Mae Cartref Gofal Claremont Court yng Nghasnewydd, sy’n gofalu am bobl hŷn sy’n dioddef o ddementia, yn elwa o ymrwymiad y busnes i hyfforddi a datblygu staff.

 

Allan o weithlu o 96, mae gan y cartref 33 o brentisiaid sy’n gweithio tuag at Brentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Rheoli Lefelau 2 i 5 ac Arwain Tîm ar Lefel 2.

 

 Cefnogir pob prentis gan fentor yn y gweithle, gweithdai mewnol, dysgu grŵp a chymorth un-i-un pan fo angen.

“Mae’n bwysig iawn i ni sicrhau ein bod yn rhoi cyfleoedd i’r holl staff dyfu a’u galluogi i symud ymlaen yn eu gyrfa.”

Ymunodd llawer o aelodau staff â’r cartref heb gymwysterau, ond maent wedi mynd ymlaen i gyflawni Prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Lefelau 2 i 5, gyda rhai wedi symud ymlaen i astudio graddau nyrsio, meddygaeth a gwaith cymdeithasol. Mae rhai gweithwyr wedi symud ymlaen i fod yn rheolwyr neu’n ddirprwy reolwyr.

 

Meddai Deb Cottis, rheolwr hyfforddiant a pherfformiad y cartref: “Rwy’n falch iawn o ymrwymiad yr holl staff yn Claremont Court sydd wedi ymrwymo i’r Rhaglen Brentisiaeth yn llawn.”

 

 

 “Mae hyfforddiant yn adeiladu hyder, cymhwysedd, morâl, yn lleihau trosiant staff ac yn gwella ansawdd gofal i’n preswylwyr, gan roi hwb i’n henw da am gael gweithlu proffesiynol a brwdfrydig.”

 

 “Mae hyfforddiant yn ffactor allweddol wrth greu amgylchedd cartref llwyddiannus a diogel i’n preswylwyr sy’n ymddiried ynom ni.”