Mae asiantaeth recriwtio lwyddiannus yn Wrecsam wedi manteisio ar raglen TwfSwyddi Cymru (TSC) Llywodraeth Cymru i gynyddu ei gweithlu trwy fanteisio ar y gronfa o dalent ifanc ddi-waith yng Ngogledd Cymru.

Mae Recruit4staff, sydd â thîm o 17 aelod o staff, wedi recriwtio pum gweithiwr trwy’r rhaglen. Aeth pedwar ohonynt ymlaen i swyddi parhaol yn llwyddiannus â’r asiantaeth ar ôl chwe mis.

Anogodd Paul Stevens, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth, gyflogwyr eraill ledled Cymru, sydd eisiau tyfu eu busnesau, i ystyried TSC cyn i’r rhaglen ddod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

“Yn sicr mae Twf Swyddi Cymru yn gyfle y dylai cyflogwyr ystyried ac mae’r broses yn hawdd ac yn eithaf syml," dywedodd. "Roeddem braidd yn amheus ynglŷn â’r rhaglen i ddechrau, ond gwelsom fod yna rhai pobl ifanc awyddus, da allan yna’n chwilio am gyfleoedd.

“Rydym yn falch â’r cymorth cyllido, oherwydd ei bod yn cymryd nifer o fisoedd i gael pobl yn gyfarwydd â systemau ein gwaith. Roeddem yn awyddus i ddechrau cynyddu nifer ein staff mewnol ac roeddem yn meddwl y byddai’r rhaglen yn ddull cost-effeithiol o wneud hynny.”

Dyluniwyd TSC i alluogi busnesau sy’n tyfu ledled Cymru i greu cyfleoedd gwaith unigryw, cyffrous a chynaliadwy ar gyfer pobl ifanc sy’n ddi-waith ac yn barod am swydd rhwng 16-24 mlwydd oed.

Telir yr isafswm cyflog cenedlaethol, neu uwch, i gyfranogwyr am o leiaf 25 awr yr wythnos. Mae cyflogwyr yn derbyn ad-daliad 50% tuag at gyflogau’r unigolyn ifanc a gyflogir am chwe mis ond mae’n rhaid cynnig cyfleoedd swydd go iawn yn ychwanegol at eu hanghenion gweithlu presennol ac nid lleoliad gwaith.

 

Hysbysebir swyddi gwag TSC trwy adran ar wefan Gyrfa Cymru, y mae cyflogwyr yn cael mynediad ati â chyfrinair. Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cefnogi’r rhaglen.

Mae Recruit4staff, sy’n bwriadu cyflogi tri aelod o staff arall yn y flwyddyn nesaf, wedi manteisio ar y rhaglen trwy’r darparwr hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd hefyd yn darparu rhaglenni hyfforddiant prentisiaeth i wella sgiliau staff presennol yr asiantaeth.

Un o’r tri recriwt TSC sy’n gweithio i’r asiantaeth ar hyn o bryd yw Rebecca May, 22 oed o Wrecsam, sydd wedi sicrhau swydd barhaol fel adnoddwr recriwtio. Mae hi bellach yn gweithio tuag at brentisiaeth mewn Busnes a Gweinyddiaeth.

Mae gan Rebecca radd mewn cyfryngau a dawns, ac roedd hi’n gweithio mewn manwerthu pan oedd hi yn y brifysgol ac am wyth mis wedyn cyn gwneud cais am swydd TSC Recruit4staff ym mis Mawrth y llynedd.

“Mae’r rhaglen wedi bod yn gefnogol iawn i’m gwaith a chyflogaeth ac wedi rhoi cyfle i mi weithio tuag at brentisiaeth. Rwy’n gobeithio ei chwblhau erbyn diwedd eleni” meddai hi. “Hoffwn symud ymlaen at Brentisiaeth Uwch â’r cwmni.

“Yn sicr buaswn yn argymell Twf Swyddi Cymru i bobl ifanc eraill sy”n chwilio am gyflogaeth.”

Mae portffolio recriwtio Recruit4staff, sydd hefyd â swyddfa yn Telford, yn cynnwys gweithgynhyrchu, peirianneg, gwyddonol, rheoli traffig, logisteg a’r gadwyn gyflenwi, cyllid, IT, adeiladu, arlwyo a lletygarwch.

Mae’r asiantaeth yn arbenigo mewn dod o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer swyddi dros dro a pharhaol ar draws y DU, ond â ffocws ar Ogledd Cymru a Chanolbarth Lloegr.

Caiff cyflogwyr sydd â diddordeb mewn cynnig cyfleoedd TSC eu hannog i gysylltu â Chwmni Hyfforddiant Cambrian am fwy o wybodaeth ar y rhif ffôn: 01938 555893.

#YmgysylltuYsbrydoliLlwyddo