Mae taith brentisiaeth Kieran Ray yn dangos sut y gall dysgu seiliedig ar waith helpu gweithwyr profiadol i fagu hyder, cryfhau sgiliau arwain a chreu effaith cadarnhaol yn eu sefydliadau.
Ar ôl cwblhau prentisiaeth rheoli lefel 3 ILM a chael ei enwi’n Prentis y Flwyddyn 2024 Cwmni Hyfforddiant Cambrian, mae Kieran wedi parhau i fuddsoddi yn ei ddatblygiad proffesiynol. Mae bellach yn ymgymryd â phrentisiaeth Arwain a Rheoli Lefel 5, gan gymhwyso sgiliau arwain a rheoli lefel uwch o fewn ei rôl fel Rheolwr Gwaith Cynnal yn Celtic Manor Resort.
Mae ei lwyddiant yn dangos nad yw prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc sy’n ymuno â’r gweithle yn unig. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr sy’n oedolion a gweithwyr profiadol i ennill cymwysterau cydnabyddedig, datblygu sgiliau newydd a pharatoi i ychwanegu at eu cyfrifoldebau.
Adeiladu Sgiliau Arwain Trwy Brentisiaethau
Cyn dechrau ei daith brentisiaeth, roedd Kieran eisoes wedi ennill profiad sylweddol yn y gweithle a dealltwriaeth gref o amgylcheddau gweithredol. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod bod angen iddo ddatblygu ei alluoedd arwain a rheoli er mwyn symud ymlaen ymhellach yn ei yrfa.
Trwy ei brentisiaeth lefel 3 a’i raglen lefel 5, mae Kieran wedi ennill yr hyder a’r wybodaeth i feddwl y tu hwnt i gyfrifoldebau gweithredol o ddydd i ddydd a mabwysiadau persbectif arwain ehangach.
Mae’r brentisiaeth wedi’i annog i feddwl yn fwy strategol am berfformiad tîm, diwylliant y gweithle, lles staff a datblygiad sefydliadol. Trwy gyfuno dysgu strwythuredig â defnydd ymarferol yn y gweithle, mae wedi gallu cymhwyso’u sgiliau a gwybodaeth newydd yn uniongyrchol o fewn ei rôl.
Wrth fyfyrio ar y profiad, dywedodd Kieran:
“Mae’r brentisiaeth wedi rhoi cyfle i mi edrych y tu hwnt i’m cyfrifoldebau o ddydd i ddydd a meddwl yn fwy strategol am arwain, diwylliant a chefnogi pobl. Rydw i wedi magu hyder wrth wneud penderfyniadau ac wedi datblygu sgiliau y gallaf gymhwyso’n uniongyrchol o fewn fy rôl pob dydd.”
Cyflwyno Gwelliannau i’r Gweithle
Elfen allweddol o brentisiaeth lefel 5 Kieran yw rheoli prosiectau. Trwy’r rhaglen, mae wedi archwilio ystod o ddulliau, fframweithiau a thechnegau gwerthuso er mwyn rheoli prosiect cyn eu cymhwyso mewn sefyllfaoedd gweithle go iawn.
Un enghraifft oedd archwilio pwysau gweithredol yn ystod ‘Blue Monday’ a chyfnodau heriol eraill trwy gydol y flwyddyn. Gan ddefnyddio’r sgiliau a ddatblygwyd trwy ei brentisiaeth, adolygodd Kieran ffactorau gan gynnwys lles staff, gofynion llwyth gwaith a phwysau yn y gweithle, gan annog myfyrio ar sut y gall busnesau gefnogi gweithwyr yn well.
Mae’r dull ymarferol hwn yn dangos sut mae prentisiaethau yn caniatáu i ddysgwyr gyfrannu at welliannau yn ystyrlon wrth ddatblygu eu galluoedd proffesiynol eu hunain.
Datblygu Dull Strategol a Chynhwysol
Cynyddodd hyder Kieran wrth i’w ddealltwriaeth o’r ffactorau ehangach sy’n dylanwadu ar berfformiad tîm a diwylliant yn y gweithle tyfu.
Mae ei brentisiaeth wedi ei annog i archwilio materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb, cynhwysiant a chynrychiolaeth, gan ei helpu i ystyried sut y gall arweinwyr creu amgylcheddau gwaith cefnogol a chadarnhaol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae’r persbectif ehangach hwn yn adlewyrchu ei ddatblygiad o reolwr sy’n canolbwyntio ar weithrediad i arweinydd mwy strategol sy’n deall pwysigrwydd pobl, diwylliant a lles sefydliadol.
Dysgu sy’n Creu Effaith Barhaol
Mae taith brentisiaeth Kieran wedi cryfhau ei sgiliau arwain a gwneud penderfyniadau, wedi cynyddu ei hyder ac wedi gwella ei allu i ddadansoddi heriau yn y gweithle a nodi cyfleodd i wella.
Mae ei ddilyniant o brentis lefel 3 arobryn i astudio lefel 5 yn dangos gwerth dysgu gydol oes a’r cyfleoedd y gall prentisiaethau eu creu i ddysgwyr sy’n oedolion sydd eisoes â phrofiad yn eu gyrfaoedd.
Ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion, mae stori Kieran ein hatgoffa nad oes terfyn oedran ar ddysgu. Trwy gefnogaeth Celtic Manor Resort a Chwmni Hyfforddiant Cambrian, mae Kieran yn parhau i ddangos sut y gall prentisiaethau helpu pobl i adeiladu ar eu profiad, ehangu eu sgiliau arwain a gwneud gwahaniaeth parhaol yn y gweithle.
Mae ei daith yn dangos nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu, tyfu a chymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
“Mae’r brentisiaeth wedi rhoi cyfle i mi edrych y tu hwnt i’m cyfrifoldebau o ddydd i ddydd a meddwl yn fwy strategol am arwain, diwylliant a chefnogi pobl. Rydw i wedi magu hyder wrth wneud penderfyniadau ac wedi datblygu sgiliau y gallaf gymhwyso’n uniongyrchol o fewn fy rôl pob dydd.”