Prentisiaethau’n chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant becws Danaidd

Lansiwyd becws artisan Brød yng Nghaerdydd gan Betina, sy’n dod yn wreiddiol o Copenhagen, yn 2015, ar ôl gweld bwlch yn y farchnad am fara, cacennau a theisennau crwst ffres Danaidd.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae’n cyflogi 25 o bobl mewn becws modern a dwy siop goffi, mae wedi ennill nifer o wobrau ac mae ganddi gynlluniau cyffrous i ehangu ei busnes, wrth iddi barhau i ailfuddsoddi’r elw.

Yn y Rhath, Caerdydd y mae’r becws newydd 2,000 troedfedd sgwâr ac mae’r ddwy siop goffi ym Mhontcanna a Phenarth.  Mae’r becws yn cynnig gwasanaeth têcawe rhwng 8am a 2pm i bobl gael prynu cynnyrch ffres, te a choffi.

Yn ôl Betina, mae’r busnes yn llwyddo trwy waith caled, ymroddiad a’r ffaith ei bod wedi meithrin ei staff medrus ei hun gan ddefnyddio rhaglen brentisiaethau’r llywodraeth, a gyflenwir gan Hyfforddiant Cambrian, darparwr hyfforddiant arobryn.

Dydi hi ddim wedi edrych yn ôl ers iddi gymryd ei phrentisiaid cyntaf yn fuan ar ôl agor y busnes. Un ohonyn nhw, Rebekah Chatfield, yw’r prif bobydd erbyn hyn. Mae’n arwain tîm o chwech, sy’n cynnwys dau brentis, Clara White, 26, a Zeba Nessa, 26, sy’n gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Hyfedredd yn Sgiliau’r Diwydiant Pobi.

Cafodd Brød saith prentis pobydd yn y busnes hyd yma ac mae’n bwriadu cyflogi llawer eto yn y dyfodol i wneud defnydd llawn o’r becws newydd, a agorwyd fis Hydref diwethaf.

“Rwy’n cefnogi prentisiaethau achos rwy’n credu ei bod yn bwysig hyfforddi’r genhedlaeth nesaf yn y diwydiant pobi a meithrin eich talent eich hunan,” meddai.  “Allwch chi ddim disgwyl pobl fedrus mewn diwydiant os na fyddwch chi’n eu hyfforddi eich hunan.

“Pan fyddwch chi’n dod ar draws rhywun sy’n angerddol am eich proffesiwn, y peth gorau y gallwch ei wneud yw parhau i feithrin eu sgiliau.  Mae’n rhaid i chi fuddsoddi mewn staff medrus ar gyfer y tymor hir.

“Mae prentisiaethau’n rhan annatod o’r busnes erbyn hyn.  Rydyn ni wedi gweld droson ni’n hunain sut mae ein prentisiaid wedi datblygu, sut mae eu sgiliau a’u hyder wedi gwella a sut maen nhw wedi tyfu fel pobl.

“Rydyn ni wedi bod gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian ers chwe blynedd ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn wrth fy helpu i dyfu’r busnes gan ddefnyddio’r rhaglen brentisiaethau.”

Wrth edrych i’r dyfodol, dywed Betina y bydd y becws pwrpasol yn caniatáu iddi gyflogi a hyfforddi mwy o brentisiaid, rhedeg ysgol bobi a gwasanaethu mwy o gwsmeriaid.  Mae hefyd yn ystyried agor rhagor o siopau coffi Brød.

Mae gan Zeba radd anrhydedd mewn Mathemateg, mae wrth ei bodd â bara a chacennau cartref ac mae’n teimlo bod ei phrentisiaeth yn rhywbeth oedd i fod i ddigwydd.  Yn dilyn gwyliau annisgwyl yn Nenmarc ym mis Rhagfyr, gwnaeth adduned Blwyddyn Newydd i chwilio am waith pobi.

Yna, gwelodd hysbyseb am brentis pobydd yn Brød, cafodd y swydd a dechrau gweithio ar 6 Mawrth. “Roedd fel pe bai cyfres o ddigwyddiadau’n arwain at hyn – ffordd ddigri’r bydysawd o ddweud wrthyf y dylwn i gymryd y swydd,” meddai Zeba.

“O’r diwrnod cyntaf, rwy wedi bod yn plygu toes, yn dysgu gwneud eisin ac mae’r staff yn fy nhrystio i wneud popeth.  Mae yma awyrgylch braf, cartrefol ac rwy wrth fy modd.

“Fel rhan o fy mhrentisiaeth, mae disgwyl i mi feddwl am ddau gynnyrch newydd sbon i’w cynllunio, eu dylunio a’u gwneud. Mae hynny’n gyffrous iawn.  Roeddwn i’n awyddus i weithio yn y diwydiant bwyd erioed ond doedd gen i ddim profiad, felly mae’r brentisiaeth hon yn gyfle gwych i mi.”

Mae ei chyd-brentis Clara, sy’n byw yn y Barri, yn gobeithio cwblhau ei phrentisiaeth erbyn dechrau’r haf.  Ar ôl graddio mewn Gwyddor Bwyd, cafodd swydd ddesg gyda chwmni gwneud cacennau ond roedd arni eisiau gwaith mwy ymarferol a dyna beth mae’r brentisiaeth yn Brød yn ei roi iddi.

Mae hi wedi dysgu sgiliau gwneud crwst a bara ac mae’n gobeithio symud ymlaen i patisserie cyn gwireddu ei breuddwyd o redeg ei busnes ei hunan yn y pen draw.

“Mae’r brentisiaeth yn waith caled ond mae wedi talu ar ei ganfed i mi gyda’r sgiliau rwy wedi’u dysgu ac mae’n bendant wedi rhoi hyder i mi yn fy ngwaith,” meddai Clara.

“Mae Mark Llewellyn, fy swyddog hyfforddi o Hyfforddiant Cambrian, wedi sicrhau fy mod wedi cadw ar y trywydd iawn gyda fy mhrentisiaeth ac mae rheolwr y becws, Becky Chatfield, sy’n athrawes dda iawn, wedi bod yn barod iawn i helpu.”

Ers dros 25 mlynedd, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn darpru prentisiaethau seiliedig ar waith ledled Cymru, gan ennill llu o wobrau.  Maent yn darparu cymwysterau mewn nifer o ddiwydiannau, o gynhyrchu bwyd a lletygarwch i gynaliadwyedd a busnes, i enwi dim ond ychydig.

Os hoffech wybod sut y gall eu prentisiaethau gynyddu sgiliau’ch gweithlu a gwella’ch busnes, cysylltwch â Hyfforddiant Cambrian heddiw i drafod eich opsiynau info@cambriantraining.com 01938 555893