Pwy fydd enillwyr gwobrau blynyddol cwmni hyfforddi blaenllaw

Mae 19 o ymgeiswyr wedi cyrraedd rownd derfynol gornest flynyddol y Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau a drefnir gan un o brif gwmnïau hyfforddiant Cymru.

Cynhelir y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty a Sba y Metropole, Llandrindod ar 17 Mai i ddathlu camp cyflogwyr a dysgwyr o bob rhan o Gymru, sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaethau seiliedig ar waith a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.

Yn rownd derfynol Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn mae Jack Williams, swyddog beiciau a gweithiwr aml-sgil yn Antur Waunfawr, Caernarfon; Katie Duffy, cogydd yn The Links yng Nghlwb Golff Ashburnham, Porth Tywyn a Jason Taylor, goruchwyliwr derbyniadau bwyd rhew gyda Kepak St Merryn, Merthyr Tudful.

Y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Prentis y Flwyddyn yw:  Gerwyn Llyr Williams, rheolwr tîm ar safleoedd Bryson Recycling yn Ninbych a Rhuthun; Sabrina Germani, rheolwr cynorthwyol yn Coffi Co, Caerdydd; David Bennett, rheolwr safle tynnu esgyrn cig eidion yn Kepak St Merryn, Merthyr Tudful a Hannah May Riddell, rheolwr cynorthwyol Las Iguanas, Caerdydd.

Yn rownd derfynol Gwobr Prentis Eithriadol y Flwyddyn mae Andrew Bennett, arweinydd tîm ar safle Bryson Recycling yn Abergele; Antony Ockwell, prentis cigydd yn Barratt’s Fine Meats, Y Rhws; Diana Matos, cynorthwyydd prynu a Layla Gibbons, gweithiwr cyswllt bwyd a diod, y ddwy’n gweithio i The Celtic Collection, Casnewydd.

Y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yw Bwyty a Llofftydd Trewythen, Llanidloes a Llyfrgell Gladstone, Penarlâg.  Mae Cartref Gofal Claremont Court, Casnewydd ac Antur Waunfawr, Caernarfon yn cystadlu am Wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn; ac mae Bryson Recycling (Cymru), Bae Colwyn; The Celtic Collection, Casnewydd; Whitbread plc a Gwesty Castell Bodelwyddan, Bodelwyddan â’u llygaid ar Wobrau Cyflogwr Mawr a Macro y Flwyddyn.

Dywedodd Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian:  “A ninnau’n agosáu at y seremoni raddio yng Ngwesty a Sba y Metropole, rydw i’n edrych ymlaen yn llawn cyffro a balchder at y seremoni wobrwyo.

“Dyma gyfle ardderchog i ddathlu, nid yn unig i’r prentisiaid eu hunain ond i bawb sydd wedi cael y fraint o fod yn rhan o’u taith.

“Byddwn yn dod at ein gilydd i ddathlu ymroddiad ac ymrwymiad unigolion a chwmnïau sy’n chwarae rhan hanfodol yn hybu’r economi a chefnogi’r rhaglen brentisiaethau yma yng Nghymru. ”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop