Author: Alison Gill

Enillodd dwy fenter gymdeithasol dair gwobr yr un yn seremoni wobrwyo flynyddol darparwr prentisiaethau blaenllaw. Roedd gan Bryson Recycling (Cymru), Bae Colwyn ac Antur Waunfawr, Caernarfon, dri rheswm yr un dros ddathlu yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol Cwmni Hyfforddiant Cambrian. Bryson Recycling, y busnes ailgylchu mwyaf gan fenter gymdeithasol yn y DU, a… Read more »

Fel un o ddarparwyr blaenllaw yng Nghymru ar gyfer dysgu seiliedig ar waith, rydym wedi dathlu llwyddiant o’n prentisiaid o bob cwr o’r wlad yn ein Seremoni Graddio flynyddol. Cyflwynwyd eu sgroliau graddio i chwe deg o brentisiaid yn eu capiau a’u gynau yn y seremoni a drefnwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng yng… Read more »

Mae 19 o ymgeiswyr wedi cyrraedd rownd derfynol gornest flynyddol y Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau a drefnir gan un o brif gwmnïau hyfforddiant Cymru. Cynhelir y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty a Sba y Metropole, Llandrindod ar 17 Mai i ddathlu camp cyflogwyr a dysgwyr o bob rhan o Gymru, sydd wedi rhagori mewn… Read more »

Ar 1af o Fawrth bob blwyddyn, gyda’r baneri’n chwifio’n uchel, cynhelir toreth o orymdeithiau a chyngherddau cyffrous ar hyd a lled y wlad i ddathlu ein Nawdd Sant Cymru. Mae cennin pedr, cennin a gwisg draddodiadol  yn bywiogi strydoedd Cymru; yn croesawu dyfodiad y gwanwyn. Felly pwy yw Dewi Sant a pham rydyn ni’n ei… Read more »

Mae prentisiaethau dwyieithog yn helpu dau ddyn i ddatblygu gyrfaoedd addawol mewn menter gymdeithasol flaenllaw yn y gogledd sy’n cynnig swyddi a chyfleoedd am hyfforddiant yn eu cymuned eu hunain i bobl sydd ag anableddau dysgu. Mae Tom Workman, 39, uwch-swyddog beics a Jack Williams, 24, swyddog beics, yn gweithio i Antur Waunfawr, sydd â… Read more »

Rydym wedi penodi rheolwr gyfarwyddwr newydd ar gyfer dysgu seiliedig ar waith. Bydd Faith O’Brien yn olynu Arwyn Watkins OBE, sydd bellach yn Gadeirydd Gweithredol Grŵp CTC; gyda ffocws mwy strategol ar Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Trailhead Fine Foods, Chartists 1770 a Mid Wales Fayres. Bydd y ddau yn parhau fel aelodau bwrdd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol… Read more »

Ffurfiwyd ein grŵp hyrwyddwyr iechyd meddwl a lles yn gynharach eleni i annog a chefnogi ein staff i helpu eu hiechyd meddwl a’u lles cyffredinol eu hunain ac eraill. Maent wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu adnoddau i’w rhannu’n fewnol ac wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau; i gyd er mwyn cefnogi… Read more »

Mae’r Souffle Afal Cinnamon hwn gyda Hufen Iâ Helygen y Môr yn siŵr o wneud argraff ar eich gwesteion y tymor parti hwn ac mae’n ddewis arall gwych i’r pwdinau Nadolig mwy traddodiadol. Cynhwysion: (Ar gyfer 4) Soufflé Afal Cinnamon: -menyn ar gyfer iro -100g o siwgr mân, ynghyd â mwy ar gyfer leinin -100g… Read more »

Rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chwmni bwyd Cymreig Kepak ers dros 18 mis bellach, gan gyflwyno ein rhaglenni prentisiaeth seiliedig ar waith arobryn. Mae cyflwyno prentisiaethau yn natblygiad proffesiynol staff Kepak wedi creu gweithlu hynod fedrus ac uchel ei gymhelliant ac yn ei dro wedi gostwng trosiant staff yn ddramatig. Yn… Read more »

Os ydych chi o dan straen, boed yn eich swydd neu yn eich bywyd personol, y cam cyntaf i deimlo’n well yw nodi’r achos a chymryd rheolaeth o’r sefyllfa. Mae’r awgrymiadau canlynol yn fan cychwyn da. . . Byddwch yn actif Mae ymarfer corff yn ffordd wych o glirio’ch meddwl a gadael i chi feddwl… Read more »