrtho pam nad oedd ei sylfeini yn para. Dywedodd o dan y bryn bod 2 ddraig yn gorwedd yn segur wrth ymyl llyn. Mor warthus ag yr oedd hyn, fe gloddiodd y brenin i’r bryn a chanfod yn union beth oedd y bachgen bach wedi ei ddweud, 2 ddraig; un coch ac un gwyn.

  1. Arllwyswch y Trylo Peach Melba (tryloyw i gynrychioli gwyn) a hanner yr Apple a Rhubarb (i gynrychioli coch) i’r cwpan gwydr.

Yn sydyn, fe wnaethon nhw ddeffro a dechrau brwydr hir.

  1. Cymerwch y llwy gymysgu a chymysgu’r diod, gan fod yn ofalus i beidio â gadael i’r ffiz godi dros yr ymyl.

Ac wedi’r holl ergydion wedi eu delio, daeth y ddraig goch allan yn fuddugol.

  1. Arllwyswch weddill yr Apple a Rhubarb i’r cwpan gwydr.
  2. Garnish gyda lletem o leim a chorsen melyn.

Mae’r technegau a ddefnyddir yn y rysáit hwn yn cael eu haddysgu i’n prentisiaid trwy ein rhaglen brentisiaethau. Am fwy o wybodaeth am ein prentisiaethau cliciwch yma neu cysylltwch â ni ar info@cambriantraining.com.