Gorfu i Sam Hughes fwrw ei freuddwyd o yrfa yn y diwydiant ffilm i’r neilltu pan ddewisodd dynnu allan o gwrs prifysgol yn y celfyddydau perfformio er mwyn cefnogi ei deulu newydd.

Ond mae’r diwydiant cig ar ei ennill yn sgil colled y diwydiant ffilm, gan fod Sam wedi gwneud dechrau gwych iddo’i hun mewn gyrfa fel cigydd. Llai na dwy flynedd ar ôl dechrau prentisiaeth gyda Brian Crane Butchers ym Maesycwmer, ger Caerffili, mae’r gŵr 22 oed ymroddedig wedi ennill cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru’r Flwyddyn fis Tachwedd diwethaf.

Parhaodd ei ddawn i ennill pan gafodd ei enwi’n Brentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau cyntaf Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn 2017.

sam hughes butchery apprentice

Mae Sam, o Lanbradach, wedi dangos ymroddiad llwyr i gigyddiaeth ers dod yn brentis cyntaf i Chris Hayman ei gyflogi yn Brian Crane Butchers. Mae ei gynnydd cyflym wedi cynnwys cyflawni Prentisiaeth Sylfaen, gan symud ymlaen i Brentisiaeth ac mae’n gobeithio parhau i Uwch Brentisiaeth.

Yn sgil llwyddiant Sam, mae Chris bellach yn cymryd ymadawr ysgol fel ail brentis. Yn ogystal, mae Sam wedi ymweld â’i hen ysgol uwchradd i hyrwyddo prentisiaethau i ddisgyblion.

“Pan adewais y brifysgol, doeddwn i byth yn credu y byddwn i’n ennill gwobrau,” meddai Sam. ‘Mae fy hyder wedi cael hwb yn ystod fy amser fel prentis, oherwydd mae wedi cael gwared ar y swm enfawr o straen roeddwn i’n ei deimlo.

“Roeddwn i’n ofni y byddwn i’n gaeth i gyflogaeth ran-amser neu gontractau dim oriau drwy’r amser heb unrhyw sicrwydd oherwydd nad oeddwn i wedi mynd i’r brifysgol, ond mae cwblhau fy mhrentisiaeth wedi rhoi i mi hyder mawr yn fy nyfodol.

“Rydw i wedi taflu fy hun i mewn i’r rôl ac rydw i wir yn caru fy ngwaith. Rwy’n ceisio  gwneud mwy na’r disgwyl gyda phob cyfle, boed hynny’n sicrhau bod fy nghwsmeriaid yn cael gwasanaeth eithriadol drwy’r amser neu sicrhau bod fy sgiliau fel cigydd yn cynyddu bob amser.

“Rwy’n bwriadu cystadlu mwy yn y dyfodol er mwyn ennill cymaint o brofiad ag y gallaf. Gobeithio, o wneud fy ngorau yn y blynyddoedd nesaf, y byddaf yn cyflawni carreg filltir bersonol i mi fy hun ac yn rheoli fy siop fy hun.

“Rwy’n siarad gyda Chris am y dyfodol ac mae ganddo gynlluniau i mi symud ymlaen o fod yn weithiwr i bartner ym mhrosiectau’r dyfodol. Mae gennyf hyder mawr yn fy nyfodol; hyder efallai na fyddwn i wedi’i gael oni bai am fy mhrentisiaeth.

 

sam hughes butchery apprentice case study

“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried prentisiaeth yw gwnewch eich gwaith ymchwil ac ewch amdani. Mae gen i 10 ffrind a aeth i’r brifysgol a dim ond dau ohonynt sy’n defnyddio’u graddau mewn swyddi, ac mae ganddynt fenthyciad myfyriwr gwerth £9,000 i’w dalu.”

Rhoddodd Chris glod i ymroddiad Sam a dywedodd ei fod bellach yn aelod amhrisiadwy o’r tîm. “Mae Sam wedi gweithio’n eithriadol o galed o’r diwrnod cyntaf un, er gwaetha’r oriau hir ac weithiau’r amodau heriol sy’n dod o weithio yn y diwydiant,” ychwanegodd.

sam hughes butchery

“Mae wedi ymdrechu wrth bob cyfle i fodloni’n disgwyliadau uchel yn y siop, boed hynny wrth y gwasanaeth, yr arddangosfa neu wrth arloesi mewn cigyddiaeth. Dangosa Sam ei gariad at y grefft yn gyson trwy gadw i fyny gydag arloesedd yn y diwydiant trwy YouTube, y Rhyngrwyd a chylchgronau’r diwydiant er mwyn dod â llu o syniadau ac arfer gweithio newydd i’r siop.”

Cyfaddefodd iddo deimlo’n nerfus ynghylch cymryd ei brentis cyntaf oherwydd bydden nhw’n cydweithio mor agos yn y siop, ond dywedodd ei fod yn ffordd gost effeithiol o gyflogi a hyfforddi rhywun o’r dechrau y ffordd roedd yn dymuno. “Rydw i wedi bod yn lwcus iawn gyda Sam ac mae pethau wedi gweithio’n dda i ni,” meddai.

sam hughes apprentice case study quote

Rhoddodd glod i’r berthynas dda a ddatblygwyd gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian ers ei alwad cyntaf i Chris Jones, pennaeth yr uned fusnes ar gyfer cigyddiaeth.

“Gall rhai cwmnïau hyfforddiant dyfu’n rhy fawr ac maen nhw’n colli’r ochr bersonol,” ychwanegodd. Mae gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian graidd o gwmnïau allweddol maen nhw’n gweithio gyda nhw, ond maen nhw’n parhau i ddarparu gwasanaeth personol.

“Mae Frank Selby, y swyddog hyfforddiant, mewn cysylltiad yn rheolaidd ac mae’r cwmni’n darparu cefnogaeth y tu hwnt i’r hyn sydd ar y contract.”

#BreuddwydioDysguByw