Ysbrydoli dysgwyr am dros 25 mlynedd, waeth beth fo’u hoedran

Ar gyfer yr Wythnos Addysg Oedolion hon, mae Hyfforddiant Cambrian eisiau ysbrydoli unigolion o bob oed i ddod yn ddysgwyr gydol oes a chwalu’r myth bod prentisiaethau ar gyfer disgyblion sy’n gadael yr ysgol yn unig.

Mae eu prentisiaethau seiliedig ar waith yn rhoi cyfle i unigolion o unrhyw gefndir ennill sgiliau newydd, sefydlu eu gwybodaeth bresennol gyda chymwysterau; neu hyd yn oed newid gyrfa.

Llynedd yn unig, helpodd Hyfforddiant Cambrian dros 500 o unigolion dros 24 oed i gyflawni eu nodau gyrfa trwy ei raglenni prentisiaeth arobryn.

Un o’r prentisiaid hynny oedd Dai Moore, Cynorthwyydd Gwasanaethau Golff a oedd yn teimlo’n bryderus i ddechrau prentisiaeth o ganlyniad i’w oedran, ond sydd bellach ag ymrwymiad cryf i gyflawni ei gymhwyster lefel 2 mewn Gwasanaethau Lletygarwch ac yn argymell prentisiaethau i bawb.

Dywedodd Dai, sy’n cael ei gyflogi gan Westy Hamdden y Celtic Manor yng Nghasnewydd: “Mae hyn wedi bod yn brofiad anhygoel i mi! Mae Hyfforddiant Cambrian wedi fy helpu i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol, ac erbyn hyn mae gen i angen am wybodaeth yn ogystal ag angerdd am bob peth gwasanaeth gwsmeriaid.”

O brentis sydd newydd ddechrau ar ei daith ddysgu, i unigolyn sy’n parhau i dyfu a datblygu; Mae Lesley Davies wedi cwblhau ei Phrentisiaeth Lefel 4 mewn Rheoli Lletygarwch ac mae bellach yn dechrau ar Lefel 5 mewn Rheoli.

Canmolodd Lesley ei Swyddog Hyfforddi, Aled, am ei wybodaeth a’i gefnogaeth heb ei ail ac mae’n ei canmol ef a’i phrentisiaeth am dderbyn dyrchafiad tair gwaith.

“Ni allaf ddiolch digon i Aled am yr hyfforddiant a’r wybodaeth y mae wedi’i roi imi. Mae’r cwrs ei hun yn dda iawn ac wedi fy helpu gyda fy sgiliau rheoli; gan helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa.”

“Rydw i wir eisiau parhau i gwrs lefel 5 ac alla i ddim aros am y digwyddiad graddio,” meddai Lesley yn gyffrous.

Mae’r cyn-gogydd Gerwyn Williams yn canmol ei Brentisiaeth mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy am ei helpu i symud o redeg ei fwyty ei hun, i yrfa mewn ailgylchu gwastraff.

Bellach yn Rheolwr Tîm Bryson Recycling Cymru, dywed Gerwyn: “Rwy’n annog fy nghydweithwyr i gyd i wneud prentisiaeth gan ei fod yn sicr yn agor drysau.”

Enillodd Gerwyn wobr Prentis y Flwyddyn Hyfforddiant Cambrian yn y digwyddiad eleni a dywedodd; “Ar ôl newid fy ngyrfa, mae’r wobr hon yn dangos fy mod wedi dewis y llwybr cywir.”

Stori ysbrydoledig arall yw stori Ceri Nicholls, gweithiwr yn Cambrian Training sydd wedi cwblhau ei Phrentisiaeth Lefel 4 mewn Marchnata Digidol.

“Ar ôl bod yn llwyddiannus wrth reoli digwyddiadau, roeddwn i eisiau symud i’r ochr farchnata. Mae fy mhrentisiaeth wedi fy ngalluogi i wneud hynny. Rwyf wedi ennill profiad gwerthfawr a gwybodaeth ddamcaniaethol, yn ogystal â chymhwyster achrededig. Dyma sy’n gwneud prentisiaethau seiliedig ar waith mor wych!”

Dyma brofiad nifer fach yn unig o’r prentisiaid hŷn mai Hyfforddiant Cambrian wedi cefnogi ers dros 25 mlynedd i gyflawni eu nodau gyrfa.

Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru, gyda mwy na 10,000 o oedolion yn cymryd rhan bob blwyddyn. Nod yr ymgyrch yw annog angerdd am ddysgu a datblygu sgiliau.

Gyda chymwysterau mewn amrywiaeth o sectorau a’r gallu i gyflawni ledled Cymru gyfan, mae Hyfforddiant Cambrian eisiau annog pawb yn yr Wythnos Addysg Oedolion hon i symud ymlaen yn eu gyrfa trwy ennill sgiliau a chymwysterau newydd; beth bynnag fo’u hoedran.

Cysylltwch â’u tîm ymroddedig heddiw i ddeall beth all prentisiaethau ei wneud i’ch gyrfa. E-bostio ar: info@cambriantraining.com neu Ffôn: 01938 555893.

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.