Mae prentisiaeth mewn Rheoli Ynni yn cwrdd ag anghenion cynaliadwyedd busnesau

Mae Prentisiaeth arloesol mewn Rheoli Ynni a Charbon yn cael ei lansio yng Nghymru er mwyn cefnogi busnesau i symud tuag at dargedau Sero Net erbyn 2050.

Darparir y cymhwyster prentisiaeth yma – y gyntaf o’r fath yng Nghymru – gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, darparwr hyfforddiant arobryn, ac wedi’i dylunio ar gyfer cwmnïoedd o bob maint ac er mwyn arbed arian i ddiwydiannau a lleihau eu hôl-troed carbon.

“Mae hyn yn gyfle i bob busnes ar draws Cymru i uwchsgilio staff i ennill gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr o fewn i gynaliadwyedd ac i gyflawni targedau gosodwyd gan gynllun Llywodraeth Cymru o ‘Sero Net erbyn 2050’,” meddai Amy Edwards, Pennaeth Cynaliadwyedd yn Hyfforddiant Cambrian.

“Gall dysgu trwy brentisiaethau helpu staff i ddatblygu sgiliau ymarferol gan gynnwys gwybodaeth ddamcaniaethol sy’n hanfodol er mwyn datblygu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.

“Mae’r Brentisiaeth newydd mewn Rheoli Ynni yn berffaith i gwmnïoedd o unrhyw faint sydd wedi neu’n dymuno apwyntio pencampwr ynni. Mae’r brentisiaeth ar gael ar gyfer recriwtiaid
newydd a gweithwyr presennol.”

Yn arwain y tîm sy’n darparu’r brentisiaeth newydd, mae Amy yn awyddus i recriwtio mwy o swyddogion hyfforddiant cynaliadwyedd ar draws Cymru i gwrdd â’r galw disgwyliedig gan fusnesau.

Bydd Amy yn gweithio’n agos gyda Liz Cain, aelod arall o’r tîm sy’n darparu’r cymhwyster cyffrous newydd yma; sydd hefyd yn agos at gwblhau Gradd Meistr mewn Addysg Amgylcheddol Gynaliadwy Awyr Agored trwy Brifysgol yr Alban.

Y rolau swyddi sy’n debygol o gael eu cefnogi gan y prentisiaeth yn gynnwys rheolwr ynni iau, dadansoddwr ynni, rheolwr cyfleusterau, swyddogion cyllid sy’n ymwneud â chyllidebau ynni, peiriannydd cynnal a chadw/cylch bywyd, rheolwr ynni newydd, uwchsgilio arbenigwyr ynni, ynni, Sero Net neu bencampwr carbon, a goruchwyliwr adeiladu ynni.

Bydd y prentisiaeth yn cefnogi sefydliadau er mwyn cwrdd â thargedau ac amcanion lleihad ynni a chost fel rhan o’u hymrwymiadau cynaliadwyedd ehangach, megis rheoli garbon a dŵr a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Bydd yn helpu’r prentis i gydnabod cyfleoedd i arbed arian, deall newidiadau allweddol sy’n gysylltiedig gydag effeithlonrwydd trafnidiaeth ac allyriadau carbon a’u cysylltiad i strategaeth rheoli ynni eu sefydliad.

Bydd y prentis yn gweithio gyda chwsmeriaid a chyflenwyr i ddadansoddi a deall defnydd o ynni a dŵr eu sefydliad ac i adolygu rheoli wastraff a gofynion y gadwyn cyflenwi.

Mae Hyfforddiant Cambrian yn chwilio am gymeradwyaeth o Gymwysterau Cymru i ychwanegu Prentisiaeth Uwch a Sylfaen mewn Rheoli Ynni er mwyn creu llwybr dilyniant clir.

Arianir y brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru a gall ei darparu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog, a bydd yn cael ei darparu yn y gweithle ac wedi’i ddrefnu i anghenion y dysgwr a busnes.

Am fwy o wybodaeth ar y brentisiaeth newydd yma mewn Rheoli Ynni a Charbon, cysylltu â ni.