Cystadleuaeth Arlwyo
Gofynion Mynediad
Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar Lefel Mynediad 2. Mae’n rhaid i gystadleuwyr fod 16 oed neu hŷn. Gall uchafswm o 2 gystadleuydd fesul sefydliad ymgeisio. Caiff ceisiadau ei gwneud trwy eich arweinydd cystadlaethau rhanbarthol. Mae’n rhaid cyflwyno datganiad o gymorth sy’n amlinellu unrhyw anghenion sydd gan y cystadleuydd o fewn y gystadleuaeth â’r ffurflen gais.
Tasg y Gystadleuaeth
Bydd gofyn i gystadleuwyr baratoi brechdan o ddewis a thriawd o bwdinau ar gyfer dau o bobl, â thema Gymreig.
Bydd y gystadleuaeth hon yn profi gwybodaeth a sgiliau cystadleuwyr yn y meysydd canlynol; Iechyd & Diogelwch, hylendid, sgiliau cyllell, defnydd o offer, sgiliau cyflwyno a gwybodaeth am gyfuniadau blas.
Bydd cystadleuwyr yn cael 1 awr a 15 munud i baratoi brechdan o’u dewis a “Thriawd o Bwdinau” â Thema Gymreig ar gyfer dau o bobl, ar blatiau ar wahân.
Triawd i gynnwys:
- Cacen fach wedi’i haddurno
- Nyth meringue â hufen a ffrwythau arno
- Pwdin bach o’ch dewis
I’w darparu gan y gwesteiwr:
- Caiff cyfarpar (oni nodir) ei ddarparu
- Cacennau bach wedi’u gwneud ymlaen llaw
- Meringues wedi’u gwneud ymlaen llaw
- Bara Brown a Gwyn
- Menyn
I’w darparu gan y Cystadleuydd
- Mae’n rhaid i gystadleuwyr ddarparu eu gwisg a PPE eu hunain
- Platiau a dysglau (x2) o’ch dewis i gyflwyno pob platiad o’r triawd o bwdinau
- Cynhwysion ychwanegol at y cacennau bach, meringue, bara a menyn h.y. hufen (heb ei chwipio) addurn bwytadwy, hufen menyn, llenwad brechdan a ffrwythau
- Yr holl gynhwysion ar gyfer pwdin o’ch dewis
- Offer arddangos ar gyfer pwdin o’ch dewis
Mae’n rhaid i’r triawd gael ei ddylunio’r un peth ar gyfer pob platiad.
Cofrestru
Yn agor ar 1af Medi ac yn dod i ben ar 20fed Hydref!
Gallwch gofrestru ar-lein trwy: https://www.skillscompetitionwales.ac.uk/
Cystadleuaeth Gwasanaeth Bwyty
Gofynion Mynediad
Mae’r gystadleuaeth ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar Lefel Mynediad 1. Mae’n rhaid i gystadleuwyr fod 16 oed neu hŷn. Gall uchafswm o 2 gystadleuydd fesul sefydliad ymgeisio. Caiff ceisiadau eu gwneud trwy eich arweinydd cystadlaethau rhanbarthol. Mae’n rhaid cyflwyno datganiad o gymorth sy’n amlinellu unrhyw anghenion sydd gan y cystadleuydd o fewn y gystadleuaeth â’r ffurflen gais.
Tasg y Gystadleuaeth
Bydd gofyn i’r cystadleuydd osod bwrdd ar gyfer 2, ar gyfer prif gwrs, i weddu thema “Santes Dwynwen”.
Bydd y bwrdd o faint addas i 2 o bobl eistedd (efallai y bydd siâp y bwrdd yn sgwâr, cylch neu hirsgwar).
Bydd cystadleuwyr yn cael 30 munud i gwblhau’r dasg hon:
- Sychu / glanhau’r bwrdd
- Sgleinio a gosod cyllyll a ffyrc (gan ddefnyddio lliain)
- Pob lle gosod i gynnwys gwydr dŵr a napcyn (napcynnau papur i gael eu darparu)
- Lle gosod i gynnwys addurn i gyd-fynd â’r thema “Santes Dwynwen”
I’w darparu gan y gwesteiwr:
- Lliain a chwistrell i sychu’r bwrdd
- Cyllyll a ffyrc: 2 gyllell prif gwrs, 2 fforc prif gwrs, 2 wydr dŵr, 2 napcyn papur plaen, lliain a dŵr poeth ar gyfer sgleinio cyllyll a ffyrc, bwrdd ar yr ochr i ddal cyfarpar
I’w darparu gan y cystadleuydd
- Addurniadau bwrdd
- Gwisg y cystadleuydd
- Napcynnau amgen os oes angen (papur neu liain)
- Lliain bwrdd (os oes angen)
Cofrestru
Yn agor ar 1af Medi ac yn dod i ben ar 20fed Hydref!
Gallwch gofrestru ar-lein trwy: https://www.skillscompetitionwales.ac.uk/