Category: Archif 2014

Profodd Daniel Raftery, cigydd dawnus o Ganolbarth Cymru, mai ef oedd brenin y cigyddion yn rownd derfynol yr ornest genedlaethol yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol ddydd Llun. Llwyddodd Daniel, sy’n 34 oed ac yn lladdwr anifeiliaid gradd A yn Randall Parker Foods, Dolwen, Llanidloes, i wrthsefyll cystadleuaeth gref gan ddau arall i ennill teitl… Read more »

Dydi’r cigydd o fri, Peter Rushforth, ddim wedi edrych yn ôl ers iddo ddewis dilyn prentisiaeth yn lle mynd i’r brifysgol ac yn awr mae wedi ychwanegu gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn at ei gasgliad o wobrau. Cyflwynwyd y wobr i Peter, 22 oed, o Goed-llai, yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty… Read more »

Wrth i’r Llewod baratoi am eu gornest yn erbyn cewri’r byd rygbi, sef Crysau Duon Seland Newydd, mae rhai o gigyddion gorau Prydain ac Iwerddon wedi bod yn gweithio’n wrol hefyd, yn cystadlu am le yn rownd derfynol cystadleuaeth gigyddiaeth fawreddog Worldskills UK. Mae cystadleuwyr ar draws y pedair gwlad wedi dod at ei gilydd… Read more »

Mae Jamie Farrell wedi cael ei dystysgrif PC3 wrth weithio fel prif gogydd yng nghartref gofal y Quarry Hall yn Llaneirwg. Mae bellach yn ymgymryd â phrentisiaeth Lefel 4 mewn Rheoli Lletygarwch! Cysylltwch â Ni Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflogi prentis, neu ddechrau rhaglen Brentisiaeth, cysylltwch â ni i drafod eich dewisiadau a sut… Read more »

Mae penderfyniad gyrfa Peter Rushforth i ddewis prentisiaeth yn hytrach na pharhau â’i astudiaethau academaidd yn y brifysgol yn talu ar ei ganfed i’r seren cigyddiaeth 21 mlwydd oed. Mae’r cigydd sydd â sawl gwobr i’w enw o Goed-llai, Gogledd Cymru newydd ddychwelyd o’r Unol Daleithiau ar ôl sicrhau ysgoloriaeth Hybu Cig Cymru i astudio’r… Read more »

Achosodd Peter Rushforth, sef cigydd 19 oed dawnus, gynnwrf trwy guro pencampwr y llynedd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru 2014 yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, ar ddydd Mawrth. Llwyddodd Peter o Swans Farm Shop, Treuddyn, Yr Wyddgrug, a gymerodd ran yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf y llynedd, i greu… Read more »

Mae ymateb i anghenion cyflogwyr a dysgwyr trwy gyflwyno Fframweithiau Prentisiaeth newydd i Gymru wedi cynnal statws Cwmni Hyfforddiant Cambrian fel un o brif ddarparwyr dysgu’r wlad. Erbyn hyn, mae’r cwmni yn y Trallwng yn ymryson i ennill gwobr Darparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn am yr eildro mewn tair blynedd yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2014. Mae Cwmni… Read more »

Mae’r ymgyrch flynyddol ar waith i ddod o hyd i gigydd ifanc gorau Cymru, a allai agor y drws i lwyddiant rhyngwladol. Bydd Cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru 2014 yn dwyn ynghyd gigyddion mwyaf dawnus y wlad yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Msuallt ar ddydd Mawrth, 2 Rhagfyr. Byddant yn cael cyfle i ddangos eu… Read more »

Mae un o bacwyr adwerthu mwyaf y DU, sy’n cyflogi 600 o bobl yng Ngorllewin Cymru, wedi’i gynnwys ar restr fer am wobr prentisiaeth genedlaethol fawreddog. Mae Dunbia, sydd â lleoliad yn Llanybydder yn Sir Gaerfyrddin, yn rownd derfynol categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014 a bydd yn mynychu seremoni wobrwyo… Read more »

Mae dau gigydd o fri o Ogledd-ddwyrain Cymru wedi profi eu bod nhw ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill trwy gael eu cynnwys ar restr fer am wobrau prentisiaeth cenedlaethol mawreddog. Mae Tom Jones, 24 oed, sy’n rhedeg Jones’ Butchers yn Llangollen, yn rownd derfynol Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn, ac mae Matthew Edwards, 22 oed, sy’n… Read more »