Gŵr ifanc gyda chariad am goginio yw’r prentis cogydd Thomas Martin sydd eisoes wedi cael profiad o weithio yn rhai o fwytai ‘bwyta mewn steil’ gorau Llundain.

Mae’n 22 oed ac yn dilyn llwybr gyrfa y mae’n gobeithio y bydd yn ei dywys i gyflawni ei uchelgais o agor ei fwyty ei hun yng Nghaerdydd er mwyn hyrwyddo cynhwysion gorau un Cymru.

Picture caption: Thomas Martin – yn ceisio gwneud enw iddo ef ei hun fel cogydd.

Wedi iddo gyflawni Prentisiaeth Sylfaen yn ddiweddar mewn Coginio Proffesiynol gyda’r darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian, mae’n bwriadu symud ymlaen i brentisiaeth y flwyddyn nesaf.

Yn gynharach eleni, fe’i gwobrwywyd am ei gariad a’i ymroddiad i ddysgu pan gafodd ei enwi’n Brentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae’n gweithio fel chef de partie yn Holm House Hotel, Penarth ar hyn o bryd, ond mae wedi gweithio mewn amryw fwytai cadwyn a bistro yng Nghaerdydd gan gynnwys Chapel 1887, yn ogystal â Stadiwm Principality, Caerdydd fel rhan o’r tîm arlwyo ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr llynedd.

Roedd ei brofiad gwaith yn Llundain yn cynnwys cyfnodau ym Mwyty Gordon Ramsay, Le Gavroche Michel Roux Junior,  Marcus Wareing at the Berkley, bwyty Outlaw Nathan Outlaw yn y brifddinas a World’s End Market, Chelsea.

“Roedd yn brofiad gwych a phwy na fyddai’n achub ar y cyfle i weithio mewn bwytai tair seren Michelin yn 20 neu’n 21 oed,” meddai. “Rydw i wedi dysgu am foeseg gwaith a’r ansawdd a’r safonau angenrheidiol ar y lefel uchaf.

“Newidiodd y profiad yr hyn roeddwn i eisiau o’m gyrfa a gwnaeth y llwybr yr oedd angen i mi fynd ar ei hyd yn llawer cliriach. Fy uchelgais yw cael fy mwyty fy hun yng Nghaerdydd sy’n hyrwyddo cynhwysion Cymreig. Rydw i eisiau chwifio’r faner dros Gymru.

“Dylai fod rhywle yn y brifddinas sy’n trin cynhwysion Cymreig mewn ffordd fodern ond syml. Rwy’n 22 erbyn hyn ac, rwy’n cadw dweud wrthyf fy hun, erbyn y bydda i’n 30 oed, byddaf yn berchen ar fy mwyty fy hun.”

Er mwyn ei helpu ar hyd y ffordd, mae’n bwriadu parhau ar ei daith ddysgu, gan hogi ei sgiliau coginio ar hyd y ffordd. Bydd yn cystadlu am deitl Cogydd Iau Cymru eto yn 2019 ar ôl cyrraedd y rownd derfynol eleni.

“Rydw i wedi dysgu cymaint o gystadlu am y tro cyntaf eleni a bellach yn gwybod yn union beth y mae angen i mi ei wneud i baratoi ymlaen llaw,” meddai.

Mae Thomas, a aeth ati’n wreiddiol i fod yn saer pan adawodd yr ysgol cyn darganfod ei gariad at goginio, yn priodoli’i hyder a ddatblygodd i weithio yn Llundain i’w brentisiaeth.

“Oni bai am gefnogaeth ac anogaeth Cwmni Hyfforddiant Cambrian, fyddwn i ddim wedi mynd i Lundain, a oedd yn bwynt canolog yn fy ngyrfa,” esboniodd. “Roedd yn benderfyniad mawr iawn i fyw yn Llundain ar fy mhen fy hun.

“Mae llawer i’w ddweud o blaid prentisiaethau.” Dywedodd Thomas

“Fy nghyngor i bobl ifanc eraill sy’n ystyried bod yn gogydd yw: os oes gennych gariad ato, peidiwch â gadael i unrhyw beth sefyll yn eich ffordd.”

#BreuddwydioDysguByw