Mae prentisiaethau yn helpu creu staff medrus sy’n deall eu rolau’n llawn wrth ddarparu gofal iechyd i’r gymuned, amlygwyd ei werth yn ystod y pandemig Covid – 19.

Dyma pam mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth, rhan o’r Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn gweithio’n agos gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian i ddarparu Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaethau Glanhau a Chymorth a Phrentisiaeth mewn Goruchwyliaeth Cymorth a Glanhau i 17 gweithwyr.

“Mae staff medrus yn golygu amgylchedd hapus yn y gweithle ac mae hynny’n budd i bawb, gan gynnwys y gymuned,” meddai Steve James.

Mae’r rhaglen brentisiaeth yn cael ei hystyried yn bwysig oherwydd mae’n rhoi cyfle i bobl, efallai nad ydynt wedi gwneud cystal yn yr ysgol, i feincnod eu sgiliau trwy gyflawni cymhwyster seiliedig ar waith.

Canmolodd cyfarwyddwr rheoli Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Arwyn Watkins, OBE, adran gwasanaethau gwestai’r Ysbyty Cyffredinol Bronglais am ei ymrwymiad ac ymroddiad i’r rhaglen prentisiaeth ac am waith teilwng ei staff yn ystod y pandemig.

 

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. 

“Ni all rhywun ond dychmygu’r heriau wynebodd staff yr Ysbyty dros y ddwy flynedd diwethaf,” meddai. “Mae’r gwaith maent yn ei wneud yn dyngedfennol ac yn sicrhau bod yr ysbyty’n gweithio.”