Mae taith anhygoel Adam Pike yn dangos sut y gall prentisiaethau helpu oedolion i ailhyfforddi, ennill cymwysterau ac adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant hollol newydd.
Ar ôl gyrfa llwyddiannus 15 mlynedd fel joci, dychwelodd Adam i Wrecsam gyda’i deulu yn 2023 a dechreuodd chwilio am her newydd. Ymunodd â Phant-yr-ochain, rhan o grŵp Brunning & Price, fel cogydd iau heb unrhyw brofiad cegin proffesiynol blaenorol. Llai na thair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei ddyrchafu’n uwch gogydd adran, cwblhaodd ei brentisiaeth Coginio Proffesiynol lefel 2 yn gynt na’r disgwyl, symudodd ymlaen i brentisiaeth lefel 3 ac enillodd medal aur yng nghategori Celfyddydau Coginio yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2026.
Mae ei gyflawniadau yn dangos sut y gall prentisiaethau helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder a chyflawni eu huchelgeisiau, beth bynnag eu hoedran neu brofiad gyrfa flaenorol.
Dysgu Trwy Brentisiaethau
O’r cychwyn cyntaf, cofleidiodd Adam pob cyfle i ddysgu a datblygu. Trwy ei brentisiaeth Coginio Broffesiynol Lefel 2 gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC), enillodd y sgiliau ymarferol, y wybodaeth dechnegol a’r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen i ffynnu mewn cegin broffesiynol.
Fe wnaeth y gefnogaeth a gafodd gan ei aseswr CHC a’i gydweithwyr ym Mhant-yr-Ochain ei helpu i fagu hyder a symud ymlaen yn gyflym. Cwblhaodd ei brentisiaeth yn gynt na’r disgwyl a chyflawnodd cymwysterau Sgiliau Hanfodol lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg, gan oresgyn heriau a oedd wedi effeithio arno yn yr ysgol.
Dywedodd Adam:
“Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un os nad ydyn nhw’n hapus ac eisiau gwneud rhywbeth gwell gyda’u bywyd ac i newid eu gyrfa neu fynd yn ôl i waith, dydych chi byth yn rhy hen i astudio ar gyfer prentisiaeth. Gallwch chi wneud prentisiaeth beth bynnag fo’ch oedran ac mae’n cynnig ail gyfle i fynd i swydd neu sector newydd y mae gennych ddiddordeb ynddo.”
Cymorth gan Gyflogwr yn Gyrru Llwyddiant
Mae Pant-yr-Ochain a Brunning & Price wedi chwarae rhan ganolog yn natblygiad Adam. Gan gydnabod ei ymrwymiad a’i botensial, cefnogodd y cwmni ei ddilyniant o Gogydd Iau i Gogydd Adran ac yna’n Uwch Gogydd Adran.
Fe wnaethant hefyd ei annog i gymryd rhan mewn cystadlaethau a chyfleoedd hyfforddiant arbenigol, gan gynnwys profiadau ym mecws Gary Usher a lleoliadau mewn ceginau o’r ansawdd gorau, gan ei helpu i ehangu ei wybodaeth a mireinio ei sgiliau.
Rhagori mewn Cystadlaethau Coginio
Gyda chefnogaeth ei gyflogwr a Chwmni Hyfforddiant Cambrian, cystadlodd Adam mewn amrywiaeth o gystadlaethau coginio a’i heriodd i berfformio ar lefel uchel.
Mae ei gyflawniadau yn cynnwys ennill medal aur yng nghategori Celfyddydau Coginio yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2026 a dod yn gystadleuydd prentis â’r sgôr uchaf yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r profiadau hyn wedi’i helpu i ddatblygu’n broffesiynol, magu hyder a meincnodi ei sgiliau yn erbyn rhai o gogyddion newydd gorau yng Nghymru.
Wrth fyfyrio ar ei lwyddiant, dywedodd Adam:
“Roedd cystadlaethau yn fy ngwthio i gamu allan o’r meysydd sy’n gyfarwydd i mi a fy ngwneud yn well cogydd. Roedd ennill aur yn foment balch, ond y cyflawniad mwyaf yw gweld pa mor bell rydw i wedi dod mewn cyfnod mor fyr.”
Cyfle sy’n Newid Bywyd
Canmolodd Jimmy ymrwymiad, penderfyniad a pharodrwydd Adam i gofleidio pob cyfle.
“Mae hon yn stori mor wych. Unwaith yn joci llwyddiannus i gogydd talentog. Rydyn ni mor falch o fod yn rhan o’r daith gydag Adam a Mel a’r tîm yn Hyfforddiant Cambrian. Dyma beth yw dysgu oedolion. Nid yn unig mae Adam yn gogydd gwych ond mae’n cael ei garu yn y dafarn gan y staff. Mae’n weithiwr caled iawn ac wrth ei fodd yn dysgu. Mae wedi bod yn bleser ei gael ar y tîm ac mae’n wych ei weld yn disgleirio trwy goginio. Boed i’r daith barhau.”
Ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion, mae stori Adam yn ein hatgoffa nad yw prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc sy’n ymuno â’r gweithle yn unig. Trwy gefnogaeth Pant-yr-Ochain, Brunning & Price a Chwmni Hyfforddiant Cambrian, mae Adam wedi trawsnewid gyrfa yn broffesiwn arobryn, gan brofi nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu, symud ymlaen a llwyddo.
Dywedodd Adam:
“Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un os nad ydyn nhw’n hapus ac eisiau gwneud rhywbeth gwell gyda’u bywyd ac i newid eu gyrfa neu fynd yn ôl i waith, dydych chi byth yn rhy hen i astudio ar gyfer prentisiaeth. Gallwch chi wneud prentisiaeth beth bynnag fo’ch oedran ac mae’n cynnig ail gyfle i fynd i swydd neu sector newydd y mae gennych ddiddordeb ynddo.”
Dywedodd James Makein: