Category: Archif 2018

Mae unigolyn blaenllaw yn y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi sôn am ei brofiad “syfrdanol” o dderbyn OBE gan y Tywysog Wiliam ym Mhalas Buckingham yn gynharach yn y mis. Disgrifiodd Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, y seremoni fel “cyfle unwaith mewn bywyd” fyth yn aros yn… Read more »

Cydnabuwyd cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn prentisiaethau, rhaglenni hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth gan un o gwmnïau hyfforddiant gorau Cymru mewn seremoni wobrwyo flynyddol nos Fercher. Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, ei ail seremoni Wobrwyo Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau flynyddol yn y Pafiliwn Rhyngwladol… Read more »

Mae bachgen yn ei arddegau yng Ngogledd Cymru wedi mynd o olchi sosbenni i fod yn gogydd medal aur mewn tair blynedd ar ôl cofrestru i ddilyn prentisiaeth mewn coginio proffesiynol. Enillodd Joseph Lloyd, 19 oed, o Drelawnyd, ger y Rhyl, y fedal aur am ei brif gwrs Cig Oen Cymru gorau yn y dosbarth… Read more »

Mae deunaw cyflogwr a dysgwr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaeth, sgiliau a hyfforddiant cyflogaeth a gyflwynwyd gan un o gwmnïau hyfforddiant gorau Cymru wedi’u cynnwys ar restr fer am wobrau. Bydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, a chanddynt swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, yn cyflwyno’i Wobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol yn… Read more »

Estynnir gwahoddiad i brentisiaid o bob cwr o’r DU roi eu sgiliau ar brawf a chofrestru gyda WorldSkills UK a chystadlu i brofi bod ganddynt y ddawn i gael eu galw’r gorau mewn Cigyddiaeth. Wrth i Brexit prysur agosáu a’r bwlch sgiliau ledu yn y DU, bydd Cystadlaethau WorldSkills UK yn cyflwyno’r ymgyrch sgiliau fwyaf,… Read more »

Cyflawnodd y cogydd dawnus Arron Tye un o uchelgeisiau ei yrfa pan dderbyniodd tlws Cogydd Iau Cymru neithiwr (nos Iau). Cipiodd y chef de partie 23 oed o Westy Carden Park, Caer ac sy’n gapten ar Dîm Coginio Iau Cymru, y teitl hynod ddymunol ar ôl rownd derfynol agos ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC) … Read more »

Ar adeg pan fo cefnogwyr rygbi Cymru mewn ing o hyd yn dilyn gorchfygiad dadleuol y Saeson ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Twickenham ddydd Sadwrn diwethaf, cafodd Gymru ragor o siom ddoe (dydd Iau). Daeth y ddwy wlad benben â’i gilydd eto, y tro hwn wrth i gogyddion ifanc dawnus gystadlu yng ngornest goginio’r… Read more »

Achos o dri chynnig i Gymro oedd hi i’r cogydd dawnus Tom Westerland a goronwyd yn Gogydd Cenedlaethol Cymru neithiwr (nos Iau). Ar ôl dod yn agos at ennill y teitl yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, dathlodd y prif gogydd 26 oed yng Ngwesty Lucknam Park, Colerne, fuddugoliaeth y tro hwn, a hynny mewn… Read more »

Coronwyd James Taylor o Simpsons Butchers, Swydd Lincoln, yn bencampwr cystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills 2017. Mae’r fuddugoliaeth yn cloi blwyddyn aruthrol i’r cigydd ifanc, a enwyd yn Gigydd Ifanc y Flwyddyn Marco Peerdeman y Meat Trades Journal ym mis Tachwedd a chynrychiolodd Prydain yng Nghystadleuaeth y Cigydd Ifanc Rhyngwladol ym Awstria. “Rydw i’n falch iawn o’r fuddugoliaeth,… Read more »