Arweiniodd penderfyniad i anadlu bywyd newydd i mewn i ‘gelfyddyd farw’ ei thad-cu at lansio partneriaeth sydd wedi ennill gwobrau rhwng cwmni Brød – The Danish Bakery o Gaerdydd a Chwmni Hyfforddiant Cambrian.

Symudodd Betina Skovbro i’r Deyrnas Unedig o Ddenmarc ym 1998, ond yn 2015 sefydlodd ei becws a siop goffi annibynnol i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o bobyddion crefftus Danaidd.

Yn ogystal â llwyddo i ennill gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn 2019 yn nhrydydd Gwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau Hyfforddiant Cambrian Training, enwyd un o’i dri phrentis, Rebekah Chatfield, yn Brentis (Lefel 3) y Flwyddyn ar ôl troi ei hangerdd dros bobi yn yrfa.

“Roeddwn i’n meddwl y gallai fod yn gambl i gychwyn rhaglen Brentisiaeth oherwydd nad oes gennym unrhyw lwfans gwallau wrth bobi,” meddai Betina. “Mae’n golygu mod i’n disgwyl llawer gan fy staff ac weithiau y byddaf yn drwm iawn arnyn nhw, ond maen nhw wedi ymateb yn wych i’r rhaglenni hyfforddi.

“Roedd fy nhad-cu yn bobydd a dechreuais y busnes hwn oherwydd fy mod yn teimlo bod pobi crefftus yn gelfyddyd a oedd yn marw ac roeddwn eisiau gwneud rhywbeth yn ei gylch trwy hyfforddi’r genhedlaeth nesaf. Mae ein rhaglen Brentisiaeth yn sicr yn helpu â hynny. “

Ar hyn o bryd, mae Brød – The Danish Bakery yn darparu Tystysgrifau Lefel 2 a 3 ar gyfer Medrusrwydd mewn Sgiliau’r Diwydiant Pobi a gyflwynwyd yn gynnar yn hanes y cwmni.

“Cafodd hyn ei yrru gan ddau reswm allweddol,” eglurodd Betina. “Diffyg canfyddedig o bobyddion wedi’u hyfforddi yn y farchnad ac awydd i hyfforddi pobyddion mewn technegau pobi crefftus Danaidd er mwyn cynnal twf y busnes.

“Bellach, mae’n anodd dychmygu ein busnes heb y rhaglen Brentisiaeth. O’i dechreuad fel datrysiad i her, mae bellach wedi dod yn rhan hanfodol o’n gwaith.

“Rydym yn gweld yn uniongyrchol sut y mae ein prentisiaid yn datblygu a sut mae eu sgiliau a’u hyder yn gwella. Rydym hefyd yn gweld sut maen nhw’n tyfu fel pobl.”

Dywedodd Betina fod y rhaglen Brentisiaeth wedi galluogi’r busnes i gynyddu ei oriau agor, yn ogystal â chynhyrchu amrywiaeth a nifer ehangach o gynnyrch.

Hefyd mae’r gweithwyr wedi elwa ar dwf busnes â phrentisiaid yn mwynhau gwell cyfraddau cyflog, gofal iechyd preifat a’r cyfle i gymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddiant allanol.

Mae Brod yn cynnig cyfleoedd hyfforddi gwych i’w prentisiaid i ehangu eu gwybodaeth a chreu gwell dealltwriaeth o Bobi Danaidd, trwy eu hanfon allan i Ddenmarc, i weithio a chael profiad uniongyrchol o Bobi Danaidd.

“Rydym wedi gweld â’n llygaid ein hunain y budd cadarnhaol y gall prentisiaid ei wneud i fusnes bach, newydd,” ychwanegodd Betina. “Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i barhau â’r rhaglen hon ac edrychwn ymlaen at wylio cynnydd ein prentisiaid yn awr ac yn y dyfodol.”

Mae swyddog hyfforddi Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Mark Llewellyn, wedi gweithio’n agos â Betina i ddarparu rhaglen sy’n berthnasol i anghenion y cwmni.

“Mae’r rhaglen yn caniatáu i’r busnes ddatblygu ei staff o gwmpas eu hanghenion penodol eu hunain,” meddai Mark. “Caiff prentisiaid eu hyfforddi yn eu ffordd eu hunain sy’n golygu y gallant gyfrannu at y busnes yn gyflymach wrth gael eu cefnogi gan eu tîm mewnol yn ogystal â Chwmni Hyfforddiant Cambrian.”

#YmgysylltuYsbrydoliLlwyddo