Beth yw’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd
Rhaglen ar gyfer oedolion yw’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd. Fe fydd yn eich arfogi a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn cael swydd neu symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch fel prentisiaeth neu addysg bellach. Mae’r Rhaglen yn ffocysu ar leoliadau profiad gwaith o safon uchel a, ble’n gymwys, gwella Sgiliau Hanfodol.
Am Ba Hyd?
Rhaglen rhan amser (hyd at 16 awr yr wythnos) sy’n para am gyfanswm o 26 wythnos yw hi.
Pwy All Fynychu?
Mae’r Rhaglen yn addas ar gyfer oedolion dros 18, sy’n edrych am swydd, sy’n barod am swydd ac hefyd sy’n derbyn budd-daliadau megis Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Gredyd Cynhwysol (UC).
Cefnogaeth CHC
Mae gennym dim profiadol o aseswyr a thiwtoriaid fydd yn gallu eich helpu gyda chymwysterau chi tuag at hyfforddiant, prosiectau cymunedol, chwilio am swyddi, datblygiad personol a lleoliadau profiad gwaith ar draws Cymru.
Pam Ymuno a Ni?
Fe fydd y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd yn eich galluogi i gynyddu eich tebygolrwydd o gael swydd, ennill cymwysterau gwerthfawr a gwella eich hunan-hyder, sgiliau datblygiadau personol ac adeiladu CV cynhwysfawr.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Chwmni Hyfforddiant Cambrian ar; 01938555893 neu ebostiwch info@cambriantraining.com