Gwasanaeth Cwsmeriaid

Gwasanaeth cwsmeriaid yw’r ddarpariaeth gwasanaeth i gwsmeriaid cyn, yn ystod ac ar ôl prynu nwyddau. Gall pwysigrwydd y gwasanaeth i gwsmeriaid amrywio yn ôl y cynnyrch neu’r gwasanaeth, y diwydiant a’r cwsmer. Gall profiad y gwasanaeth cwsmeriaid newid y canfyddiad cyfan sydd gan gwsmer o’r sefydliad.

Mae cyflogwyr ar draws pob sector yn rhoi mwyfwy o sylw i ansawdd y gwasanaeth a ddarparant i gwsmeriaid. Gyrrir y ffocws hwn gan ofynion cwsmeriaid a chanddynt ddisgwyliadau cynyddol uwch ochr yn ochr â gwasanaeth mwy unigol.

Gall dysgu trwy brentisiaethau helpu staff i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i greu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.

Cynigiwn brentisiaethau mewn gwasanaeth Cwsmeriaid i weddu i bob maes o’r diwydiant; o lefel sylfaen i brentisiaethau uwch ledled Cymru. Gellir defnyddio’r prentisiaethau hyn ar draws ystod eang o sectorau a rolau swyddi.

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Mae prentisiaethau’n darparu rhaglen syml a rhesymol o ddysgu sy’n cyflwyno cyflawniad a chymwysterau dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu gyda chymwysterau cenedlaethol eraill.

Anelwn at roi cyfle i unigolion ddysgu’n fwy hyblyg a galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr, i gael cydnabyddiaeth am eu hyfforddiant.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ganolfan gymeradwy gydag Edexcel i gyflwyno hyfforddiant mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Cymwysterau Prentisiaeth ar gael;

  • Gwasanaeth Cwsmer Lefel 2
  • Gwasanaeth Cwsmer Lefel 3

Gall ein Swyddogion Hyfforddiant profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.

Cyflogwyr y gweithiwn gyda nhw:
Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gweithio gwych gyda chyflogwyr ledled Cymru yn y Diwydiant Lletygarwch ac rydym yn parhau i rwydweithio gyda chyflogwyr sy’n ystyried cymryd rhan mewn prentisiaethau fel rhan o’u rhaglen datblygu hyfforddiant. Peidiwch â chymryd ein gair amdano yn unig, gweld beth mae ein cyflogwyr yn ei ddweud amdanom ni.

Recriwtio prentis gyda’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau (AMS)
Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM i chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.

Cyllid Ar Gael
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid,  gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig.

Eisiau dysgu yn Gymraeg? Gallwn ddarparu pob rhaglen brentisiaeth yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.