Cwrs Cyntaf Dydd Gŵyl Dewi: Souffle Caws Pob

Souffle Caws Pob

Cyn i’r tymhorau droi a’r gaeaf droi’n wanwyn, dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi eleni gydag un rownd olaf o fwyd cysurus gyda’r sbin hwn ar fwyd traddodiadol Cymreig.

Cynhwysion

40g menyn

40g blawd plaen

300ml llaeth cyflawn

1tsp Mwstard Coch Cymreig

Pinsiad o cayenne

3tsp Saws Swydd Gaerwrangon

150g Caws Caerffili

50g parmesan, wedi’i gratio man

1 Cennin

15g Blawd Corn

6 wyau, wedi’i gwahaniaethu

Y Souffle

Rhagboethi’r ffwrn (180C ffan/ nwy 6) a seimio’r pedwar dysglau souffle neu pobi 23-24cm gyda menyn. Toddi’r menyn mewn pan, a chymysgu’r blawd i mewn iddo. Coginio dros gwres canolig/uchel, gan gymysgu’n cyson am 3 – 4 munud, tan ei fod yn troi’n aur. Yna, chwisgo mewn y llaeth tan ei fod yn esmwyth.

Troi’r gwres i lawr i gwres canolig a choginio’n ysgafn tan ei fod yn berwi. Yna mudferwi am 5 munud, gan gymysgu tan ei fod wedi tewychu. Wedyn, trosglwyddo i fowlen a gadael i un ochr i oeri ychydig.

Cymysgu’r mwstard coch, cayenne, hanner y caws a’r holl parmesan i’r saws a, pan ei fod yn esmwyth, ychwanegu’r melynwy, un ar y tro. Ychwanegu gweddill y caws.

Mewn bowlen mawr, glan, chwisgo’r gwynwyau tan ei fod yn anhyblyg, yna chymysgu ychydig o lwyau o’r gwynwyau i’r cymysgedd caws i’w ysgafnhau. Yn ofalus iawn plygu’r gweddill gyda spatiwla neu llwy metal. Defnyddio’r llwy i rhoi’r cymysgedd i mewn i’r dysglau, gan bod yn ofalus i sicrhau nad ydych yn llenwi i’r top.

Y Cennin

Torrwch y cennin i gylchoedd hanner centimedr a’i trowch y blawd corn, ffriwch mewn sypiau bach tan ei fod yn crisb.

Gweinwch gyda salad bach o afal Bardsey, radish a letys crunci.

 

Mae’r technegau a ddefnyddir yn y rysáit hwn yn cael eu haddysgu i’n prentisiaid trwy ein rhaglen brentisiaethau. Am fwy o wybodaeth am ein prentisiaethau cliciwch yma neu cysylltwch â ni ar info@cambriantraining.com.