Bydd gan Hyfforddiant Cambrian chwech o’r dysgwyr a’r cyflogwyr gorau yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru nos yfory (nos Iau) yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd. Anfonwn ein dymuniadau gorau at Brød (The Danish Bakery) ym Mhontcanna, Caerdydd a’u pobydd ifanc Rebekah Chatfield, Andrew Bennett o Bryson Recycling, Abergele, Lee Price o Raeadr Gwyr sy’n gweithio… Read more »

“Os oes gennych dân yn eich bol am rywbeth, does dim yn y byd a all chwalu’r awydd i lwyddo,” meddai Rebekah Chatfield, pobydd ifanc dawnus yn Brød (The Danish Bakery Ltd) yng Nghaerdydd. Trodd Rebekah, 24 oed, o Abertyleri, ei ddiddordeb mewn pobi yn swydd lawn amser pan benderfynodd newid cyfeiriad ar ôl graddio… Read more »

Daeth 16 o gigyddion gorau o bob cwr o’r byd i Sacramento’r wythnos diwethaf i bwyso a mesur y gystadleuaeth ar gyfer Her Cigyddion y Byd hynod ddisgwyliedig a gynhelir ym mis Medi 2020. Daeth capteiniaid y timau, pob un yn cynrychioli un o’r 16 gwlad sy’n cystadlu yn Her Cigyddion y Byd, at ei… Read more »

I ddathlu ein Bwyd Môr Cymreig gwych a’ch helpu i greu bwyd blasus yn y gegin i chi a’ch teulu, beth am roi cynnig ar y rysáit wych hon o Gregyn Gleision Cymreig mewn Cwrw Cymreig. Dyma ganllaw cam-wrth-gam i baratoi a choginio’r saig Bwyd Môr wych hon: Cynhwysion 75g o fenyn 2 Foronen (wedi’u… Read more »

Dim ond mis ar ôl iddi gychwyn ar ei Phrentisiaeth Uwch, roedd rhaid i Lee Price ymdopi â marwolaeth Rob, ei gŵr ers 36 o flynyddoedd. Cafodd anogaeth a chefnogaeth i barhau â’r hyfforddiant gan ei chydweithwyr, ei chyflogwr, ei darparwr hyfforddiant a’i theulu a llwyddodd i gwblhau’r cymhwyster naw mis yn gynnar er eu… Read more »

Capsiwn y llun: Y Cyfarwyddwr Elen Rees, y rheolwr marchnata Katy Godsell, a’r cydlynydd gweithgareddau ‘rhoi cynnig arni’ Vicky Watkins o Hyfforddiant Cambrian Training yn cyflwyno’r offer pêl-rwyd a hoci i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Caereinion dan ofal y prifathro Philip Jones a’r athrawes addysg gorfforol, Catrin Jones. Mae gan y timau pêl-rwyd a hoci sy’n… Read more »

Dydi becws a siop goffi Daneg poblogaidd yng Nghaerdydd, Brød, ddim wedi edrych yn ôl ers iddynt gyflogi eu prentisiaid cyntaf yn fuan ar ôl agor y busnes bedair blynedd yn ôl. Sefydlwyd Brød (The Danish Bakery Ltd), ar Wyndham Crescent yn ardal Pontcanna, gan Betina Skovbro. Ar hyn o bryd mae gan y busnes… Read more »

Mae dyfodiad prentisiaid i gwmni dŵr ffynnon a diodydd meddal Radnor Hills o Bowys yn 2017 wedi cael “effaith wirioneddol drawsnewidiol” ar y gweithwyr a thwf y busnes. Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 181 o bobl yn Heartsease, ger Trefyclo, wedi gweld twf o 20 y cant yn y busnes yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn cynnwys… Read more »

Mae Andrew Bennett, sydd yn rownd derfynol y Gwobrau, yn benderfynol o beidio â gadael i ddyslecsia na’r ffaith ei fod wedi colli ei olwg mewn un llygad ei rwystro rhag cael gyrfa lwyddiannus. Mae’r Cynghorydd Ailgylchu 51 oed o Abergele wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, mae’n gweithio ar Brentisiaeth ac mae… Read more »